All In Accessibility Standards

Cyfathrebu Digidol

Canllawiau clir ar ryngweithio a chreu cynnwys ar-lein cynhwysol y mae modd eu defnyddio. Mae’r Safonau hyn yn dod o egwyddorion Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Maent yn ymdrin â nodweddion gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, archebu tocynnau, arolygon a ffurflenni.

Mae’r Safonau hyn, sydd yn seiliedig ar egwyddorion WCAG 2.2, yn helpu lleoliadau diwylliannol i greu profiadau digidol di-dor sy’n hawdd ymgysylltu â nhw.

1. Gwybodaeth am Fynediad

Mae’r Safonau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar yr wybodaeth am fynediad sydd ar gael i ymwelwyr. Maent yn rhoi arweiniad i leoliadau ar sut mae creu a fformatio ffynonellau gwybodaeth er mwyn i amrywiaeth eang o ymwelwyr allu eu defnyddio. Mae’r adran hon hefyd yn rhoi sylw i rai fformatau gwahanol sy’n cael eu defnyddio’n aml i rannu gwybodaeth am leoliadau, fel canllawiau fideo a straeon gweledol. 
Llun dalfan

1.01 Tudalennau Gwybodaeth am Fynediad

Ewch ati i greu tudalen gwybodaeth am fynediad sy’n rhoi gwybodaeth glir ac ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau er mwyn helpu pobl i ddeall hygyrchedd eich lleoliad neu eich digwyddiad.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

1.02 Canllawiau Fideo a Gweledol

Darparwch ganllawiau fideo a chanllawiau gweledol hygyrch sy’n bodloni anghenion a dewisiadau eich cynulleidfa, yn helpu pobl i ddeall beth i’w ddisgwyl yn eich lleoliad neu’ch digwyddiad ac yn dangos sut bydd eu hanghenion mynediad yn cael eu bodloni.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

1.03 Cysylltu â Ni

Cyfleu eich gwybodaeth hygyrchedd yn glir a darparu amrywiaeth o ffyrdd hygyrch o gysylltu â chi

This content is only available to logged in users.

2. Defnyddioldeb Cynnwys

Mae’r Safon hon yn canolbwyntio ar brofiad ymwelwyr o’ch gwefan. Yn hytrach na nodi pa gynnwys dylai fod yno, mae’r Safon yn disgrifio sut i sicrhau bod dod o hyd i’r cynnwys yn hawdd, bod modd ei ddefnyddio’n rhwydd, a bod symud drwyddo’n hawdd hefyd. Dyma gategori trosolwg sy’n canolbwyntio ar y brif wefan a’i phrif nodweddion mynediad. Gellir defnyddio llawer o’r wybodaeth a geir ar gyfer gwefannau yn y Safon hon mewn meysydd eraill hefyd.
Llun dalfan

2.01 Iaith Syml a Darllenadwyedd

Defnyddiwch iaith syml i wneud gwybodaeth yn hawdd ei deall, er mwyn i fwy o bobl allu darllen, defnyddio a gweithredu ar yr wybodaeth yn hyderus. Gwiriwch eich cynnwys i wneud yn siŵr ei bod yn ddarllenadwy.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

2.02 Defnyddio Lliw

Dylech ystyried hygyrchedd wrth wneud dewisiadau am liw ac osgoi dibynnu ar liwiau’n unig neu ddefnyddio cyfuniadau lliw heb gyferbyniad da i gyfleu gwybodaeth. Gwiriwch eich dewisiadau lliw i sicrhau eu bod yn gweithio i bawb.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

2.03 Lluniau, Testun Amgen a Disgrifiadau o Luniau

Dylech wneud lluniau’n hygyrch drwy ddefnyddio testun amgen a disgrifiadau o’r lluniau sy’n disgrifio beth mae’r llun yn ei ddangos neu’n ei olygu.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

2.04 Gosodiadau a Throshaenau Hygyrchedd

Ystyriwch sut rydych chi’n defnyddio gosodiadau a throshaenau hygyrchedd er mwyn caniatáu i ymwelwyr â’ch gwefan addasu sut mae eich gwefan yn edrych neu’n gweithio i fodloni eu hanghenion.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

2.05 Fideos, Capsiynau a Disgrifiadau Sain

Ychwanegwch gapsiynau, disgrifiadau sain, iaith arwyddion a thrawsgrifiadau at eich fideos er mwyn i fwy o bobl allu gwylio, gwrando a darllen yn y ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

2.06 Chwaraewyr Fideo Hygyrch

Defnyddiwch chwaraewyr fideo hygyrch fel bod gan eich fideo fotymau a rheolyddion hygyrch, a’u bod yn gweithio’n dda gyda bysellfyrddau a darllenwyr sgrin.

This content is only available to logged in users.

3. Dolenni, Botymau, Ffurflenni ac Arolygon

Mae’r categori hwn yn canolbwyntio ar ba mor hygyrch a hawdd eu defnyddio yw eich gwefan a’ch prosesau adborth ar gyfer amrywiaeth eang o ymwelwyr. Mae’r Safonau technegol yn ymdrin â nodweddion rhyngweithio, fel dolenni, botymau a dangosyddion ffocws, gan ddarparu manylebau ac esboniadau mewn iaith syml. Rydyn ni hefyd yn edrych ar sut y gellir dylunio ffurflenni ac arolygon i gasglu adborth mewn ffordd gynhwysol.
Llun dalfan

3.01 Testun Dolen Disgrifiadol

Dylech ddarparu testun dolen disgrifiadol sy’n dweud wrth bobl ble mae’r ddolen yn mynd neu beth fydd y ddolen yn ei wneud.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

3.02 Botymau Adnabyddadwy

Crëwch fotymau sy’n edrych fel botymau, sy’n ddigon mawr i bobl eu defnyddio ac sy’n dweud wrth bobl beth fydd yn digwydd pan fyddant yn clicio arnynt.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

3.03 Dangosyddion Ffocws

Darparwch ddangosyddion ffocws hygyrch sy’n helpu pobl i adnabod dolenni’n weledol ac i wybod lle maen nhw ar dudalen, er enghraifft wrth ddefnyddio bysellfwrdd i lywio ar wefan.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

3.04 Codau QR

Ewch ati i greu codau QR sydd wedi’u labelu’n glir ac sy’n cael eu cefnogi gan fformatau gwybodaeth hygyrch eraill. Dylech ystyried defnyddio adnoddau codau QR hygyrch i wella hygyrchedd.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

3.05 Ffurflenni

Creu ffurflenni sy’n hawdd eu deall, eu cwblhau a’u cyflwyno.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

3.06 Arolygon

Crëwch arolygon mewn ffyrdd sy’n hawdd eu deall a’u llenwi.

This content is only available to logged in users.

4. Archebu Tocynnau

Mae’r Safonau hyn yn ymdrin â’r profiad o archebu tocynnau gan gynnwys canfod beth sydd ar gael, prynu a chael gafael ar archebion. Maent yn amlinellu’r ffyrdd y gall ymwelwyr ddewis sedd neu ardal wylio, archebu nodweddion mynediad ychwanegol fel tocyn i gyfaill hanfodol neu gynorthwyydd personol a darparu tystiolaeth i brofi eu bod yn gymwys.
Llun dalfan

4.01 Dewis Sedd a Chynlluniau Seddi

Dylech rannu gwybodaeth am hygyrchedd seddi mewn ffordd glir a hygyrch fel bod pobl yn gallu dewis lle maen nhw’n eistedd mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

4.02 Gwybodaeth am yr Olygfa o’r Sedd

Dylech ddarparu lluniau hygyrch sy’n dangos yr olygfa o’r sedd i helpu pobl i ddeall beth fyddan nhw’n ei weld o sedd neu safle penodol.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

4.03 Terfynau Amser y Gellir eu Haddasu

Dylech ddarparu ffyrdd eraill o oedi, ymestyn neu ddiffodd terfynau amser ar gyfer prosesau ar-lein fel archebu tocynnau er mwyn i bobl allu dewis gwneud hyn os nad yw terfynau amser yn hygyrch iddyn nhw. Cofiwch ddarparu ffyrdd eraill o archebu os nad yw hyn yn ymarferol.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

4.04 Rhestrau o Ddigwyddiadau a Dyddiadau

Dylech gyflwyno rhestrau o ddigwyddiadau, gan gynnwys dyddiadau ac amseroedd mewn ffordd glir a hygyrch fel bod pobl yn gallu gweld beth sydd ymlaen, hidlo’r canlyniadau ac archebu tocynnau’n rhwydd yn defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau a thechnoleg gynorthwyol.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

4.05 Eiconau a Symbolau

Defnyddiwch eiconau neu symbolau syml, hygyrch a chyson sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cyfleu gwybodaeth yn gyflym i gefnogi testun ac i helpu pobl i ddeall gwybodaeth.

This content is only available to logged in users.

5. Fformatau Eraill

Mae’r Safonau hyn yn ymwneud â mwy na mynediad at wefannau yn unig, maent yn rhoi sylw i fformatau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys fformatau ar-lein fel cyfryngau cymdeithasol, fformatau y gellir eu lawrlwytho fel atodiadau a fformatau hybrid fel profiadau ymgolli. Mae 5.04 Fformatau Eraill yn canolbwyntio ar y fformatau sydd wedi’u dylunio gan bobl anabl i bobl anabl, fel y fformat Hawdd ei Ddeall. Mae Dehongli Iaith Arwyddion mewn Safon ar wahân er eglurder, ac mae’r safon honno’n cynnwys canllawiau ar sut i gynnwys y fformat hwn yn ddigidol.
Llun dalfan

5.01 E-byst a Chylchlythyrau

Crëwch e-byst a chylchlythyrau sydd yn glir, yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio gyda chynlluniau darllenadwy, dolenni disgrifiadol, testun amgen ar gyfer lluniau, ac opsiynau fformatau eraill.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

5.02 Cyfryngau Cymdeithasol

Dylech greu cynnwys mor hygyrch â phosibl ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gyda disgrifiadau o luniau, capsiynau a thestun darllenadwy.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

5.03 Atodiadau, Dogfennau a PDFs

Dylech sicrhau bod fformatau safonol o wybodaeth y gellir eu lawrlwytho mor hygyrch a phosibl, gan fformatio, defnyddio iaith syml ac elfennau eraill. Darparwch amrywiaeth o opsiynau i’w lawrlwytho.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

5.04 Fformatau Eraill

Darparu gwybodaeth mewn amrywiaeth o fformatau fel Hawdd ei Ddeall er mwyn i bobl allu cael gafael ar eich cynnwys a’i ddeall mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

5.05 Dehongli Iaith Arwyddion

Mae ychwanegu gwasanaeth cyfieithu neu ddehongli Iaith Arwyddion ar eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol, neu gynnwys digidol yn gwneud eich cyfathrebiadau digidol yn gynhwysol o ddefnyddwyr iaith arwyddion.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

5.06 Digwyddiadau Rhithiol a Ffrydio Byw

Dylech wneud digwyddiadau rhithiol a ffrydiau byw yn hygyrch drwy gynnig capsiynau, Iaith Arwyddion Prydain, disgrifiadau sain a chyfarwyddiadau ymuno clir.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

5.07 Profiadau Ymgolli

Gwnewch brofiadau ymgolli, Realiti Ymestynnol (XR), Realiti Rhithwir (VR), a Realiti Estynedig (AR) yn hygyrch drwy gynnig fformatau eraill, a ffyrdd gwahanol o gymryd rhan.

This content is only available to logged in users.

6. Monitro a Gwelliant Parhaus

Mae’r Safonau hyn yn rhoi arweiniad ar reoli hygyrchedd digidol yn y tymor byr a’r tymor hir. Maent yn amlinellu sut i asesu eich lefel bresennol, olrhain cynnydd dros amser a sicrhau bod gan staff y sgiliau a’r ymwybyddiaeth gywir. Maent hefyd yn ymdrin â gweithio’n effeithiol gyda thrydydd partïon a chyfleu safonau hygyrchedd eich sefydliad yn glir i ymwelwyr.
Llun dalfan

6.01 Hyfforddiant Staff mewn Hygyrchedd Digidol

Dylech hyfforddi staff i ddeall beth yw hygyrchedd digidol, a sut maen nhw’n defnyddio hygyrchedd digidolyn eu rôl, er mwyn iddyn nhw allu creu cynnwys a phrofiadau hygyrch.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

6.02 Asiantaethau a Chyflenwyr

Cynnwys hygyrchedd ym mhob cam gan gynnwys y broses ddethol a gweithio gydag asiantaethau, datblygwyr a chyflenwyr.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

6.03 Mabwysiadu Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG)

Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) yw’r safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd digidol.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

6.04 Archwiliadau, Profi, ac Adborth

Mae cynnal archwiliadau rheolaidd yn helpu i nodi rhwystrau, cefnogi dyluniad cynhwysol, cydymffurfio â’r gyfraith a chynnal cylch o welliannau parhaus.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

6.05 Datganiadau Hygyrchedd

Mae datganiad hygyrchedd yn egluro pa mor hygyrch yw eich gwefan, pa rwystrau sy’n bodoli, a sut gall pobl gael cymorth neu ofyn am wybodaeth mewn fformatau eraill.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

6.06 Canllawiau Arddull Hygyrchedd

Gall timau cynnwys ddefnyddio dull cyson gyda chanllawiau arddull sy’n cynnwys ffyrdd o sicrhau bod cynnwys yn cael ei ddiweddaru’n hygyrch.

This content is only available to logged in users.