Theatr y Glôb Shakespeare, New Art Exchange, ac Autograph ymysg y sefydliadau cyntaf i ymuno ag I Bawb/All In
- Newyddion
16 June 2026
List of categories for this post
Daeth I Bawb/All In â phartneriaid, sefydliadau diwylliannol ac eiriolwyr anabledd at ei gilydd yn Leeds i nodi carreg filltir bwysig. Mae bron i 30 o sefydliadau – o theatrau, canolfannau celfyddydau, amgueddfeydd ac orielau ar hyd a lled Lloegr – eisoes wedi cofrestru i ymrwymo i I Bawb/All In yn gynnar, gan ddangos ymateb brwd i’r cynllun sydd wedi’i ddylunio i helpu sefydliadau i wella mynediad a chynhwysiant i bobl fyddar, anabl a niwrowahanol.

Trafodaeth banel mewn digwyddiad lle mae tri o banelwyr gyda brand All In o’u cwmpas. Mae un panelydd, Sandeep, yn edrych ar y gynulleidfa wrth siarad i mewn i feicroffon tra bo’r panelwyr eraill yn gwrando’n astud. Mae cyflwynydd, Andrew, sy’n defnyddio cadair olwyn, yn gwenu.
O Theatr y Glôb Shakespeare a’r Royal Shakespeare Company i New Art Exchange, Autograph ac Amgueddfa Thackray, mae’r don gynnar hon o gefnogaeth yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i wneud creadigrwydd a diwylliant yn fwy croesawgar, cynhwysol a hygyrch i bobl fyddar, anabl a niwrowahanol.
Cyhoeddwyd y sefydliadau cyntaf i ymrwymo i’r cynllun gan Syr Nicholas Serota, Cadeirydd Arts Council England, yn Leeds ddydd Llun 8 Mehefin, mewn digwyddiad i nodi lansiad Safonau HygyrcheddI Bawb/All In. Yn ei araith, disgrifiodd y foment fel un o “arwyddocâd hanesyddol” a soniodd am bwysigrwydd hygyrchedd yn y celfyddydau wrth i’w gyfnod yn y swydd ddirwyn i ben.
Dywedodd Syr Nick wrth y gynulleidfa yn Theatr y Grand yn Leeds fod “Pobl anabl wedi wynebu heriau di-rif er mwyn cael sedd wrth fwrdd y celfyddydau. Fel cyngor celfyddydau, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn cadw eu lle wrth y bwrdd a bod y niferoedd yn cynyddu.”

Syr Nicholas Serota yn sefyll wrth y ddarllenfa, gan edrych allan dros y gynulleidfa sydd heibio i’r camera.
Bu Andrew Miller MBE, Hyrwyddwr Mynediad i’r Celfyddydau yn y DU dros I Bawb/All In, hefyd yn siarad am siwrnai All In hyd yma a’r gwahaniaeth mae’r cynllun eisoes yn dechrau ei wneud, gan ychwanegu, “Does neb wedi mapio mynediad at ddiwylliant yn y fath fanylder o’r blaen, sy’n golygu bod ein Safonau ni yn wyddoniadur yn hynny o beth. Alla i ddim aros i’r rhwystrau mae pobl anabl yn eu hwynebu gael eu chwalu.”
Mae’r amrywiaeth o sefydliadau sydd wedi ymrwymo yn brawf o’r croeso cynnes y mae I Bawb/All In wedi’i gael yn y sector. Ymhlith y sefydliadau eraill sydd wedi ymrwymo’n gynnar i’r cynllun mae Storyhouse, Hackney Empire, NutKhut, Opera Up Close, Arena Theatre a’r Asian Arts Agency. Mae eu hymrwymiad yn dangos bod sefydliadau o bob maint a disgyblaeth yn cydnabod I Bawb/All In fel ffordd ymarferol o wella hygyrchedd, meithrin hyder a chreu profiadau gwell i gynulleidfaoedd ac ymwelwyr.
“Mae gwella mynediad yn gyfrifoldeb parhaus, ac mae bod yn rhan o I Bawb/All In yn rhoi’r arbenigedd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnom ni i ni barhau i wella, tyfu cynulleidfaoedd, a chreu gwell profiad i bawb.”
Dyma oedd gan Daniel Evans a Tamara Harvey, Cyfarwyddwyr Cydweithredol y Royal Shakespeare Company, ac Andrew Leveson, y Cyfarwyddwr Gweithredol, i’w ddweud: “Mae’r RSC yn croesawu miloedd o ymwelwyr a chynulleidfaoedd anabl bob blwyddyn – ac ers yn rhy hir, mae pobl wedi gorfod esbonio eu hanghenion mynediad drosodd a throsodd bob tro maen nhw’n ymweld â lleoliad neu sefydliad newydd. Mae I Bawb/All In yn newid hynny. Rydyn ni’n falch o fod yn un o’r cyntaf i gofrestru ar gyfer y cynllun. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod y cynulleidfaoedd ehangaf posibl yn gallu mwynhau ein gwaith.”
Dywedodd Annabel Turpin, Prif Weithredwr Storyhouse: “Mae Storyhouse wedi ymrwymo i All In oherwydd rydyn ni’n credu y gall drawsnewid sut mae pobl anabl yn cael mynediad at ddiwylliant a’r celfyddydau. Mae gwella mynediad yn gyfrifoldeb parhaus, ac mae bod yn rhan o I Bawb/All In yn rhoi’r arbenigedd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnom ni i ni barhau i wella, tyfu cynulleidfaoedd, a chreu gwell profiad i bawb. I mi, ddylai ymuno â’r mudiad ddim bod yn rhywbeth dewisol i sefydliadau diwylliannol, dylai fod yn orfodol – ac i unrhyw un sy’n ystyried y gost yn rhwystr, bydd y manteision a gewch o dyfu eich cynulleidfaoedd yn gwrthbwyso’r gost yn hawdd.”
Dywedodd Saad Eddine Said, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Artistig New Art Exchange: “Fel sefydliad sy’n hyrwyddo sector diwylliannol teg a chyfartal, mae’r New Art Exchange yn falch o fod yn un o’r rhai cyntaf i ymuno ag I Bawb/All In. Drwy’r cynllun hanfodol hwn, rydyn ni’n gobeithio helpu i gyflymu newid systemig a sicrhau bod y broses o ymwneud â chreadigrwydd yn wirioneddol hygyrch, cynhwysol a dirwystr i bawb.“
Dywedodd Chris Sudworth, Prif Weithredwr yr Hackney Empire: “Drwy gydol ein hanes, mae’r Hackney Empire wedi cefnogi lleisiau sydd ar y cyrion ac wedi ymdrechu i wella mynediad at gelf a diwylliant gwych i bawb. Bydd ymuno ag I Bawb/All In yn gwneud llwybrau a phrosesau’n haws i gynulleidfaoedd ac artistiaid, gan roi i ni’r adnoddau a’r hyfforddiant i sicrhau bod mynediad yn parhau i fod wrth galon ein stori wrth i ni edrych ymlaen at ein 125 mlynedd nesaf, gan gyfrannu at gynnydd tuag at dirwedd ddiwylliannol fwy cynhwysol ar draws y sector.”
P’un a ydych chi newydd ddechrau arni neu’n awyddus i adeiladu ar waith blaenorol, mae I Bawb/All In yn cynnig fframwaith clir, adnoddau ymarferol, a safonau a gefnogir gan arbenigwyr i helpu i droi uchelgais yn gamau gweithredu.
I gael rhagor o wybodaeth am danysgrifio i I Bawb/All In a beth allai ei olygu i’ch sefydliad chi, trefnwch alwad ffôn gyda’r tîm heddiw.