All In yn penodi People Connective o The Card Network i ddarparu cymorth arbenigol i aelodau anabl
- Newyddion
9 February 2026
List of categories for this post
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod People Connective, sy’n rhan o The Card Network, wedi cael ei benodi i ddarparu desg gymorth hygyrch All In i bobl anabl pan fydd y cynllun yn agor i aelodau yn nes ymlaen yn 2026.
Bydd ein desg gymorth yn cynnig cymorth cyfeillgar sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy nifer o sianeli – gan gynnwys dros y ffôn, e-bost, sgwrs fyw, apwyntiadau ar-lein (gyda dehongli BSL dewisol), a thrwy’r post. Bydd aelodau’n gallu dewis y dull cyfathrebu sy’n gweithio orau iddyn nhw, heb gael eu gwthio i ddefnyddio llwybrau awtomataidd neu ddigidol-yn-unig.
Mae gan The Card Network 20 mlynedd a mwy o brofiad o ddarparu cymorth hygyrch i gwsmeriaid ar gyfer cynlluniau anabledd cenedlaethol – gan gynnwys y Cynllun Cardiau CEA cenedlaethol, a Hynt, y cynllun mynediad y mae All In yn adeiladu arno yng Nghymru. Yn 2025, lansiwyd People Connective i ganolbwyntio’n benodol ar wasanaethau cynhwysol a hygyrch i aelodau.
Ar hyn o bryd mae All In yn mynd drwy broses o gyflwyno ei wasanaethau’n raddol, a ddechreuodd gyda Chyfrifon Blasu ar gyfer sefydliadau yn Lloegr ym mis Medi 2025. Bydd y cynllun yn dechrau croesawu aelodau anabl yn nes ymlaen yn 2026, pan fyddwn yn dechrau ar gam olaf y broses gyflwyno yn Lloegr. Bydd All In yn cymryd tanysgrifiadau gan y sector ddechrau 2026, pan fydd All In Essentials yn mynd yn fyw.
“Drwy benodi People Connective, bydd ein haelodau anabl yn cael gwasanaeth cymorth caredig a hyblyg gyda pherson go iawn ar y pen arall.”
Dywedodd Kelly Parish, Uwch Reolwr Amrywiaeth, Cyngor Celfyddydau Lloegr:
“Rydyn ni’n gwybod, i lawer o bobl anabl, fod y rhwystrau mwyaf yn gallu codi ar y pwynt cyswllt cyntaf un. Dyna pam rydyn ni eisiau galluogi ein haelodau anabl i ddewis sut maen nhw eisiau cysylltu â ni. Drwy benodi People Connective, bydd ein haelodau anabl yn cael gwasanaeth cymorth caredig a hyblyg gyda pherson go iawn ar y pen arall. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i roi pobl anabl wrth galon All In.”
Dywedodd Sue Woodcock, Cyfarwyddwr Masnachol The Card Network:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gydag All In i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar aelodau ar gyfer eu desg gymorth, ac o fod yn cydweithio â Chyngor Celfyddydau Lloegr o’r cychwyn cyntaf i ddatblygu ateb hygyrch.
Mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad yn cefnogi a rheoli cynlluniau ar gyfer pobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol, gan gynnwys cynllun mynediad llwyddiannus Hynt sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru ac sydd wedi cael effaith ystyrlon iawn ar ei aelodau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y profiad hwnnw wrth i ni weithio ochr yn ochr ag All In.”