Cwestiynau Cyffredin
Archwilio Adnoddau Sector
Oes gennych chi gwestiwn? Efallai ein bod eisoes wedi ei ateb. Porwch drwy ein cwestiynau cyffredin isod.
Pa fathau o ofynion mynediad fydd yn cael eu cynnwys gan All In?
Rydym yn gweithio gyda’r sector creadigol a diwylliannol i ddeall yn well yr amrywiol gynigion mynediad sydd ar gael. Rydym yn gweithio gyda’r sector creadigol a diwylliannol i ddeall yn well yr amrywiol gynigion mynediad sydd ar gael. Gallai’r rhwystrau hyn gynnwys agwedd pobl, dulliau cyfathrebu, gallent fod yn rhwystrau corfforol, cymdeithasol neu weithdrefnol. Ein nod yw cefnogi sefydliadau i gael gwared ar yr holl rwystrau annefnyddiol sydd o fewn eu rheolaeth.
Faint fydd hi’n ei gostio i fy sefydliad danysgrifio i All in?
Bydd All In yn cael ei ariannu gan ffi flynyddol y bydd sefydliadau sy’n tanysgrifio yn ei thalu. Bydd y tanysgrifiad yn gymedrol ac yn seiliedig ar drosiant. Rydym wrthi’n cwblhau lefelau band a ffioedd a byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ymhell cyn y lansiad.
Fel unigolyn sydd â gofynion mynediad, faint fydd dod yn aelod o All In yn ei gostio?
Caiff pobl F/fyddar, Anabl a Niwrowahanol ymuno ag All In yn rhad ac am ddim.
Pa fathau o sefydliadau fydd All In yn eu cefnogi?
Ar theatrau, amgueddfeydd, orielau, canolfannau celfyddydau, sinemâu, lleoliadau cerddoriaeth, gwyliau a llyfrgelloedd y mae ein prif ffocws.
Fodd bynnag, bydd All In yn cael ei ddylunio ar gyfer amrywiaeth eang o sefydliadau diwylliannol a chreadigol. Bydd unrhyw sefydliad sydd angen deall gofynion mynediad ei gynulleidfa i wneud yn siŵr eich bod yn cynnig y croeso gorau posibl, yn elwa o danysgrifio i All In.
Rwy’n gweithio i leoliad bach gyda throsiant cymharol fach. A fyddaf i’n gallu fforddio’r tanysgrifiad?
A fyddaf i’n gallu fforddio’r tanysgrifiad? Un o nodau All In yw lleihau’r baich gweinyddol ar sefydliadau creadigol a diwylliannol, felly i lawer o sefydliadau gall tanysgrifio helpu i leihau costau gweinyddol.
Pa gymorth fyddwn ni’n ei gael i egluro All In i’n cwsmeriaid?
Byddwn yn datblygu cefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau i’ch helpu chi a’ch staff i ddeall All In.
Pan fyddwn yn nes i’r amser i lansio’r cynllun i’r cyhoedd, byddwn hefyd yn cynhyrchu pecynnau marchnata a fydd yn eich helpu i egluro’r cynllun i’ch cwsmeriaid.
Byddaf yn teithio i’r DU. A fydda i’n gallu defnyddio All In?
Bydd unrhyw un sydd â gofynion mynediad yn gallu cofrestru ag All In, ni waeth ble yn y byd rydych chi. Os ydych chi’n mynd i ddigwyddiad a gynhelir gan un o’n tanysgrifiwyr yn y DU, mae croeso i chi gofrestru.
Sut bydd All In yn gweithio gyda chynlluniau mynediad sy’n bodoli eisoes neu ddarpariaethau mynediad eraill?
Rydym yn gweithio’n galed i osgoi ail-greu’r ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli, ond ar hyn o bryd mae pobl sydd ag anghenion mynediad yn dweud wrthym fod y ddarpariaeth yn dameidiog ac yn anghyson.
Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn y sector, felly rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion mewn mannau lle ceir bylchau yn y ddarpariaeth neu lle mae angen cymorth ychwanegol ar y sector. Er enghraifft, rydym yn creu set o safonau a gefnogir gan y sector a fydd yn sicrhau cysondeb y mae mawr ei angen.
Beth mae All In yn ei olygu i ddyfodol Hynt?
Rydym yn gweithio’n agos gyda thîm Hynt a’n partneriaid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach yn y flwyddyn newydd ynglŷn â sut bydd Hynt a’r cynllun mynediad newydd yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd. Ar hyn o bryd, ni fydd dim yn newid i leoliadau a defnyddwyr Hynt.
A gafodd pobl anabl eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu All In?
Do, mae All In yn cael ei yrru gan dîm sy’n cael ei arwain gan bobl anabl.
Rydyn ni’n gofyn am gyngor gan Grŵp Cynghori sy’n cynnwys pobl F/fyddar, anabl a niwrowahanol. Rydym yn sicrhau bod lefel uchel o weithgareddau grwpiau ffocws ac o brofi gan ddefnyddwyr yn rhan o’r holl waith datblygu.
Byddwn hefyd yn mynychu cynadleddau, seminarau a digwyddiadau’r sector anabledd er mwyn i ni gael y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd All In yn cael ei brofi’n drylwyr a’i ddatblygu wrth iddo gael ei gyflwyno.
A gafodd lleoliadau a sefydliadau celfyddydol eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu All In?
Do, wrth inni ddatblygu All In, rydym wedi comisiynu ymchwil i brofi ein cynlluniau gyda’r sector. Mae hyn wedi ein galluogi i ddeall yn well lle mae’r sector yn gweld cyfleoedd neu risgiau yn ein cynigion a lle gellid bod angen mwy o gymorth.
O’r herwydd, rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori’r Sector sy’n cynrychioli sefydliadau ar wahanol raddfeydd, lleoliadau daearyddol, a gwahanol fathau o greadigrwydd a diwylliant. Maent yn ein helpu i ddeall y manteision a’r heriau wrth i All In ddatblygu. Rydym hefyd yn mynychu digwyddiadau, seminarau a chynadleddau ar gyfer y sector.
A gafodd darparwyr tocynnau a darparwyr technoleg perthnasol eraill eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu All In?
Do, rydyn ni wedi bod yn trafod gyda llawer o ddarparwyr tocynnau a darparwyr technoleg presennol wrth ddatblygu’r cynllun ac mae siâp y cynllun wedi cael ei lywio gan y cyngor maen nhw wedi’i roi.
Ein nod yw datblygu cynllun sy’n gweithio gyda chynifer o’r cyflenwyr presennol â phosibl. Wrth i ni ddatblygu’r dechnoleg y tu ôl i’r cynllun, byddwn yn cynnal deialog agored gyda’r rhan hon o’n sector.
A fyddaf yn gallu ymuno ag All In ar ran plentyn dan un ar bymtheg oed?
Bydd All In yn cael ei ddatblygu i ganiatáu i warcheidwad cyfreithiol weithredu ar ran plentyn sydd â gofynion mynediad. Y plentyn fydd yn berchen ar y proffil mynediad, ond byddwch chi’n gallu delio â hyn ar ei ran.
Ar yr amser priodol, byddwch wedyn yn gallu trosglwyddo’r rheolaeth dros y proffil mynediad i’r plentyn.
A fyddaf yn gallu ymuno ag All In ar ran oedolyn bregus?
Bydd All In yn cael ei ddatblygu i ganiatáu i warcheidwad cyfreithiol weithredu ar ran oedolyn bregus. Gall gwarcheidwad cyfreithiol fod yn aelod o’r teulu, neu’n awdurdod lleol. Neu, efallai fod gan rywun warcheidwaid ar y cyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn…
Dod o hyd i Sefydliad Cymorth
Defnyddiwch y cyfeiriadur i ddod o hyd i gymorth gan ymgynghorwyr, gweithwyr llawrydd a sefydliadau hygyrchedd, o bob cwr o’r DU.
All In ar gyfer y Sector
Yn All In, ein cenhadaeth yw gwella mynediad i bobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol yn y sector creadigol a diwylliannol.