All In a Chyngor Celfyddydau Lloegr wedi ennill Gwobr Disability Smart
- Newyddion
30 April 2025
List of categories for this post
Rydym yn falch o gyhoeddi bod All In a Chyngor Celfyddydau Lloegr wedi dod i’r brig yng nghategori Caffael Gwobrau Disability Smart 2025.
Mae Gwobrau Disability Smart yn cael eu cynnal yn flynyddol gan y Fforwm Anabledd Busnes, ac yn dathlu gwaith y sefydliadau sy’n gwella profiadau eu cyflogeion a’u cwsmeriaid anabl.
Mae Gwobr Gaffael Disability Smart yn gategori newydd a gyflwynwyd yn 2025 i gydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i wella cyfleoedd a phrofiadau pobl anabl drwy ddulliau ac arferion caffael cynhwysol. Mae All In yn wasanaeth sydd wedi ei ddatblygu gan bobl anabl i bobl anabl, a’i amcan oedd canfod ffyrdd o sicrhau bod cynwysoldeb yn rhan o gamau caffael cyntaf pob prosiect, drwy weithio ag ymgynghorwyr anabl, cynnal grwpiau cynghori i ymgysylltu â phobl anabl, a chreu meini prawf penodol ar gyfer cyflenwyr posibl gan roi cyfle iddynt ddangos sut fyddan nhw’n cynnwys profiadau pobl yn eu gwaith.

Abid Hussain a Roger Dennis yn derbyn Gwobr Gaffael Disability Smart ar ran All In a Chyngor Celfyddydau Lloegr ar lwyfan sydd wedi ei oleuo’n borffor yn Seremoni Wobrwyo Disablity Smart 2025. Mae Diane Lightfoot, Prif Swyddog Gweithredol y Fforwm Busnes Anabledd, a Simon Minty, llysgennad y Fforwm Busnes Anabledd, yn sefyll bob ochr iddynt ar y llwyfan.
Rydym ni’n paratoi i lansio All In yn ail hanner 2025, ac felly mae ennill y wobr hon yn garreg filltir sylweddol yn y broses.
Llongyfarchiadau i bawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol!
“Mae ennill y wobr hon yn nodi dechrau taith gyffrous a phwysig iawn.”
Dywedodd Tim Wheeler, Uwch Reolwr y Prosiect All In: “Mae’n anrhydedd ennill y Wobr Gaffael yng Ngwobrau Disability Smart 2025. Mae tîm All In, ynghyd â’u cydweithwyr caffael yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, yn falch fod hygyrchedd a chynhwysiant yn rhan ganolog o’u gwaith.
“Ein bwriad yw cynnwys y gwerthoedd hyn ar ddechrau pob prosiect. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau newid parhaol ledled y sefydliad ac yn amlygu pwysigrwydd cael cyflenwyr sy’n cynnwys lleisiau a phrofiad pobl anabl yn eu gwaith. Bydd All In yn cael ei lansio yn ail hanner 2025. Mae ennill y wobr hon yn nodi dechrau taith gyffrous a phwysig iawn.”
Dywedodd Darren Henley, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Lloegr: “Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr wedi dysgu pethau gwerthfawr drwy All In, ac rydym ni’n edrych ymlaen at roi’r pethau hynny ar waith yn ein prosesau caffael yn y dyfodol. Wrth gynnwys profiadau gwirioneddol pobl yn y broses gaffael, mae All In yn dangos eu bod wedi ymrwymo i fod yn wasanaeth sydd wedi ei ddatblygu gan bobl anabl i bobl anabl. Rwyf i’n falch iawn o’r tîm ac o’m cydweithwyr yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, ac yn edrych ymlaen at weld sut fydd All In yn gwella profiadau pobl anabl o’r sector creadigol a diwylliannol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.”