Gosod y safon ar gyfer profiadau hygyrch
- Blog
11 June 2026
List of categories for this post
Wrth lansio’r Safonau Hygyrchedd newydd ar gyfer Creadigrwydd a Diwylliant, mae Andrew Miller, Hyrwyddwr Hygyrchedd Celfyddydau’r Deyrnas Unedig, yn pwyso a mesur pam mae mynediad cyson yn bwysig a sut mae All In yn mynd i drawsnewid profiadau cynulleidfaoedd anabl.
“Ar ôl blynyddoedd lawer o waith datblygu, mae I Bawb / All In, y cynllun mynediad newydd i’r celfyddydau ar gyfer y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, wedi agor o’r diwedd. Mae’n gyfnod cyffrous, ac rydw i wedi treulio llawer o’r degawd diweddaf yn eiriol dros y foment hon.
Ar gyfer pobl anabl, mae I Bawb / All In yn gynllun aelodaeth am ddim sydd wedi ei gynllunio i gael gwared ar rwystrau, gan ei gwneud yn haws archebu tocynnau a cheisio gwella ein profiad o ddigwyddiadau a safleoedd creadigol a diwylliannol.
Ar gyfer y sector diwylliannol, mae I Bawb / All In yn rhaglen newid tanysgrifiad y telir amdani a gafodd ei chreu gan 5 cyngor celfyddydau’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon sy’n ceisio safoni a gwella mynediad, ac yn hollbwysig i gynyddu cynulleidfaoedd ac ymwelwyr anabl.
Mae mynediad at ddiwylliant yn y Deyrnas Unedig wedi datblygu mewn ffordd dameidiog ac ar hap braidd. Ond i bobl anabl fel fi, nid oes cysondeb. Nid yw’r arfer da, lle mae’n bodoli, wedi cael ei rannu’n dda ac yn aml iawn mae pobl anabl yn profi gwahaniaethu a gwasanaeth gwael. Fel rydw i wedi ei brofi drwy gydol fy oes o fynd i ddigwyddiadau diwylliannol – rydw i wedi bod yn prynu tocynnau mynediad ers 40 mlynedd – mae’r diffyg cysondeb hwn yn aml yn gwneud yr hyn a ddylai fod yn brofiad pleserus yn ddiangen o anodd a llawn straen. Dyna pam mae arnom angen I Bawb / All In.
“Rwy’n credu’n gryf y bydd hyn yn darparu mynediad ar y lefel nesaf.”
Drwy gydol 2025, cafodd I Bawb / All In ei dreialu yn Leeds lle cafodd ein Safonau Mynediad ar gyfer Creadigrwydd a Diwylliant arloesol eu profi yn y byd go iawn gan sefydliadau o bob rhan o’r sbectrwm diwylliannol: Leeds Playhouse, Leeds Museums and Galleries, Leeds Heritage Theatres ac Opera North.
Mae’r mewnbwn rydym wedi ei gael gan y cwmnïau hyn wedi bod yn amhrisiadwy. Dywedodd Wendy Cook, Pennaeth Sinema yn Hyde Park Picture House, “Mae’r Safonau Hygyrchedd yn amlinellu map amhrisiadwy sydd eisoes wedi ein helpu i ddechrau nodi’r camau y mae angen i ni eu cymryd yfory, yn y flwyddyn i ddod a thros y degawd nesaf er mwyn gwneud ein sefydliad yn wirioneddol agored i bawb.”
Dyma enghraifft glir o sut y bwriedir i Safonau I Bawb / All In ei gwneud yn haws gwella profiadau pobl anabl. Mae’n bosibl y bydd rhai o’r newidiadau mwyaf yn cymryd amser – mae mynediad yn ymwneud â gwneud cynnydd wedi’r cyfan – ond bydd modd rhoi rhai newidiadau ar waith yn gyflym a bydd yn dod â budd uniongyrchol i ymwelwyr anabl. Yn syml iawn, gallai mabwysiadu ein Safonau olygu’r gwahaniaeth rhwng rhywun yn penderfynu mynd neu droi’n ôl; cael profiad cynhwysol gwych mewn lleoliad neu adael yn anfodlon.
Mae ein tîm yn edrych ymlaen yn arw at botensial y Safonau i drawsnewid y sector diwylliannol a thu hwnt. Fe’u datblygwyd ar y cyd â’r sefydliad celfyddydau anabledd Attitude is Everything, ac fe’u lluniwyd gan brofiadau bywyd a sefydliadau o bob maint i sicrhau bod eu canllawiau ymarferol, strwythuredig yn gweithio i bawb.
Ceir pedair Colofn Safonol, sy’n cynnwys cyfanswm o 94 Safon unigol. Y pedwar piler yw: cyfathrebu digidol, profiadau creadigol a diwylliannol, gwasanaethau cwsmeriaid a’r amgylchedd adeiledig. Maent yn ymdrin â phopeth o barcio ceir Bathodyn Glas i linellau gweld mewn awditoriwm, o degwch i artistiaid anabl i brofiadau hygyrch y gellir ymgolli ynddynt.
Cyflwynir pob Safon yn gyffredinol, gan gynnig enghreifftiau ymarferol o arfer da, ystyriaethau allweddol gyda llawer o fanylion defnyddiol, diffiniadau o’r holl dermau a ddefnyddir a chyfeiriadau allanol defnyddiol.
Er ein bod ni o’r farn bod y Safonau’n cynnig cymhelliant sylweddol i danysgrifwyr posibl, mae I Bawb / All In hefyd yn cynnwys cyfeiriadur o ymgynghorwyr a sefydliadau cymorth mynediad, rhaglen datblygu sgiliau a chymorth lawn, cronfa ddata enfawr o berfformiadau hygyrch o bob un o’n lleoliadau tanysgrifwyr a metrigau data cynulleidfaoedd.
Bydd dau danysgrifiad ar gael i sefydliadau ddewis ohonynt, I Bawb / All In Essentials – sydd ar gael yn awr ac I Bawb / All In Plus – sydd i fod i gael ei lansio yn yr haf. Felly, beth yw’r gwahaniaeth?
Mae I Bawb / All In Essentials yn berffaith ar gyfer sefydliadau sydd eisiau gwella eu hygyrchedd a’u gwybodaeth ond nad ydynt yn dibynnu ar docynnau neu systemau swyddfa docynnau – er enghraifft, rhai amgueddfeydd ac orielau. Mae I Bawb / All In Plus yn ychwanegu nodweddion digidol i symleiddio prosesau archebu, gan ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid anabl rannu eu gofynion mynediad a phrynu tocynnau. Bydd I Bawb / All In Plus yn gydnaws â systemau swyddfa docynnau Action Links, Spektrix, Ticket Solve a Tessitura. Cyhoeddir rhagor o integreiddiadau maes o law.
Bydd I Bawb / All In yn gwbl weithredol yn Lloegr yr haf hwn gyda Chymru, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn dilyn. Roeddem yn falch iawn o sicrhau Buddsoddiad Cydweithredu Diwylliannol rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon 2030 a fydd yn ein galluogi i gynnal ein cynhadledd mynediad gyntaf yn 2028 ac ehangu ein gwaith ar draws y pum gwlad.
Mae I Bawb / All In yn adnodd newydd trawsnewidiol ar gyfer y sector diwylliannol sy’n darparu map i gynyddu nifer y cynulleidfaoedd ac ymwelwyr anabl. Rydw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd ein Safonau yn dechrau cael gwared ar y rhwystrau sydd yn atal pobl anabl rhag cymryd rhan ym myd celfyddydau a diwylliant, yn Lloegr i ddechrau ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn ddiweddarach eleni.
Rwy’n credu’n gryf y bydd hyn yn darparu mynediad ar y lefel nesaf.
Croeso i I Bawb / All In.”