Prisiau
Explore Sector Resources
Dewiswch y pecyn sy’n addas i’ch sefydliad
Mae All In bellach yn agored ar gyfer tanysgrifiadau i sefydliadau ledled Lloegr a bydd yn cael ei gyflwyno i weddill y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn ystod 2026 a 2027
Bydd All In Plus yn lansio yn Lloegr yn ystod haf 2026 gydag integreiddiadau ac offer digidol uwch.
Create an All In account
Unlock innovative features with an All In subscription.
Subscribe to All InBecyn
| All In Essentials | All In Plus | |
|---|---|---|
| Safonau Hygyrchedd | Gwiriwyd | Checked |
| Proffil mynediad | Gwiriwyd | Checked |
| Cymorth mynediad un i un | Gwiriwyd | Checked |
| Adnoddau hygyrchedd arbennig (yn dod yn fuan!) | Gwiriwyd | Checked |
| Hyrwyddo lleoliadau a digwyddiadau ar restrau | Gwiriwyd | Checked |
| Caniatáu i gwsmeriaid rannu eu gofynion mynediad drwy ein system ddigidol | Heb ei wirio | Checked |
| Tynnwch ofynion mynediad yn uniongyrchol i’ch llwybr archebu trwy integreiddiadau swyddfa docynnau | Heb ei wirio | Checked |
| Casglu a dadansoddi data’r gynulleidfa | Heb ei wirio | Checked |
| Gofyn am dystiolaeth ar gyfer seddi hygyrch a thocynnau i gymdeithion | Heb ei wirio | Checked |
Prisiau
| All In Essentials | All In Plus | |
|---|---|---|
| Trosiant | Tanysgrifiad Blynyddol y DU (nid yw pob pris yn cynnwys TAW) | |
| Hyd at £500,000 drosiant | £200 | £250 |
| £500,000 hyd at £1 miliwn | £300 | £400 |
| £1 miliwn hyd at £2 miliwn | £550 | £750 |
| £2 miliwn hyd at £5 miliwn | £1,100 | £1,500 |
| £5 miliwn hyd at £10 miliwn | £2,750 | £3,750 |
| £10 miliwn a mwy | £5,500 | £7,500 |
| Tanysgrifiad Grŵp | Additional £250 per location | Additional £250 per location |
Create an All In account
Unlock innovative features with an All In subscription.
Subscribe to All In
Cwestiynau Cyffredin
Sut mae All In yn diffinio trosiant?
Mae tanysgrifiadau’n seiliedig ar drosiant sefydliad. Diffinnir hyn fel y ffigur trosiant refeniw mewn cyfrifon ar gyfer y cwmni a phob is-gwmni lle mae gweithgareddau’n ymwneud â’r prif fusnes ym maes y celfyddydau.
Byddai is-gwmnïau’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fusnes arlwyo’r lleoliad ei hun neu siop. Dylai’r ffigur gynnwys trosiant gros y swyddfa docynnau, net o TAW, a’r refeniw net o’r holl weithgareddau ategol a masnachu, gan gynnwys arlwyo a bariau neu incwm a ddangosir yng nghyfrifon y cwmni a dderbyniwyd o weithrediadau masnachfraint.
Beth os oes gan fy sefydliad fwy nag un lleoliad?
Bydd eich tanysgrifiad sylfaenol yn cynnwys un lleoliad. Os oes gennych chi fwy nag un lleoliad, gallwch uwchraddio i Danysgrifiad Grŵp. Gallwch ddewis faint o leoliadau rydych chi am eu cynnwys.
Sut mae All In yn diffinio ‘lleoliad’?
Diffinnir lleoliadau fel rhai sydd â’u cyfeiriad a’u darpariaethau mynediad eu hunain, ac mae angen proffil mynediad unigryw ar bob un. Os ydych chi’n defnyddio mwy nag un lle mewn un adeilad, mae hyn yn dal i gael ei ystyried yn ‘leoliad’. Ar gyfer mwy nag un lle ar draws dinas, byddech yn uwchraddio i Danysgrifiad Grŵp.
Alla i newid i All In Plus yn nes ymlaen?
Gallwch. Gallwch newid rhwng tanysgrifiadau yn ddiweddarach
A fydd All In am ddim i’m cwsmeriaid anabl?
Bydd. Bydd All In yn rhad ac am ddim i bobl anabl. Rydym wedi ymrwymo i leihau’r rhwystrau ariannol sy’n atal pobl anabl rhag profi creadigrwydd a diwylliant.
A yw’r prisiau hyn yn berthnasol yn Iwerddon?
Nac ydynt. Dyma’r prisiau ar gyfer tanysgrifiadau’r DU. Byddwn yn cadarnhau prisiau ar gyfer Iwerddon maes o law.
Sut gallai All In weithredu’n wahanol ymhob gwlad?
Wrth i All In ddatblygu, bydd yn cael ei deilwra yn ôl gofynion y gwledydd er mwyn adlewyrchu ac addasu’n well i anghenion unigryw pob gwlad. Mae’r gwledydd ar adegau gwahanol yn eu teithiau datblygu ac maen nhw’n gweithredu ar gyflymder gwahanol. Caiff rhagor o wybodaeth ei rhannu maes o law wrth i All In symud tuag at gael ei gyflwyno ledled y DU ac Iwerddon.
Beth mae All In yn ei olygu i ddyfodol Hynt?
Rydym yn gweithio’n agos gyda thîm Hynt a’n partneriaid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Fe wnawn ni gyhoeddiad pellach yn fuan am sut y bydd Hynt a’r cynllun mynediad newydd yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd. Ar hyn o bryd, ni fydd dim yn newid i leoliadau a defnyddwyr Hynt.