Croeso i bawb

Allwedd mynediad

Ddim yn siŵr beth mae symbol mynediad yn ei olygu? Dyma allwedd i'n holl symbolau:

Anifeiliaid Cymorth

Anifail sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig i helpu pobl anabl gyflawni tasgau penodol yw anifail cymorth.

Capsiynau

Fersiwn destun o eiriau llafar, effeithiau sain, ac elfennau dieiriau yw sgrindeitlau.

Chilled Opening

Mae'r lle yn cael ei wneud yn fwy digynnwrf a chroesawgar, er enghraifft trwy gadw'r goleuadau ymlaen a chaniatáu i bobl symud o gwmpas neu gymryd seibiannau. Nid yw'r perfformiad neu'r gweithgaredd ei hun yn newid.

Cyfleusterau Hygyrch i Fabanod

Man lle ceir byrddau newid cewyn a phopeth sydd ei angen arnoch i newid cewyn a dillad babi, a all gael ei ddefnyddio gan ddefnyddiwr cadair olwyn neu ddefnyddwyr anabl eraill, ar eu pen eu hunain neu gyda chymorth.

Dangosiadau sy’n Deall Dementia

Mae perfformiadau, digwyddiadau, neu arddangosfeydd ystyriol o ddementia wedi'u haddasu'n synhwyraidd i gynorthwyo cynulleidfaoedd sy'n byw gyda Dementia, eu teuluoedd a gofalwyr.

Disgrifiadau Sain

Sylwebaeth sain ychwanegol sy'n esbonio'r hyn sy'n digwydd ar lwyfan, sgrin, neu mewn arddangosfa yw Disgrifiad Sain (AD).

Dolenni Sain a Chlustffonau

Gwella clyw seiliedig ar leoliad sy'n gweithio gyda chymhorthion clyw ymwelwyr eu hunain i chwyddo sain, fel system Dolen. Dyfeisiau arbenigol sy'n chwyddo sain yw pensetiau gwella clyw.

Gwybodaeth wedi’i Haddasu

Mae gwybodaeth ar gael mewn dewis o fformatau hygyrch, er enghraifft taflenni, ffurflen sain, Hawdd ei Ddeall, print bras, Braille.

Mannau Tawel

Mae man synhwyraidd neu dawel yn cynnig profiad synhwyraidd wedi'i reoli a digynnwrf i unigolion. Yn disgrifio sut i gael mynediad i'r ystafell, yn ogystal â'r hyn y gallai ymwelwyr ei ddarganfod yno. Er enghraifft, goleuadau pyladwy, soffas, blancedi, llyfrau, neu unrhyw beth arall.

Mynediad i Gadeiriau Olwyn

Mae'n hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn, â drysau digon llydan, llwybrau di-risiau a lifftiau hygyrch pan fo'u hangen.

Parcio Hygyrch

Ceir lleoedd parcio hygyrch a/neu leoedd parcio bathodyn glas o fewn 50 medr i'r fynedfa.

Relaxed Opening

Mae'r llwyfan a'r awditoriwm neu'r gweithgaredd wedi'u haddasu i greu profiad mwy cyfforddus. Gallai sain, goleuadau, ac effeithiau fod wedi'u haddasu, ac mae'r amgylchedd yn fwy hyblyg. Er enghraifft, mae goleuadau yn aros ymlaen, a gall pobl symud o gwmpas, gadael, neu ddychwelyd ar unrhyw adeg.

Step-free / Level Access

Mae'n bosibl mynd i mewn i'r man a symud o'i gwmpas heb ddefnyddio grisiau.

Toiled Lleoedd Newid

Toiledau hygyrch mwy ag offer fel offer codi, sgriniau preifatrwydd, meinciau newid maint oedolyn, toiledau penrhyn a lle i ofalwyr yw toiledau Changing Places.

Toiledau Hygyrch

Toiled hygyrch a all gael ei ddefnyddio gan ddefnyddiwr cadair olwyn neu ddefnyddwyr anabl eraill, ar eu pen eu hunain neu gyda chymorth.