All In Accessibility Standards

Profiadau Creadigol a Diwylliannol

Canllawiau ymarferol ar gyfer gwaith creadigol cynhwysol a hygyrch o’r cysyniad i’r cyflwyniad. Mae’r Safonau hyn yn helpu timau creadigol i gydweithio ag artistiaid anabl. Maent hefyd yn eich helpu i ddylunio profiadau cynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.

Nod y Safonau hyn yw grymuso sefydliadau i gomisiynu ac arddangos gwaith gan artistiaid anabl, cynllunio digwyddiadau gyda hygyrchedd mewn golwg a chreu profiadau cynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.

1. Ymrwymiad Strategol

Mae’r Safonau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar osod a mynegi ymrwymiad strategol eich sefydliad i hygyrchedd. Maent yn eich helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn eich sefydliad yn gallu deall eich ymagwedd a sut mae’n ymwneud â’u rôl. Mae’r Safonau unigol yn sicrhau bod eich ymrwymiad strategol yn cael ei adlewyrchu mewn prosesau o ddydd i ddydd megis rhaglennu, cyllidebu a gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan bobl anabl a phartneriaid allanol eraill. Gallai’r Safonau yn y categori hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol i arweinwyr, deiliaid cyllidebau, aelodau bwrdd neu ymddiriedolwyr.

Unigolyn yn eistedd gyda'i goesau wedi'u croesi ar y llawr mewn oriel lân, wen gyda nenfwd crwm. Mae'n edrych yn hapus ac yn optimistaidd.

1.01 Dull Sefydliadol

Sicrhewch fod gennych ddull strategol neu resymeg glir ynghylch sut mae gwaith a arweinir gan bobl anabl neu sy’n canolbwyntio ar anabledd yn cael ei gomisiynu a’i raglennu.

This content is only available to logged in users.
Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd ac yn cymryd rhan mewn gweithgaredd cydweithredol. Mae papurau, llyfrau nodiadau a diodydd ar y bwrdd. Mae un person yn sefyll ac yn dal dalen o bapur.

1.02 Partneriaethau a Chydweithredu

Anogwch bartneriaethau â sefydliadau a arweinir gan bobl anabl ac ymgynghorwyr mynediad.

This content is only available to logged in users.
Arddangosfa o arddangosion gyda wal felen yn cynnwys panel gwybodaeth gan y Deaf Arts Forum a sgrin yn dangos fideo gyda chapsiynau am gyfathrebu â phobl fyddar.

1.03 Rhaglennu Perfformiadau wedi’u Haddasu

Gwnewch yn siŵr bod gennych resymeg glir ynghylch sut mae perfformiad addasol a gwaith hygyrch yn cael eu rhaglennu a/neu eu cynhyrchu.

This content is only available to logged in users.
Mae grŵp o gydweithwyr yn eistedd o amgylch bwrdd yn cynnal sesiwn gynllunio. Mae un person yn teipio ar liniadur. Mae'r bwrdd yn frith o lyfrau nodiadau, pennau ysgrifennu a photeli dŵr.

1.04 Cyllidebu ar gyfer Mynediad

Sicrhewch fod hygyrchedd yn cael ei gynnwys mewn cynllunio ariannol.

This content is only available to logged in users.
Mae dau berfformiwr yn sefyll ar y llwyfan gyda'u llygaid wedi'u hoelio ar ei gilydd. Mae un person yn gwisgo laniard blodyn yr haul. Mae seddi'r gynulleidfa yn y cefndir o liw gwyrddlas ac wedi'u goleuo'n dda.

1.05 Cwmnïau Cynhyrchu a Hyrwyddwyr Allanol

Sicrhewch fod hygyrchedd yn cael ei gynnwys mewn contractau gyda phartneriaid allanol.

This content is only available to logged in users.

2. Mynediad at Gyfleoedd

Mae’r Safonau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar gymryd ymagwedd deg o ddod o hyd i waith a dewis gwaith fel bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli’n deg yn eich rhaglen. Bydd y Safonau hyn yn eich helpu i sicrhau bod eich proses gyfan ar gyfer dod o hyd i waith, a’i gynllunio, ynghyd â chynnig cyfleoedd yn hygyrch ac yn gynhwysol i bobl greadigol anabl. Mae’r Safonau unigol yn sicrhau bod eich sefydliad yn esbonio ei ymagwedd yn glir ac yn dryloyw. Maent yn sicrhau bod cyfleoedd a galwadau agored yn cyrraedd ystod eang o bobl anabl, a bod pobl yn gallu gwneud cais neu gyflwyno gwaith i’w ystyried mewn ffordd hygyrch. Mae’r Safonau hyn hefyd yn nodi sut y gallwch sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu cynnwys yn eich proses gwneud penderfyniadau.

Gall y Safonau yn y categori hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol i raglenwyr ac amserlenwyr, archebwyr masnachol, curaduron a thimau curadurol, timau datblygu artistiaid a thimau cyflawni prosiectau.

Rhes o bobl yn gwenu, gan gynnwys defnyddiwr cadair olwyn ac unigolyn sy'n gwisgo laniard blodyn yr haul, yn eistedd mewn awditoriwm gwag.

2.01 Dod o Hyd i Waith a Dewis Gwaith

Byddwch yn dryloyw ynglŷn â sut y deuir o hyd i waith (yn enwedig gwaith a arweinir gan bobl anabl ac sy’n canolbwyntio ar anabledd) a sut mae’n cael ei raglennu.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

2.02 Mynediad at Gyfleoedd

Gall artistiaid a chwmnïau anabl gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd, a gwneud cais amdanynt, mewn ffordd hygyrch.

This content is only available to logged in users.
Unigolyn yn edrych drwy gerflun pren mawr, gwag, sydd ag arwynebau llyfn a chrwm.

2.03 Galwadau Agored

Mae galwadau agored yn hygyrch ac yn ddeniadol i artistiaid a chwmnïau anabl.

This content is only available to logged in users.
Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd mewn gofod dan do modern a llachar gyda ffenestri mawr, yn sgwrsio ac yn defnyddio gliniadur.

2.04 Grwpiau Gwneud Penderfyniadau

Mae lleisiau croestoriadol yn ymwneud yn ystyrlon â’r broses o wneud penderfyniadau am gomisiynau, ac mae’r broses yn hygyrch.

This content is only available to logged in users.

3. Gweithio gydag Artistiaid

Mae’r Safonau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar ddarparu profiad teg a hygyrch i artistiaid a phobl greadigol anabl unwaith y byddant yn gweithio gyda chi. Byddant yn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn cydweithio â phobl anabl, ac yn cymryd cyfrifoldeb rhagweithiol am hygyrchedd y broses. Bydd y Safonau unigol yn eich helpu i gynllunio sut y byddwch chi’n diwallu anghenion mynediad pobl, cymryd ymagwedd hygyrch at gontractio pobl greadigol, a sicrhau bod eich ffyrdd o weithio yn hygyrch i bawb sy’n cymryd rhan. 
 
Gall y Safonau yn y categori hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol i gynhyrchwyr, rheolwyr prosiectau, rheolwyr cymunedol a dysgu, timau datblygu artistiaid, a thimau gwirfoddoli.
Person mewn cadair olwyn o flaen cerflun pren sy'n cael ei arddangos ar bedestal gwyn mewn oriel. Mae’n darllen dogfen.

3.01 Tegwch i Artistiaid Anabl

Mae tegwch o brofiad i artistiaid anabl a sefydliadau a arweinir gan bobl anabl ar ôl iddynt gael eu comisiynu / eu rhaglennu.

This content is only available to logged in users.
Dau berson yn eistedd wrth fwrdd gyda gliniaduron mewn gofod dan do llachar, yn gweithio gyda'i gilydd gyda llyfrau nodiadau a diod gerllaw.

3.02 Contractio

Defnyddiwch broses gontractio glir sy’n blaenoriaethu mynediad a hyblygrwydd.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

3.03 Arferion Gweithio Hygyrch

Defnyddiwch ffyrdd o amserlennu a gweithio sy’n sicrhau y gallwch ddiwallu anghenion mynediad pawb sy’n ymwneud â gwneud gwaith.

This content is only available to logged in users.

4. Cynllunio a Chyflwyno Digwyddiadau

Mae’r Safonau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar ymgorffori hygyrchedd yn eich proses cynllunio a chyflwyno digwyddiadau. Byddant yn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn cynllunio ac yn cyllidebu’n briodol i ddarparu ystod o brofiadau hygyrch i’ch cynulleidfa. Byddant yn sicrhau eich bod yn gweithio’n hygyrch gyda darparwyr mynediad ac arbenigwyr anabl trwy gydol y cylch cynllunio a chyflwyno. Mae’r Safonau unigol yn eich helpu i gynllunio ar gyfer digwyddiadau hygyrch, a marchnata a chyfathrebu priodol, dewis a darparu darpariaethau mynediad sy’n diwallu anghenion eich cynulleidfa, ac ystyried cynllunio ar gyfer argyfyngau a chynllunio wrth gefn sy’n ystyried pobl anabl. Gall y Safonau yn y categori hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol i gynhyrchwyr, swyddogion prosiectau, rheolwyr digwyddiadau a thimau gweithrediadau lleoliadau ac ymwelwyr.
Mae defnyddiwr cadair olwyn o flaen sgrin fawr, yn gwisgo clustffonau.

4.01 Cynllunio Digwyddiadau

Ystyriwch hygyrchedd o ddechrau’r broses gynllunio, gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun mynediad clir ar gyfer eich digwyddiad, a’ch bod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am bob elfen.

This content is only available to logged in users.
Dau ymwelydd yn edrych ar daflenni a llyfrynnau yng nghyntedd lleoliad. Mae un ohonynt yn ddefnyddiwr cadair olwyn. Mae pobl yn sefyll ac yn sgwrsio yn y cefndir.

4.02 Cynllunio Marchnata a Chyfathrebu

Ystyriwch hygyrchedd yn eich cynllunio Marchnata a Chyfathrebu fel bod fformatau amgen a gwybodaeth am gyflwyniadau addasol yn gyson â’r dull creadigol cyffredinol, ac fel rhan o’r ymgyrch gyffredinol.

This content is only available to logged in users.
Arwyddion amgueddfa ar gyfer arddangosfa sy'n dathlu amrywiaeth chwaraeon yn Leeds.

4.03 Darpariaethau Cynulleidfa

Darparwch ystod o ddarpariaeth hygyrch sy’n diwallu anghenion y gynulleidfa ac sy’n rhoi dewis gwirioneddol i bobl. Defnyddiwch ddulliau creadigol ac integreiddio darpariaethau mynediad i brofiadau lle bynnag y bo modd.

This content is only available to logged in users.
Llun dalfan

4.04 Cynllunio ar gyfer Argyfyngau a Chynllunio Wrth Gefn

Sicrhewch fod darpariaethau mynediad yn cael eu cynnal a bod pobl yn cael eu cefnogi mewn amgylchiadau annisgwyl.

This content is only available to logged in users.

5. Gwerthuso a Gwelliant Parhaus

Mae’r Safonau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar fesur a gwerthuso eich gwaith ar hygyrchedd. Byddant yn eich helpu i sicrhau bod eich gwerthusiad yn seiliedig ar adborth cynhwysol, eang a’ch bod yn defnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu i yrru gwelliant parhaus ac arfer gorau. Mae’r Safonau unigol yn cwmpasu sut i gynnwys pwyntiau myfyrio yn eich proses gynhyrchu neu gyflawni, a chreu diwylliant sy’n croesawu adborth gonest am hygyrchedd, ffyrdd cynhwysol o gasglu gwybodaeth a mesur cynnydd a dulliau cyson o ddiffinio nodau a gwerthuso eich gwaith.  
 
Gallai’r Safonau yn y categori hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer timau arweinyddiaeth, deiliaid cyllidebau, rheolwyr prosiectau, gwerthuswyr, rheolwyr data, aelodau bwrdd/ymddiriedolwyr, a grwpiau cynghori.
Person yn annerch grŵp mawr o bobl sy'n eistedd wrth fyrddau crwn mewn ystafell brysur.

5.01 Myfyrio ar Effaith

Crëwch le ar gyfer dysgu, gwelliant parhaus ac i ddatblygu cymunedau.

This content is only available to logged in users.
Ymwelydd hŷn wrth bwynt gwasanaeth cwsmeriaid yn rhoi bawd i fyny i aelod o staff.

5.02 Dulliau Adborth Cynhwysol

Mae dulliau gwerthuso yn hygyrch fel bod adborth yn cynnwys ystod o safbwyntiau ac yn arwain at welliant ystyrlon.

This content is only available to logged in users.
Mae dau berfformiwr yn sefyll ar y llwyfan gyda'u llygaid wedi'u hoelio ar ei gilydd. Mae un person yn gwisgo laniard blodyn yr haul. Mae'r awditoriwm wedi'i oleuo'n dda ac nid oes cynulleidfa.

5.03 Mesur Cynrychiolaeth a Mynediad

Mesurwch fynediad, cynhwysiant a chynrychiolaeth anabledd o ystod o safbwyntiau, a rhannu a defnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu i wella eich ymarfer.

This content is only available to logged in users.