All In yn cyhoeddi cyfraddau tanysgrifio cyn cyflwyno’n genedlaethol

    27 February 2025

Mae All In, y cynllun mynediad newydd ar gyfer creadigrwydd a diwylliant, wedi datgelu ei gyfraddau tanysgrifio ar gyfer sefydliadau yn y DU. Daw’r cyhoeddiad hwn, a oedd yn cael ei ddisgwyl yn eiddgar, wrth i’r cynllun baratoi i gyflwyno’n genedlaethol yn nes ymlaen yn 2025.

Mae’r gyfradd tanysgrifio, sy’n amrywio o £200 i £7,500 +TAW, yn seiliedig ar drosiant, i wneud yn siŵr ei bod yn dal yn fforddiadwy i sefydliadau creadigol a diwylliannol o bob lliw a llun. Bydd dau becyn ar gael nes ymlaen eleni: All In Essentials ac All In Plus, y ddau wedi’u teilwra i fodloni anghenion sefydliad.

  • All In Essentials
    Perffaith i sefydliadau sydd am wella eu sgiliau a’u gwybodaeth mynediad.
  • All In Plus
    Popeth sydd yn All In Essentials, yn ogystal â nodweddion digidol i symleiddio prosesau archebu, gan ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid anabl rannu eu gofynion mynediad a phrynu tocynnau.

Gan fod llawer eisoes wedi mynegi diddordeb yn y cynllun, nod y cyhoeddiad hwn yw rhoi manylion hanfodol i sefydliadau er mwyn iddynt allu ymgorffori All In yn eu cynlluniau ar gyfer 2025/2026.

Mae All In yn cael ei dreialu ar hyn o bryd gan sefydliadau dethol yn Leeds, cyn ei gyflwyno’n genedlaethol yn ail hanner 2025.

I gael rhagor o wybodaeth am y prisiau, ewch i dudalen tanysgrifio All In.

“Mae ein strwythur prisio mewn haenau yn golygu bod modd i sefydliadau o bob lliw a llun wella eu hygyrchedd. Mae llawer o sefydliadau eisoes wedi mynegi eu diddordeb yn All In, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd rhyddhau ein prisiau’n gynnar yn golygu bod y sector yn gallu paratoi cyn i ni gyflwyno’r cynllun yn genedlaethol nes ymlaen eleni. Mae’r agwedd deg a thryloyw hon at danysgrifio yn golygu y bydd All In yn dal am ddim i bobl anabl.”

Dywedodd Andrew Miller MBE, Pencampwr Hygyrchedd y Celfyddydau yn y DU
Back to Top