All In ar gyfer y Sector
Archwilio Adnoddau Sector
Yn All In, ein cenhadaeth yw gwella mynediad i bobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol yn y sector creadigol a diwylliannol.
Rydyn ni am helpu theatrau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sefydliadau diwylliannol a chreadigol eraill i wella mynediad, croesawu ymwelwyr newydd, a chynyddu’r niferoedd sy’n ymweld â nhw. Mae llawer o sefydliadau ledled y DU yn gweithio’n galed i wella mynediad, ond credwn y gallwn wneud mwy fyth gyda’n gilydd.
Dyna pam ein bod yn siarad â sefydliadau o bob math i wneud yn siŵr bod ein cynllun yn cydnabod arferion da. Mae’n bwysig bod ein cynllun yn gweithio gyda chynlluniau mynediad a systemau tocynnau presennol.
Rydyn ni’n bwriadu gwneud y canlynol:
- Cyflwyno safonau hygyrchedd ledled y DU ar gyfer y sector creadigol a diwylliannol cyfan.
- Cynnig hyfforddiant, adnoddau a chefnogaeth i gynyddu hyder staff a helpu sefydliadau i gyrraedd y safonau hyn.
- Creu un system ddigidol sy’n galluogi pobl sydd â gofynion mynediad i greu proffil y gellir ei rannu’n ddiogel drwy gyfrif All In eich sefydliad.
- Cysylltu sefydliadau creadigol a diwylliannol â chyflenwyr a all eich helpu i wella eich darpariaethau mynediad.
- Darparu gwybodaeth a data i roi gwell dealltwriaeth i chi o anghenion mynediad eich cynulleidfa.
Mae llawer o sefydliadau a all eich helpu i wella eich mynediad. Edrychwch ar ein cyfeiriadur cymorth lle gallwch ddod o hyd i ymgynghorwyr hygyrchedd, gweithwyr llawrydd a sefydliadau o bob cwr o’r DU.
Mae’r cynllun wrthi’n cael ei ddatblygu, ac mae cynllun peilot wedi’i gynllunio ar gyfer 2024. Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd, llenwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb.
Mynegi eich diddordeb
Cyfle i gael yr wybodaeth, y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gan dîm All In.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn anfon yr wybodaeth gywir at y bobl iawn. Dewiswch pa fath o negeseuon e-bost yr hoffech eu derbyn gennym:
Hygyrchedd
Mae croeso i bawb ar ein gwefan. Rydyn ni am wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad at ein cynnwys.
Dysgwch fwy am hygyrchedd yn All In.