Nodweddion
Explore Sector Resources
Gwella hygyrchedd yn hyderus
Mae All In yn fwy na chynllun mynediad. Mae’n llwyfan rhyngweithiol sy’n llawn arweiniad, cymorth ac adnoddau arbenigol, ac offer i ddadansoddi a datblygu twf eich cynulleidfa.
Barod i danysgrifio?
Archwiliwch sut gall All In helpu eich sefydliad i groesawu mwy o bobl anabl.
Gweld pecynnau a phrisiauBeth nesaf gan All In?
Mae All In Essentials ar gael ar hyn o bryd i sefydliadau yn Lloegr. Bydd tanysgrifiadau ar gael i weddill y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod 2026 a dechrau 2027. Mynegwch eich diddordeb ac fe wnawn ni roi gwybod i chi pan fydd All In yn barod i’w gyflwyno.

Beth sydd wedi ei gynnwys gydag All In Essentials

Canllawiau clir, ymarferol
Y Safonau Hygyrchedd yw eich canllaw cynhwysfawr i welliannau mynediad, sy’n ymdrin â’r amgylchedd adeiledig, cyfathrebu digidol, gwasanaeth i gwsmeriaid, a phrofiadau creadigol a diwylliannol.
Maent wedi eu rhannu’n 94 adran fer, ac maent yn eich helpu i feithrin gwybodaeth, nodi blaenoriaethau, a gwneud newidiadau gwybodus ar draws eich sefydliad.

Cymorth pryd bynnag y bydd ei angen arnoch
Arweiniad un i un gan Arbenigwyr Mynediad. Rydym yma i ateb cwestiynau, trafod heriau, ac arwain eich sefydliad drwy welliannau mynediad.
Tanysgrifiwch yn awr
Arddangos eich darpariaethau mynediad
Mae ein hoffer digidol yn ei gwneud yn haws i bobl anabl ddod o hyd i wybodaeth glir a chyson am eich darpariaethau mynediad.
Tanysgrifiwch yn awr
Byddwch yn rhan o restrau I Bawb/All In
Ychwanegwch eich lleoliadau, perfformiadau, digwyddiadau ac arddangosfeydd at ein rhestrau chwiliadwy er mwyn i bobl anabl allu dod o hyd i brofiadau sy’n diwallu eu hanghenion mynediad.
Tanysgrifiwch yn awr
Cysylltu ag arbenigwyr hygyrchedd ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
Defnyddiwch ein cyfeiriadur cymorth i ddod o hyd i weithwyr llawrydd, ymgynghorwyr a sefydliadau a all eich helpu i wella hygyrchedd.
Tanysgrifiwch yn awr
Datblygu gwybodaeth am fynediad ar draws eich sefydliad
Gallwch gael adnoddau, gwybodaeth a deunyddiau dysgu unigryw i ddatblygu hyder a dealltwriaeth ynghylch hygyrchedd.
Tanysgrifiwch yn awr
Beth sydd wedi ei gynnwys yn All In Plus
Popeth sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn Essentials… yn ogystal â gwell offer i sefydliadau sydd â system swyddfa docynnau.
I ddod yn ystod Haf 2026

Cael gofynion mynediad yn uniongyrchol
Bydd ein hoffer swyddfa docynnau integredig yn ei gwneud yn haws i bobl anabl rannu gofynion mynediad yn ddiogel wrth archebu.
Tanysgrifiwch yn awr
Dadansoddi eich data cynulleidfa
Mae dadansoddiadau a gwybodaeth unigryw am gynulleidfaoedd yn eich helpu i ddeall eich ymwelwyr anabl a mesur effaith eich gwelliannau.
Tanysgrifiwch yn awr
Gadewch i ni ddelio â’r gwaith gweinyddol
Treuliwch lai o amser ar alwadau ffôn a negeseuon e-bost, a mwy o amser yn croesawu cwsmeriaid sydd angen cymorth.
Tanysgrifiwch yn awr
Ymddiriedaeth yn erbyn tystiolaeth
Dewiswch a ydych chi am ofyn am dystiolaeth ar gyfer seddi hygyrch a thocynnau i gymdeithion – pa un bynnag sy’n gweddu orau i’ch model busnes presennol.
Tanysgrifiwch yn awr“Bydd cysylltu ein digwyddiadau a’n systemau tocynnau â gwefan All In o fudd i’n cynulleidfaoedd yn awr ac yn y dyfodol, gan ei gwneud yn haws archebu tocynnau a dod o hyd i ddigwyddiadau, a chynorthwyo pawb sydd ag anghenion mynediad i ddod yn nes at ddiwylliant.”