All In ar gyfer y Sector
Archwilio Adnoddau Sector
Trawsnewid eich agwedd at hygyrchedd
Gall All In roi’r offer i’ch sefydliad greu newid go iawn i’ch ymwelwyr anabl.

Grŵp o bobl yn chwerthin wrth fwynhau arddangosfa ffotograffiaeth mewn oriel gelf.
Cewch arweiniad clir, ymarferol i wneud gwelliannau gyda’n set gynhwysfawr o Safonau Hygyrchedd, ynghyd â chefnogaeth gan ein tîm datblygu sgiliau cyfeillgar sy’n gallu cynnig arweiniad ac adnoddau, a’ch cyfeirio at arbenigwyr hygyrchedd.
Mae Hanfodion All In bellach ar gael i sefydliadau yn Lloegr, gan gynnwys theatrau, amgueddfeydd, orielau, canolfannau celf, sinemâu, gwyliau a llyfrgelloedd, felly dyna gam diweddaraf y cyflwyniad.
Wedi’i ddatblygu gan bobl anabl ar gyfer pobl anabl, mae All In yn cyfuno profiad byw a gwybodaeth dechnegol er mwyn trawsnewid hygyrchedd yn y sector creadigol a diwylliannol.
Beth nesaf gan All In?
Rydym yn symud i gam nesaf y cyflwyno i sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Lloegr. Bydd All In Plus yn cyflwyno nodweddion digidol ychwanegol gan gynnwys ffordd ddiogel o dderbyn gofynion mynediad aelod anabl, a bydd ar gael yn haf 2026.
Bydd cyfle i weddill Prydain ac Iwerddon danysgrifio yn ystod 2026 a dechrau 2027. Mynegwch eich diddordeb, ac fe anfonwn y wybodaeth ddiweddaraf atoch am y drefn gyflwyno yn eich gwlad chi.
“Mae All In wedi rhoi cyfle i’n tîm atgyfnerthu ein dealltwriaeth am y gwaith rydyn ni eisoes wedi’i wneud i geisio sicrhau bod ein lleoliadau hanesyddol yn hygyrch i ystod eang o gynulleidfaoedd.”
Nodweddion
Drwy danysgrifio i All In, bydd eich sefydliad yn gallu:
Dilyn safonau hygyrchedd cyntaf y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar gyfer y sector creadigol a diwylliannol
Bydd y safonau’n gwella cysondeb ac ansawdd mynediad i bobl anabl. Wedi’i ddatblygu gan yr elusen anabledd Attitude is Everything, bydd safonau All In yn cwmpasu pedwar maes allweddol ar gyfer mynediad, sef: yr amgylchedd adeiledig, cyfathrebu digidol, gwasanaeth i gwsmeriaid, a chomisiynau, digwyddiadau a rhaglenni.
Elwa o gefnogaeth a datblygiad sgiliau i fodloni safonau hygyrchedd
Ar ôl hunanarchwiliad, byddwch yn gallu asesu’ch darpariaethau mynediad presennol a chynllunio sut rydych am wneud gwelliannau. Byddwn ni’n cynnig arweiniad ac adnoddau i’ch helpu i ddeall safonau hygyrchedd All In ac i roi’r hyder i’ch sefydliad wneud newidiadau cadarnhaol.
Defnyddio technoleg arloesol i dderbyn gofynion mynediad yn ddiogel
Bydd ein hoffer digidol yn ei gwneud yn haws i bobl anabl ganfod ac archebu tocynnau fydd yn addas i’w hanghenion mynediad. Wrth rannu eu gofynion mynediad yn ddiogel trwy All In, gallwn leihau’r angen am alwadau ffôn ac ebyst, fel y gall eich staff chi ddefnyddio’u hamser yn fwy effeithlon.
Cysylltu ag arbenigwyr hygyrchedd ledled Prydain ac Iwerddon
Defnyddiwch ein cyfeiriadur ni i ddod o hyd i weithwyr llawrydd, ymgynghorwyr a sefydliadau a all eich helpu i wneud gwelliannau o ran hygyrchedd.
Dadansoddi eich data cynulleidfa
Gallwch ddod i ddeall anghenion mynediad eich ymwelwyr yn well trwy fewnwelediad a data. Bydd dadansoddi’r data yn eich helpu i deilwra’ch dull marchnata a chyfathrebu i gyrraedd mwy o bobl anabl.
Rydym yn rhedeg cynllun peilot ar hyn o bryd fydd yn para tan haf 2025. Rydyn ni’n gwybod ei bod yn bwysig profi, dadansoddi ac ymateb i’n canfyddiadau, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cynllunio cynllun a fydd o fudd i bawb.
Mynegwch eich diddordeb
Cyfle i gael yr wybodaeth, y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gan dîm All In.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn anfon yr wybodaeth gywir at y bobl iawn. Dewiswch pa fath o negeseuon e-bost yr hoffech eu derbyn gennym: