Penodi University of Atypical For Arts and Disability i dreialu’r cynllun mynediad I Bawb yng Ngogledd Iwerddon

Mae Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon wedi penodi University of Atypical i dreialu’r cynllun I Bawb yng Ngogledd Iwerddon, sef cynllun mynediad newydd y DU ac Iwerddon ar gyfer y sector celfyddydol a diwylliannol.

Mae I Bawb yn cael ei ddatblygu i’w gwneud yn haws i unigolion B/byddar, anabl a niwrowahanol ddod o hyd i brofiadau diwylliannol hygyrch, cyfleu eu gofynion mynediad, ac archebu tocynnau’n fwy hyderus.

Bydd y cynllun yn helpu sefydliadau diwylliannol i wella eu hygyrchedd drwy set gyffredin o safonau, cymorth arbenigol, ac adnoddau archebu digidol.

Bydd University of Atypical yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, tîm canolog I Bawb, pobl anabl a sefydliadau diwylliannol i ddatblygu a chyflwyno’r cynllun peilot a fydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2027. Bydd y cynllun peilot hwn yn adeiladu ar waith cadarn sydd eisoes yn cael ei wneud yn y maes hwn, yn lleol.

Mae University of Atypical yn dod â phrofiad sylweddol o gefnogi artistiaid a chynulleidfaoedd B/byddar, anabl a niwrowahanol. Bydd y penodiad hwn yn sicrhau bod gwybodaeth a phrofiad uniongyrchol am sector diwylliannol Gogledd Iwerddon yn ganolog i ddatblygiad y cynllun.

Bydd y blaenoriaethau cychwynnol yn cynnwys y canlynol:

  • penodi Cydlynydd Porth I Bawb pwrpasol;
  • sefydlu strwythur ymgynghorol sy’n cynnwys pobl anabl, a chynrychiolwyr o’r sector celfyddydol a diwylliannol;
  • ymgysylltu â charfan gynrychioladol o leoliadau peilot, gwyliau a sefydliadau diwylliannol ledled Gogledd Iwerddon;
  • asesu parodrwydd y sector a nodi gofynion datblygu sgiliau, technoleg a chymorth;
  • cefnogi sefydliadau peilot i weithio tuag at Safonau Hygyrchedd I Bawb;
  • profi sut gall y cynllun integreiddio â systemau tocynnau a swyddfeydd tocynnau presennol; a
  • datblygu dull graddol o dreialu a chyflwyno’r cynllun.


Er y bydd I Bawb yn cynnig fframwaith cyson ar draws y DU ac Iwerddon, bydd ei ddarpariaeth yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei siapio i adlewyrchu anghenion y dirwedd leol. Bydd hyn yn cynnwys cydnabod cymysgedd Gogledd Iwerddon o ddarpariaeth bresennol, maint a chapasiti ei sefydliadau diwylliannol, a’r gwahanol systemau tocynnau a ddefnyddir ar draws y sector.

Dywedodd Roisin McDonagh, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon:
“Mae penodi University of Atypical i ymgymryd â’r peilot hwn yn gam pwysig tuag at gyflwyno I Bawb i Ogledd Iwerddon i wella mynediad at y celfyddydau i bobl F/fyddar, anabl a niwrowahanol, a sicrhau bod mwy o bobl o bob cefndir yn gallu mwynhau profiadau celfyddydol.

Mae gan y cynllun y potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol drwy leihau’r rhwystrau y gall pobl anabl eu hwynebu wrth ddod o hyd i wybodaeth, archebu tocynnau a mynd i ddigwyddiadau diwylliannol. Mae University of Atypical yn dod â gwybodaeth helaeth, perthnasoedd dibynadwy, a dealltwriaeth gref o brofiad uniongyrchol a hefyd y sector celfyddydau lleol.”

Dywedodd Dr Jonathan Mitchell, Rheolwr Mynediad a Chynhwysiant University of Atypical:
“Mae University of Atypical yn falch iawn o fod wedi’i phenodi i gyflwyno cynllun peilot I Bawb yma yng Ngogledd Iwerddon. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hwn yn gam pwysig tuag at wella profiadau pobl F/fyddar, anabl a niwrowahanol sy’n defnyddio’r celfyddydau a diwylliant ledled Gogledd Iwerddon.

Byddwn ni’n adeiladu ar hanes hir University of Atypical o weithio gyda’r sector i eirioli dros fwy o hygyrchedd a chynhwysiant, gan gynnwys drwy ein cynllun ein hunain, sef Gwobrau Hygyrchedd y Celfyddydau ar gyfer Pobl Anabl. Byddwn ni hefyd yn ymgynghori â sefydliadau diwylliannol lleol ac yn uniongyrchol â phobl anabl. Mae hyn er mwyn sicrhau bod I Bawb Gogledd Iwerddon yn bodloni anghenion a disgwyliadau lleol ac y gellir ei ddatblygu gyda’n partneriaid i godi safonau mynediad ar draws y sector, i symud tuag at gymdeithas lle gall pawb ymgysylltu â’r celfyddydau ar sail gyfartal.”

Dywedodd Andrew Miller (MBE), Pencampwr Hygyrchedd y Celfyddydau yn y DU dros I Bawb:
“Rwyf wrth fy modd bod University of Atypical wedi’i phenodi’n Borth I Bawb yng Ngogledd Iwerddon. Edrychaf ymlaen at groesawu’r tîm i’r teulu I Bawb lle byddwn ni’n gweithio ochr yn ochr i gael gwared ar rwystrau i gynulleidfaoedd anabl yng Ngogledd Iwerddon.”

Mae Lloegr wedi cyrraedd cam cyflawni mwy datblygedig. Yn dilyn gweithgarwch y cynllun peilot, mae tanysgrifiadau bellach ar agor i sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled Lloegr, gyda’r cynllun yn symud tuag at groesawu aelodau anabl unigol. Bydd profiad o gyflwyno’r cynllun yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r cynllun yng Ngogledd Iwerddon ac Iwerddon.

Bydd rhagor o wybodaeth am ymgysylltu â rhanddeiliaid, cynllun peilot Gogledd Iwerddon, a chyfleoedd i sefydliadau diwylliannol gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.