Arolwg Mynediad at Ddiwylliant yn cadarnhau’r prif rwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cymryd rhan
- Newyddion
27 March 2025
List of categories for this post
Mae’r arbenigwr cynulleidfaoedd, Indigo Ltd, wedi rhyddhau ei ganfyddiadau o’r Arolwg o Fynediad at Ddiwylliant, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad ag All In ac a noddwyd gan pointOne. Rydyn ni yn All In, a ddatblygwyd gan bobl anabl, yn ystyried y canfyddiadau hyn yn rhai pwysig a brys – sy’n cadarnhau’r hyn y mae llawer o bobl anabl wedi’i brofi ers tro byd wrth geisio cymryd rhan mewn creadigrwydd a diwylliant.
Rhannwyd yr arolwg hwn yn eang ac fe gasglwyd dros 12,700 o ymatebion dilys gan gynulleidfaoedd mewn 85 o theatrau, cerddorfeydd a sefydliadau celfyddydau perfformio ar hyd a lled y DU, gan roi cipolwg hollbwysig i ni wrth i All In baratoi i gael ei gyflwyno yn nes ymlaen eleni.

Grŵp o bobl yn chwerthin wrth fwynhau arddangosfa ffotograffiaeth mewn oriel gelf.
Lluniau gan Karol Wyszynski.
Mae’r arolwg yn dangos, er bod ein sector yn arwain o ran cynhwysiant o’i gymharu â mannau cyhoeddus eraill, bod rhwystrau sylweddol yn dal i fodoli:
Dyma’r prif ganfyddiadau:
- Mae 7 o bob 10 o bobl anabl yn ei chael yn anodd dod o hyd i wybodaeth glir am hygyrchedd
- Mae ymwelwyr anabl naw gwaith yn fwy tebygol o gael trafferth archebu tocynnau ar-lein
- Dydy 2 o bob 5 ymwelydd anabl ddim yn hyderus y bydd eu gofynion mynediad yn cael eu bodloni
- Mae 38% yn methu digwyddiadau diwylliannol oherwydd ansicrwydd ynghylch hygyrchedd
- Mynediad corfforol yw’r rhwystr mwyaf o hyd, gyda gofynion synhwyraidd yn arbennig o bwysig i gynulleidfaoedd iau
Bydd All In yn darparu adnoddau i helpu mudiadau i fynd i’r afael â llawer o’r materion hyn:
Bydd ein safonau hygyrchedd arfaethedig, a ddatblygwyd gydag Attitude is Everything – elusen sy’n cael ei harwain gan bobl anabl – yn nodi’r arferion gorau ar gyfer y sector er mwyn bodloni gofynion mynediad pobl anabl. Byddwn hefyd yn cynnig cymorth ymarferol i sefydliadau drwy ddatblygu eu sgiliau a’u cysylltu ag arbenigwyr hygyrchedd.
Bydd pobl anabl yn gallu rhannu eu gofynion mynediad yn ddiogel drwy ein system ddigidol, gan roi gwybodaeth glir a chyfredol i sefydliadau sydd wedi tanysgrifio.
Bydd All In hefyd yn caniatáu i sefydliadau fesur eu llwyddiant drwy ddata a dadansoddeg, gan roi gwell dealltwriaeth iddynt o gynulleidfaoedd anabl a’u galluogi i ffocysu datblygiad darpariaethau mynediad yn y dyfodol.
“Mae’r canfyddiadau hyn yn dilysu’r hyn rydyn ni wedi’i glywed gan bobl anabl – mae rhwystrau o ran cyfathrebu yn aml yn atal pobl rhag cymryd rhan, hyd yn oed pan fo darpariaethau mynediad ar gael. Mae’r rhain yn feysydd lle gall All In wneud gwahaniaeth go iawn o ran trawsnewid profiadau diwylliannol a chreadigol pobl anabl a darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar sefydliadau i groesawu pawb.”
Dywedodd Katy Raines, Prif Swyddog Gweithredol Indigo: “Mae rhai canfyddiadau’n galonogol ac yn adlewyrchu ymdrechion y sector o ran mynediad a chynhwysiant; fodd bynnag, mae’n glir pa feysydd y mae angen i ni eu datblygu er mwyn cynnig mynediad at ddiwylliant i bawb.”
Mae’r adroddiad llawn ar gael yn indigo-ltd.com, a gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd All In ar gael drwy fynegi eich diddordeb.