Datganiad Hygyrchedd
Ein hymrwymiad i hygyrchedd
Yn All In, rydym eisiau i bawb allu defnyddio a mwynhau ein gwefan yn hawdd. Isod, fe welwch wybodaeth am sut rydym wedi dylunio’r wefan i fod yn hygyrch i bawb, gan gynnwys defnyddwyr ag anableddau.
Ein nod yw sicrhau bod ein gwefan ar gael i’w defnyddio gan gymaint o bobl â phosib, sy’n golygu y dylech chi allu:
- Defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Defnyddio meddalwedd adnabod llais i ryngweithio â’r wefan.
- Gwrando ar y rhan fwyaf o’r cynnwys gan ddefnyddio darllenydd sgrin (JAWS, NVDA, neu VoiceOver).
Yn ogystal, rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn ysgrifennu mor glir a syml ag sy’n bosib. Os oes arnoch chi angen cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio, mae AbilityNet yn cynnig adnoddau defnyddiol.
Problemau ar ein gwefan ar hyn o bryd:
- Wrth agor dolen mewn tab newydd does dim neges glir i ddweud bod hynny’n digwydd. Rydyn ni’n gweithio ar ychwanegu testun pwrpasol.
- Dydi negeseuon gwall ar ffurflenni ddim yn egluro beth aeth o’i le na sut i’w drwsio. Rydyn ni’n gweithio ar gywiro’r geiriad ar hyn o bryd.
- Mae darllenyddion sgrin yn methu darllen y fersiwn Gymraeg o’r cynnwys hwn, oherwydd cyfyngiadau yn y dechnoleg ar hyn o bryd.
- Mae’n gallu bod yn anodd llywio fideos Vimeo ar ein gwefan trwy’r bysellfwrdd. Rydyn ni’n edrych ar opsiynau eraill i ddangos ein fideos.
- Wrth ddefnyddio bysellfwrdd, mae’n rhaid tabio trwy’r dudalen gyfan cyn cyrraedd y faner caniatáu cwcis. Rydym yn gweithio symud hon i’r safle cyntaf yn nhrefn y tabiau.
Adborth:
Rydym yn croesawu adborth ar ein gwefan. Os cewch unrhyw broblemau gyda’n gwefan neu os oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwella, cysylltwch â ni.
Beth rydym wedi’i wneud i helpu hygyrchedd:
Er mwyn cyrraedd lefel uchel o hygyrchedd, rydym yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid Accessible by Design i ddilyn y canllawiau hygyrchedd rhyngwladol a osodwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-eang (W3C WCAG 2).
Yn ogystal, gan mai dim ond un rhan o fesur hygyrchedd yw dilyn y canllawiau, rydym yn gweithio gyda defnyddwyr go iawn i ddarganfod sut y bydd pobl yn defnyddio ein gwefan, a beth arall allwn ni ei wneud i’w gwneud hi’n haws ei defnyddio.
Mae cael adborth gan ein defnyddwyr yn flaenoriaeth uchel i ni ac mae’n rhan hanfodol o’n strategaeth ddigidol.
Nodweddion hygyrchedd:
- Neidio at y Cynnwys: Mae dolen “Neidio at y Cynnwys” ar gael fel y gall defnyddwyr darllenydd sgrin a bysellfwrdd fynd at y prif gynnwys yn gyflym.
- Opsiynau Modd Lliw: Cewch ddewis rhwng profiadau lliw Llachar neu Dawel, yn ôl eich dymuniad.
- Newid maint Testun: Gallwch newid maint y testun gan ddefnyddio ein bar offer hygyrchedd (mwy o fanylion isod).
- Mynediad Cyflym at Gynnwys BSL: Mae dolen uniongyrchol at gynnwys yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael yn y gornel dde uchaf ar unrhyw dudalen sydd â fersiwn BSL.
- Dolenni Clir: Mae pob un o’n dolenni wedi’u hysgrifennu i wneud synnwyr, hyd yn oed os ydych chi’n eu darllen allan o’u cyd-destun.
- Dewisiadau testun: Lle bynnag y defnyddiwn fideo neu sain, gellir dewis gweld y cynnwys ar ffurf testun.
- Rolau ARIA: Rydym wedi integreiddio rolau ARIA i helpu darllenwyr sgrin i ddeall a llywio ein cynnwys.
Dyma nodweddion eraill pwysig:
- Mae’r wefan yn gweithio’n dda gyda bysellfwrdd.
- Mae patrwm y wefan yn hyblyg ac mae’r hyn a welwch yn parhau’n gymesur wrth ichi chwyddo i mewn neu allan.
- Mae’r cynnwys wedi’i strwythuro’n dda ac yn hawdd ei ddarllen, gyda phenawdau clir a digon o le gwyn.
- Mae’r llywio yn gyson, felly mae bob amser yn hawdd dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.
- Mae cyferbyniad uchel rhwng ein lliwiau, fel ei bod yn haws darllen.
Gallwch addasu gosodiadau eich porwr hefyd i gynyddu maint y testun ar draws pob gwefan. Mae gan AbilityNet ganllawiau gwych yma i’ch helpu i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio.
Fersiwn Hawdd ei Ddeall:
Rydym yn cynnig fersiynau Hawdd eu Deall o dudalennau allweddol:
- Lawrlwytho fersiwn Hawdd ei Ddeall: All In ar gyfer y Sector
- Lawrlwytho fersiwn Hawdd ei Ddeall: All In ar gyfer Pobl Anabl
Statws Cydymffurfiaeth:
Mae ein gwefan yn dilyn canllawiau WCAG 2.2 yn rhannol. Mae gwaith gwella ar y gweill, gan gynnwys:
- Arwydd clir bod dolenni’n agor mewn ffenestr newydd: WCAG 2.1.4 Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun) (Lefel A) a WCAG 3.2.5 Newid ar Gais (Lefel AAA)
- Darllenwyr sgrin a’r Gymraeg: WCAG 3.1.2 Iaith Rhannau (Lefel AA)
- Rheoli fideos Vimeo: WCAG 2.4.3 Trefn Ffocysu (Lefel A)
- Negeseuon gwall ar ffurflenni: WCAG 3.3.1 Enwi Gwall (Lefel A) a WCAG 3.3.3 Awgrymu Gwall (Lefel AA)
- Trefn ffocysu bysellfwrdd baneri cwcis: WCAG 2.4.3 Trefn Ffocysu (Lefel A)
Paratoi’r datganiad hwn:
Paratowyd y datganiad hwn yn wreiddiol ar 16 Ionawr 2025. Ar hyn o bryd rydym ar ganol archwiliad llawn a chaiff y datganiad hwn ei ddiweddaru o fewn y chwe mis nesaf.