Croeso i bawb

All In ar gyfer y Sector

Archwilio Adnoddau Sector

Yn All In, ein cenhadaeth yw gwella mynediad i bobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol yn y sector creadigol a diwylliannol.

Rydyn ni am helpu theatrau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sefydliadau diwylliannol a chreadigol eraill i wella mynediad, croesawu ymwelwyr newydd, a chynyddu’r niferoedd sy’n ymweld â nhw. Mae llawer o sefydliadau ledled y DU yn gweithio’n galed i wella mynediad, ond credwn y gallwn wneud mwy fyth gyda’n gilydd.

Menyw wen yn arwyddo gyda dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain mewn swyddfa docynnau theatr.

Lluniau gan Karol Wyszynski.

Dyna pam ein bod yn siarad â sefydliadau o bob math i wneud yn siŵr bod ein cynllun yn cydnabod arferion da. Mae’n bwysig bod ein cynllun yn gweithio gyda chynlluniau mynediad a systemau tocynnau presennol.

Rydyn ni’n bwriadu gwneud y canlynol:

  • Cyflwyno safonau hygyrchedd ledled y DU ar gyfer y sector creadigol a diwylliannol cyfan.
  • Cynnig hyfforddiant, adnoddau a chefnogaeth i gynyddu hyder staff a helpu sefydliadau i gyrraedd y safonau hyn.
  • Creu un system ddigidol sy’n galluogi pobl sydd â gofynion mynediad i greu proffil y gellir ei rannu’n ddiogel drwy gyfrif All In eich sefydliad.
  • Cysylltu sefydliadau creadigol a diwylliannol â chyflenwyr a all eich helpu i wella eich darpariaethau mynediad.
  • Darparu gwybodaeth a data i roi gwell dealltwriaeth i chi o anghenion mynediad eich cynulleidfa.

Mae llawer o sefydliadau a all eich helpu i wella eich mynediad. Edrychwch ar ein cyfeiriadur cymorth lle gallwch ddod o hyd i ymgynghorwyr hygyrchedd, gweithwyr llawrydd a sefydliadau o bob cwr o’r DU.

Mae’r cynllun wrthi’n cael ei ddatblygu, ac mae cynllun peilot wedi’i gynllunio ar gyfer 2024. Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd, llenwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb.

Mynegi eich diddordeb

Cyfle i gael yr wybodaeth, y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gan dîm All In.

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn anfon yr wybodaeth gywir at y bobl iawn. Dewiswch pa fath o negeseuon e-bost yr hoffech eu derbyn gennym:

Poster image for the video All In - BSL Introduction for the creative and cultural sector

Hygyrchedd

Mae croeso i bawb ar ein gwefan. Rydyn ni am wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad at ein cynnwys.

Dysgwch fwy am hygyrchedd yn All In.

Back to Top