Y Cyngor Celfyddydau ac Arts & Disability Ireland yn dod at ei gilydd ar gyfer menter newydd i wella hygyrchedd yn y sector creadigol a diwylliannol ledled y DU ac Iwerddon
Heddiw, mae’r Cyngor Celfyddydau wedi cyhoeddi mai Arts & Disability Ireland (ADI) yw ‘sefydliad porth’ Iwerddon ar gyfer menter I Bawb / Uile Ann, sef menter mynediad newydd ar gyfer y sector creadigol a diwylliannol yn y DU ac Iwerddon a fydd yn cael ei threialu yma yn 2027, yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus yn Lloegr.
Nod I Bawb / Uile Ann yw chwalu rhwystrau a gwella profiadau pobl anabl, fyddar a niwrowahanol. Bydd yn ei gwneud yn haws i bobl ag anableddau ddarganfod profiadau newydd, dod o hyd i wybodaeth a rhannu gofynion mynediad wrth archebu tocynnau mewn amgueddfeydd, orielau, theatrau, gwyliau, canolfannau celfyddydau a lleoliadau diwylliannol eraill ledled y DU ac Iwerddon.
Mae’r fenter hon sy’n cael ei harwain gan bobl anabl yn cynnwys system aelodaeth ddigidol a fydd yn caniatáu i bobl anabl archebu ar-lein drwy roi manylion eu gofynion mynediad unwaith, yn hytrach nag ailadrodd y rhain ym mhob lleoliad.
Bydd hefyd yn cynnwys set gyntaf erioed y DU ac Iwerddon o Safonau Hygyrchedd pwrpasol ar gyfer y sector celfyddydol a diwylliannol ledled y DU ac Iwerddon, y gall lleoliadau sy’n tanysgrifio eu defnyddio i arwain a datblygu eu darpariaeth hygyrchedd, yn ogystal ag amrywiaeth o adnoddau datblygu sgiliau a chael gafael ar gymorth arbenigol.
Bydd I Bawb / Uile Ann yng Ngweriniaeth Iwerddon yn rhad ac am ddim i aelodau anabl, tra bydd lleoliadau sy’n tanysgrifio yn talu ffi flynyddol.
Fel y sefydliad porth ar gyfer Iwerddon, bydd ADI yn rheoli’r cynllun peilot a’r gwaith o gyflwyno’r cynllun ymhellach yma drwy ddatblygu tanysgrifiadau ymysg lleoliadau ar yr un pryd â hyrwyddo cyfranogiad yn y cynllun. Mae Cyngor y Celfyddydau yn fuddsoddwr yn y cynllun. Mae Fforwm y Celfyddydau Perfformio a Chymdeithas Amgueddfeydd Iwerddon yn Bartneriaid Cefnogi yn y prosiect.
Mae I Bawb / Uile Ann yn bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Creative Scotland.
Dywedodd Dr Rosaleen McDonagh, aelod o Fwrdd Cyngor y Celfyddydau a Hyrwyddwr I Bawb yng Ngweriniaeth Iwerddon:
“Ar ran Bwrdd Cyngor y Celfyddydau, ac fel Hyrwyddwr y fenter hon yn Iwerddon, hoffwn groesawu Arts & Disability Ireland fel Sefydliad Porth ar gyfer I Bawb / Uile Ann. Bydd y tîm yn ADI yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflawni cam nesaf y fenter frys hon sy’n cael ei harwain gan bobl anabl. Mae hon yn garreg filltir o ran symud tuag at hwyluso mynediad i bobl anabl sy’n defnyddio lleoliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y DU ac Iwerddon. Dymunaf yn dda i ADI gan eu bod yn helpu i lywio’r daith hon tuag at sector celfyddydol a diwylliannol mwy cynhwysol a chyfranogol.“
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithredol Arts & Disability Ireland, sef Pádraig Naughton:
“Fel y sefydliad datblygu ac adnoddau cenedlaethol, mae Arts & Disability Ireland yn falch iawn o gael y tendr fel Sefydliad Porth ar gyfer I Bawb / Uile Ann gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon. Dros y tair blynedd nesaf, mae ADI yn edrych ymlaen at weithio gyda’r sector celfyddydau a diwylliant yn Iwerddon, gan wneud mynediad yn fwy cyson a chreu amgylchedd mwy croesawgar, wedi’i siapio gan brofiad uniongyrchol o anabledd. Mae I Bawb / Uile Ann yn gyfle gwych i ni weithio ymhellach gyda sefydliadau celfyddydol a diwylliannol fel theatrau, amgueddfeydd, orielau, gwyliau a llyfrgelloedd i wella mynediad, cael gwared ar rwystrau a bod yn fannau cynhwysol.”
Dywedodd Hyrwyddwr Hygyrchedd Celfyddydau’r DU, Andrew Miller:
“Rwyf wrth fy modd bod Arts & Disability Ireland wedi cael eu penodi’n Borth ar gyfer Uile Ann ac edrychaf ymlaen at groesawu Pádraig Naughton a’i dîm i’r teulu I Bawb, lle byddwn ni’n gweithio ochr yn ochr i gael gwared ar rwystrau i gynulleidfaoedd ac ymwelwyr anabl yn Iwerddon.”