Hynt yn esblygu i mewn i I Bawb / All In a dod yn rhan o gynllun mynediad trwy’r DU ac Iwerddon
- Newyddion
3 June 2026
List of categories for this post
Mae Hynt, cynllun mynediad arloesol Cymru ar gyfer y celfyddydau, yn dechrau cyfnod newydd yn ei hanes wrth iddo ddod yn rhan o fenter flaenllaw newydd gyffrous ac arobryn All In. Mae’n raglen trwy’r DU ac Iwerddon gyfan, wedi’i chynllunio i wella cynhwysiant a hygyrchedd i leoliadau celfyddydol a diwylliannol.
Dangosodd ymchwil ledled y DU a rannwyd mewn Arolwg Diwylliant Mynediad 2025 fod 7 o bob 10 o bobl anabl yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth glir am hygyrchedd, bod pobl anabl 9 gwaith yn fwy tebygol o gael trafferth archebu tocynnau ar-lein, a bod 2 o bob 5 ymwelydd anabl ddim yn hyderus y bydd eu hanghenion mynediad yn cael eu diwallu.
O hydref 2026 ymlaen, bydd cynllun Hynt, dan arweiniad Cyngor Celfyddydau Cymru ac wedi ei ddarparu drwy Creu Cymru, yn trosglwyddo i gael ei enwi yn I Bawb/All In yng Nghymru ac yn croesawu aelodau i’r platfform newydd dwyieithog. Wedi’i hysbrydoli gan waith Hynt, sydd wedi arwain y sector ers ei lansio yn 2015, mae’r fenter newydd hon yn dwyn ynghyd cynghorau celfyddydau a phartneriaid o Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon mewn ymrwymiad ar y cyd i gael gwared ar rwystrau a gwella cysondeb yn y ddarpariaeth mynediad.

Mae’r llun yn focs piws sy’n dangos logo Hynt a’r logo newydd dwyieithog piws, melyn a gwyn I Bawb/All In, mae’r teitl yn dweud Hynt yn esblygu mewn Cymraeg a Saesneg.
Trwy weithio’n agosach ledled y DU ac Iwerddon, bydd y cynllun yn cefnogi lleoliadau a sefydliadau trwy rannu mewnwelediadau i’r gynulleidfa, rhannu safonau hygyrchedd cyntaf y DU ac Iwerddon ar gyfer creadigrwydd a diwylliant (ar ffurf gwyddoniadur mynediad wedi’i strwythuro’n ddarnau bach i helpu sefydliadau i wneud gwelliannau yn hyderus), ac yn datblygu system archebu symlach. Bydd y system hefyd yn caniatáu i aelodau rannu eu gofynion mynediad unwaith a bydd rhain wedyn yn cael eu cydnabod ar draws sawl lleoliad, gan greu profiad di-dor trwy’r DU ac Iwerddon gyfan.
Yng Nghymru, bydd Hynt yn parhau i gael ei ddarparu gan Creu Cymru ac yn chwarae rôl ganolog a dylanwadol wrth iddo drosglwyddo i’r bartneriaeth ehangach I Bawb / All In, gan ddarparu gwell mynediad i bobl anabl yng Nghymru i ragor o leoliadau diwylliannol fel amgueddfeydd a gwyliau yn ogystal â theatrau a sinemâu.
Mae symud ymlaen gydag un enw dwyieithog yng Nghymru wedi’i gynllunio i greu profiad cliriach a mwy cydlynol i gynulleidfaoedd a phartneriaid fel ei gilydd ac fe’i cyhoeddwyd yr wythnos hon yng nghynhadledd Creu Cymru. Mae’r enw Cymraeg newydd I Bawb yn alinio’n agosach ag ethos All In ac yn atgyfnerthu’r ymrwymiad i gyfranogiad cynhwysol yn y celfyddydau.

Pedwar person gwyn yn sefyll o flaen sgrin sydd yn dangos logo Hynt a I Bawb/All In. Mae un person yn y tu blaen mewn cadair olwyn ac yn gwisgo sbectol.
Yn y llun chwith i’r dde: Louise Miles-Payne, Creu Cymru, Gwen Siôn, Cyngor Celfyddydau Cymru, Megan Merrett Creu Cymru, Hannah Raybould, Cyngor Celfyddydau Cymru. Tu blaen: Andrew Miller, Hyrwyddwr Mynediad i’r Celfyddydau yn y DU i’r cynllun All In/I Bawb
Bydd un brand i Gymru a’r rhaglen ehangach yn gwneud y brand yn gryfach i ddefnyddwyr a bydd y platfform newydd yn caniatáu i aelodau anabl chwilio am brofiadau trwy’r DU ac Iwerddon gyfan, gyda mecanwaith chwilio manwl yn gysylltiedig â’u hanghenion mynediad; bydd yn symleiddio marchnata a chyfathrebu ar gyfer lleoliadau, ac yn sicrhau cysondeb ar draws llwyfannau digidol, cardiau aelodaeth a deunyddiau. Trwy uno o dan un brand, mae’r rhaglen hefyd yn osgoi dyblygu ac yn cadw’r ffocws yn gadarn ar wella mynediad yn hytrach na rheoli gwahanol frandiau.
Bydd cyfnod pontio nawr i sicrhau bod cynulleidfaoedd, lleoliadau a phartneriaid yn parhau i gael eu cefnogi gan Creu Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wrth i’r enw a’r brand newydd gael eu cyflwyno, gan ganiatáu amser i ymwybyddiaeth o’r rhaglen newydd adeiladu ac i randdeiliaid addasu’n esmwyth i’r newidiadau.
“Torrodd rhaglen Hynt dir newydd, ac roedd yn destament i’n hymrwymiad fel Cyngor i wneud y celfyddydau yn hygyrch i bawb. Bydd esblygiad Hynt i mewn i I Bawb/All In yn dod ag ystod o fanteision ymarferol i bobl anabl a lleoliadau celfyddydol a diwylliannol. Nod y rhaglen yw darparu profiad mwy cyson a haws ei ddefnyddio lle bynnag y mae pobl anabl yn dewis ymgysylltu â’r celfyddydau a diwylliant.”
“Wrth i’r cynllun esblygu, bydd etifeddiaeth ac arweinyddiaeth Hynt yn parhau i fod yn rhan o’n gwreiddiau. Bydd platfform newydd I Bawb / All In yn dathlu Hynt a’i effaith dros y degawd diwethaf, a thrwy’r berthynas barhaus â Creu Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae ei werthoedd wedi’u hymgorffori yn y cynllun newydd yma sy’n ymestyn yr hyn sydd ar gael ac sydd wedi ei ddylunio gan bobl anabl ar gyfer pobl anabl.”