Croeso i bawb

Tanysgrifiad All In

Archwilio Adnoddau Sector

Dyma gyfle i baratoi ar gyfer All In drwy gael cipolwg ar ein cyfraddau tanysgrifio blynyddol ar gyfer y DU.

Mae ein prisiau wedi cael eu cynllunio ar gyfer sefydliadau diwylliannol a chreadigol o bob lliw a llun. Bydd dau danysgrifiad ar gael, pob un yn cynnwys nodweddion i’ch helpu i wella eich mynediad a chroesawu mwy o bobl anabl.

All In Essentials
I sefydliadau sy’n awyddus i ddod i wybod mwy am hygyrchedd a darparu gwell mynediad i’w cwsmeriaid, ond nad ydynt yn defnyddio system archebu tocynnau.

All In Plus
I sefydliadau sydd eisiau gwella eu prosesau archebu, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid anabl rannu eu gofynion mynediad a phrynu tocynnau.

Bydd All In yn cael ei gyflwyno ledled y DU ac Iwerddon o ail hanner 2025 ymlaen. Byddwch y cyntaf i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy fynegi eich diddordeb yn All In.

Becyn

All In EssentialsAll In Plus
Creu proffil o’ch darpariaethau mynediad
Cefnogaeth i fodloni safonau hygyrchedd
Cymryd rhan yn ein rhaglen datblygu sgiliau
Cael cymorth arbenigol un i un ar hygyrchedd
Ychwanegu lleoliadau a digwyddiadau at ein rhestrau
Derbyn gofynion mynediad cwsmeriaid drwy ein system ddigidol
Mesur eich cynnydd drwy ddadansoddeg data

All In Essentials

  • Creu proffil o’ch darpariaethau mynediad
  • Cefnogaeth i fodloni safonau hygyrchedd
  • Cymryd rhan yn ein rhaglen datblygu sgiliau
  • Cael cymorth arbenigol un i un ar hygyrchedd
  • Ychwanegu lleoliadau a digwyddiadau at ein rhestrau
  • Derbyn gofynion mynediad cwsmeriaid drwy ein system ddigidol
  • Mesur eich cynnydd drwy ddadansoddeg data

All In Plus

  • Creu proffil o’ch darpariaethau mynediad
  • Cefnogaeth i fodloni safonau hygyrchedd
  • Cymryd rhan yn ein rhaglen datblygu sgiliau
  • Cael cymorth arbenigol un i un ar hygyrchedd
  • Ychwanegu lleoliadau a digwyddiadau at ein rhestrau
  • Derbyn gofynion mynediad cwsmeriaid drwy ein system ddigidol
  • Mesur eich cynnydd drwy ddadansoddeg data
swipe

Prisiau

All In EssentialsAll In Plus
Trosiant Tanysgrifiad Blynyddol y DU
(Pob pris heb gynnwys TAW)
Hyd at £500,000 o drosiant£200£250
£500,000 at £1 miliwn£300£400
£1 miliwn at £2 miliwn£550£750
£2 miliwn at £5 miliwn£1,100£1,500
£5 miliwn at £10 miliwn£2,750£3,750
£10 miliwn a mwy£5,500£7,500
Tanysgrifiad Grŵp£250 ychwanegol fesul lleoliad£250 ychwanegol fesul lleoliad

All In Essentials

  • Trosiant Tanysgrifiad Blynyddol y DU
    (Pob pris heb gynnwys TAW)
  • Hyd at £500,000 o drosiant£200
  • £500,000 at £1 miliwn£300
  • £1 miliwn at £2 miliwn£550
  • £2 miliwn at £5 miliwn£1,100
  • £5 miliwn at £10 miliwn£2,750
  • £10 miliwn a mwy£5,500
  • Tanysgrifiad Grŵp£250 ychwanegol fesul lleoliad

All In Plus

  • Trosiant Tanysgrifiad Blynyddol y DU
    (Pob pris heb gynnwys TAW)
  • Hyd at £500,000 o drosiant£250
  • £500,000 at £1 miliwn£400
  • £1 miliwn at £2 miliwn£750
  • £2 miliwn at £5 miliwn£1,500
  • £5 miliwn at £10 miliwn£3,750
  • £10 miliwn a mwy£7,500
  • Tanysgrifiad Grŵp£250 ychwanegol fesul lleoliad
swipe


Cwestiynau Cyffredin

Sut mae All In yn diffinio trosiant?

Mae tanysgrifiadau’n seiliedig ar drosiant sefydliad. Diffinnir hyn fel y ffigur trosiant refeniw mewn cyfrifon ar gyfer y cwmni a phob is-gwmni lle mae gweithgareddau’n ymwneud â’r prif fusnes ym maes y celfyddydau.  

Byddai is-gwmnïau’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fusnes arlwyo’r lleoliad ei hun neu siop. Dylai’r ffigur gynnwys trosiant gros y swyddfa docynnau, net o TAW, a’r refeniw net o’r holl weithgareddau ategol a masnachu, gan gynnwys arlwyo a bariau neu incwm a ddangosir yng nghyfrifon y cwmni a dderbyniwyd o weithrediadau masnachfraint.

Sut mae All In yn diffinio trosiant?

Bydd eich tanysgrifiad sylfaenol yn cynnwys un lleoliad. Os oes gennych chi fwy nag un lleoliad, gallwch uwchraddio i Danysgrifiad Grŵp. Gallwch ddewis faint o leoliadau rydych chi am eu cynnwys.

Sut mae All In yn diffinio ‘lleoliad’?

Diffinnir lleoliadau fel rhai sydd â’u cyfeiriad a’u darpariaethau mynediad eu hunain, ac mae angen proffil mynediad unigryw ar bob un. Os ydych chi’n defnyddio mwy nag un lle mewn un adeilad, mae hyn yn dal i gael ei ystyried yn ‘leoliad’. Ar gyfer mwy nag un lle ar draws dinas, byddech yn uwchraddio i Danysgrifiad Grŵp.

Alla i newid i All In Plus yn nes ymlaen?

Gallwch. Gallwch newid rhwng tanysgrifiadau yn ddiweddarach

Pryd fydd fy sefydliad yn gallu tanysgrifio i All In?

Bydd tanysgrifiadau’n cael eu cyflwyno’n ddiweddarach yn 2025. Cyn hynny, byddwn yn rhoi cipolwg cyntaf i sefydliadau ar bosibiliadau All In, gyda’r cyfle i greu cyfrif rhagolwg am ddim, gyda nodweddion cyfyngedig.

A fydd All In am ddim i’m cwsmeriaid anabl?

Bydd. Bydd All In yn rhad ac am ddim i bobl anabl. Rydym wedi ymrwymo i leihau’r rhwystrau ariannol sy’n atal pobl anabl rhag profi creadigrwydd a diwylliant.

A yw’r prisiau hyn yn berthnasol yn Iwerddon?

Nac ydynt. Dyma’r prisiau ar gyfer tanysgrifiadau’r DU. Byddwn yn cadarnhau prisiau ar gyfer Iwerddon maes o law.

Sut gallai All In weithredu’n wahanol ymhob gwlad?

Wrth i All In ddatblygu, bydd yn cael ei deilwra yn ôl gofynion y gwledydd er mwyn adlewyrchu ac addasu’n well i anghenion unigryw pob gwlad. Mae’r gwledydd ar adegau gwahanol yn eu teithiau datblygu ac maen nhw’n gweithredu ar gyflymder gwahanol. Caiff rhagor o wybodaeth ei rhannu maes o law wrth i All In symud tuag at gael ei gyflwyno ledled y DU ac Iwerddon.

Beth mae All In yn ei olygu i ddyfodol Hynt?

Rydym yn gweithio’n agos gyda thîm Hynt a’n partneriaid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Fe wnawn ni gyhoeddiad pellach yn fuan am sut y bydd Hynt a’r cynllun mynediad newydd yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd. Ar hyn o bryd, ni fydd dim yn newid i leoliadau a defnyddwyr Hynt.

Hygyrchedd

Mae croeso i bawb ar ein gwefan. Rydyn ni am wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad at ein cynnwys.

Dysgwch fwy am hygyrchedd yn All In
Poster image for the video BSL not yet available
Back to Top