All In Accessibility Standards
Profiadau Creadigol a Diwylliannol
Canllawiau ymarferol ar gyfer gwaith creadigol cynhwysol a hygyrch o’r cysyniad i’r cyflwyniad. Mae’r Safonau hyn yn helpu timau creadigol i gydweithio ag artistiaid anabl. Maent hefyd yn eich helpu i ddylunio profiadau cynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.
Nod y Safonau hyn yw grymuso sefydliadau i gomisiynu ac arddangos gwaith gan artistiaid anabl, cynllunio digwyddiadau gyda hygyrchedd mewn golwg a chreu profiadau cynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.
1. Ymrwymiad Strategol
Unigolyn yn eistedd gyda’i goesau wedi’u croesi ar y llawr mewn oriel lân, wen gyda nenfwd crwm. Mae’n edrych yn hapus ac yn optimistaidd.
1.01 Dull Sefydliadol
Sicrhewch fod gennych ddull strategol neu resymeg glir ynghylch sut mae gwaith a arweinir gan bobl anabl neu sy’n canolbwyntio ar anabledd yn cael ei gomisiynu a’i raglennu.
This content is only available to logged in users.
Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd ac yn cymryd rhan mewn gweithgaredd cydweithredol. Mae papurau, llyfrau nodiadau a diodydd ar y bwrdd. Mae un person yn sefyll ac yn dal dalen o bapur.
1.02 Partneriaethau a Chydweithredu
Anogwch bartneriaethau â sefydliadau a arweinir gan bobl anabl ac ymgynghorwyr mynediad.
This content is only available to logged in users.
Arddangosfa o arddangosion gyda wal felen yn cynnwys panel gwybodaeth gan y Deaf Arts Forum a sgrin yn dangos fideo gyda chapsiynau am gyfathrebu â phobl fyddar.
1.03 Rhaglennu Perfformiadau wedi’u Haddasu
Gwnewch yn siŵr bod gennych resymeg glir ynghylch sut mae perfformiad addasol a gwaith hygyrch yn cael eu rhaglennu a/neu eu cynhyrchu.
This content is only available to logged in users.
Mae grŵp o gydweithwyr yn eistedd o amgylch bwrdd yn cynnal sesiwn gynllunio. Mae un person yn teipio ar liniadur. Mae’r bwrdd yn frith o lyfrau nodiadau, pennau ysgrifennu a photeli dŵr.
1.04 Cyllidebu ar gyfer Mynediad
Sicrhewch fod hygyrchedd yn cael ei gynnwys mewn cynllunio ariannol.
This content is only available to logged in users.
Mae dau berfformiwr yn sefyll ar y llwyfan gyda’u llygaid wedi’u hoelio ar ei gilydd. Mae un person yn gwisgo laniard blodyn yr haul. Mae seddi’r gynulleidfa yn y cefndir o liw gwyrddlas ac wedi’u goleuo’n dda.
1.05 Cwmnïau Cynhyrchu a Hyrwyddwyr Allanol
Sicrhewch fod hygyrchedd yn cael ei gynnwys mewn contractau gyda phartneriaid allanol.
This content is only available to logged in users.
2. Mynediad at Gyfleoedd
Mae’r Safonau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar gymryd ymagwedd deg o ddod o hyd i waith a dewis gwaith fel bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli’n deg yn eich rhaglen. Bydd y Safonau hyn yn eich helpu i sicrhau bod eich proses gyfan ar gyfer dod o hyd i waith, a’i gynllunio, ynghyd â chynnig cyfleoedd yn hygyrch ac yn gynhwysol i bobl greadigol anabl. Mae’r Safonau unigol yn sicrhau bod eich sefydliad yn esbonio ei ymagwedd yn glir ac yn dryloyw. Maent yn sicrhau bod cyfleoedd a galwadau agored yn cyrraedd ystod eang o bobl anabl, a bod pobl yn gallu gwneud cais neu gyflwyno gwaith i’w ystyried mewn ffordd hygyrch. Mae’r Safonau hyn hefyd yn nodi sut y gallwch sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu cynnwys yn eich proses gwneud penderfyniadau.
Gall y Safonau yn y categori hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol i raglenwyr ac amserlenwyr, archebwyr masnachol, curaduron a thimau curadurol, timau datblygu artistiaid a thimau cyflawni prosiectau.
Rhes o bobl yn gwenu, gan gynnwys defnyddiwr cadair olwyn ac unigolyn sy’n gwisgo laniard blodyn yr haul, yn eistedd mewn awditoriwm gwag.
2.01 Dod o Hyd i Waith a Dewis Gwaith
Byddwch yn dryloyw ynglŷn â sut y deuir o hyd i waith (yn enwedig gwaith a arweinir gan bobl anabl ac sy’n canolbwyntio ar anabledd) a sut mae’n cael ei raglennu.
This content is only available to logged in users.
2.02 Mynediad at Gyfleoedd
Gall artistiaid a chwmnïau anabl gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd, a gwneud cais amdanynt, mewn ffordd hygyrch.
This content is only available to logged in users.
Unigolyn yn edrych drwy gerflun pren mawr, gwag, sydd ag arwynebau llyfn a chrwm.
2.03 Galwadau Agored
Mae galwadau agored yn hygyrch ac yn ddeniadol i artistiaid a chwmnïau anabl.
This content is only available to logged in users.
Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd mewn gofod dan do modern a llachar gyda ffenestri mawr, yn sgwrsio ac yn defnyddio gliniadur.
2.04 Grwpiau Gwneud Penderfyniadau
Mae lleisiau croestoriadol yn ymwneud yn ystyrlon â’r broses o wneud penderfyniadau am gomisiynau, ac mae’r broses yn hygyrch.
This content is only available to logged in users.
3. Gweithio gydag Artistiaid
Gall y Safonau yn y categori hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol i gynhyrchwyr, rheolwyr prosiectau, rheolwyr cymunedol a dysgu, timau datblygu artistiaid, a thimau gwirfoddoli.
Person mewn cadair olwyn o flaen cerflun pren sy’n cael ei arddangos ar bedestal gwyn mewn oriel. Mae’n darllen dogfen.
3.01 Tegwch i Artistiaid Anabl
Mae tegwch o brofiad i artistiaid anabl a sefydliadau a arweinir gan bobl anabl ar ôl iddynt gael eu comisiynu / eu rhaglennu.
This content is only available to logged in users.
Dau berson yn eistedd wrth fwrdd gyda gliniaduron mewn gofod dan do llachar, yn gweithio gyda’i gilydd gyda llyfrau nodiadau a diod gerllaw.
3.02 Contractio
Defnyddiwch broses gontractio glir sy’n blaenoriaethu mynediad a hyblygrwydd.
This content is only available to logged in users.
3.03 Arferion Gweithio Hygyrch
Defnyddiwch ffyrdd o amserlennu a gweithio sy’n sicrhau y gallwch ddiwallu anghenion mynediad pawb sy’n ymwneud â gwneud gwaith.
This content is only available to logged in users.
4. Cynllunio a Chyflwyno Digwyddiadau
Mae defnyddiwr cadair olwyn o flaen sgrin fawr, yn gwisgo clustffonau.
4.01 Cynllunio Digwyddiadau
Ystyriwch hygyrchedd o ddechrau’r broses gynllunio, gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun mynediad clir ar gyfer eich digwyddiad, a’ch bod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am bob elfen.
This content is only available to logged in users.
Dau ymwelydd yn edrych ar daflenni a llyfrynnau yng nghyntedd lleoliad. Mae un ohonynt yn ddefnyddiwr cadair olwyn. Mae pobl yn sefyll ac yn sgwrsio yn y cefndir.
4.02 Cynllunio Marchnata a Chyfathrebu
Ystyriwch hygyrchedd yn eich cynllunio Marchnata a Chyfathrebu fel bod fformatau amgen a gwybodaeth am gyflwyniadau addasol yn gyson â’r dull creadigol cyffredinol, ac fel rhan o’r ymgyrch gyffredinol.
This content is only available to logged in users.
Arwyddion amgueddfa ar gyfer arddangosfa sy’n dathlu amrywiaeth chwaraeon yn Leeds.
4.03 Darpariaethau Cynulleidfa
Darparwch ystod o ddarpariaeth hygyrch sy’n diwallu anghenion y gynulleidfa ac sy’n rhoi dewis gwirioneddol i bobl. Defnyddiwch ddulliau creadigol ac integreiddio darpariaethau mynediad i brofiadau lle bynnag y bo modd.
This content is only available to logged in users.
4.04 Cynllunio ar gyfer Argyfyngau a Chynllunio Wrth Gefn
Sicrhewch fod darpariaethau mynediad yn cael eu cynnal a bod pobl yn cael eu cefnogi mewn amgylchiadau annisgwyl.
This content is only available to logged in users.
5. Gwerthuso a Gwelliant Parhaus
Gallai’r Safonau yn y categori hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer timau arweinyddiaeth, deiliaid cyllidebau, rheolwyr prosiectau, gwerthuswyr, rheolwyr data, aelodau bwrdd/ymddiriedolwyr, a grwpiau cynghori.
Person yn annerch grŵp mawr o bobl sy’n eistedd wrth fyrddau crwn mewn ystafell brysur.
5.01 Myfyrio ar Effaith
Crëwch le ar gyfer dysgu, gwelliant parhaus ac i ddatblygu cymunedau.
This content is only available to logged in users.
Ymwelydd hŷn wrth bwynt gwasanaeth cwsmeriaid yn rhoi bawd i fyny i aelod o staff.
5.02 Dulliau Adborth Cynhwysol
Mae dulliau gwerthuso yn hygyrch fel bod adborth yn cynnwys ystod o safbwyntiau ac yn arwain at welliant ystyrlon.
This content is only available to logged in users.
Mae dau berfformiwr yn sefyll ar y llwyfan gyda’u llygaid wedi’u hoelio ar ei gilydd. Mae un person yn gwisgo laniard blodyn yr haul. Mae’r awditoriwm wedi’i oleuo’n dda ac nid oes cynulleidfa.
5.03 Mesur Cynrychiolaeth a Mynediad
Mesurwch fynediad, cynhwysiant a chynrychiolaeth anabledd o ystod o safbwyntiau, a rhannu a defnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu i wella eich ymarfer.
This content is only available to logged in users.