All In yn cychwyn rhaglen beilot yn Leeds

    12 December 2024

Rydyn ni’n gyffrous o gael cyhoeddi bod All In wedi lansio ei raglen beilot yn Leeds. Leeds Heritage Theatres, Leeds Museums and Galleries, Leeds Playhouse, ac Opera North yw’r sefydliadau cyntaf i brofi’r cynllun mynediad newydd ar gyfer creadigrwydd a diwylliant yn y DU ac Iwerddon.

Mae’r pedwar sefydliad yn cynrychioli ystod amrywiol o gelfyddydau ar draws y theatr, amgueddfeydd, treftadaeth, opera a chelf gan ganiatáu i’r cynllun gael ei brofi ar draws ystod o wahanol leoliadau ac allbynnau creadigol.

Disgwylir i’r peilot redeg am wyth mis hyd at haf 2025 a bydd yn gynllun cydweithredol a hyblyg o ran y sefydliadau sy’n cymryd rhan. Bydd yn cynnig cipolwg hollbwysig fel y gellir gwneud datblygiadau pellach cyn iddo gael ei gyflwyno ar draws y sector creadigol a diwylliannol.

Yn y cam arwyddocaol hwn o’r prosiect, bydd All In yn dadansoddi, yn myfyrio ac yn ymateb i nodweddion allweddol y cynllun gan gynnwys:

  • Ansawdd safonau hygyrchedd ar gyfer lleoliadau creadigol a diwylliannol, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig, cyfathrebu digidol, gwasanaethau cwsmer a chomisiynau, digwyddiadau a rhaglenni.
  • Datblygu cymorth a sgiliau i helpu staff i roi’r safonau hyn ar waith.
  • System ddigidol sy’n caniatáu i ofynion mynediad gael eu rhannu’n esmwyth ac yn ddiogel wrth archebu tocynnau neu fynychu digwyddiadau.
  • Rhestrau i helpu pobl i ddod o hyd i brofiadau diwylliannol a chreadigol sy’n bodloni eu hanghenion mynediad.

Wedi’i datblygu gan bobl anabl ar gyfer pobl anabl, mae All In wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau i greadigrwydd a diwylliant. Mae’r rhaglen beilot yn garreg filltir arwyddocaol yn y daith hon a bydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut gall y cynllun helpu ein sector i groesawu mwy o bobl anabl drwy eu drysau.

Bydd All In yn cyhoeddi’r gyfradd danysgrifio flynyddol ym mis Ionawr, cyn ei chyflwyno ledled y DU ac Iwerddon yn ystod ail hanner 2025.

Dywedodd Darren Henley, Prif Weithredwr, Arts Council England; Maureen Kennelly, Cyfarwyddwr, Arts Council Ireland; Roisín McDonough, Prif Weithredwr, Arts Council of Northern Ireland; Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru; ac Iain Munro, Prif Weithredwr, Creative Scotland: “Mae’n wych cyrraedd y pwynt hwn ar ôl cymaint o waith datblygu, a’i brofi yn y byd go iawn yn Leeds a Gorllewin Swydd Efrog. Rydyn ni wedi ein calonogi gan frwdfrydedd Leeds Heritage Theatres, Leeds Museums and Galleries, Leeds Playhouse ac Opera North ac wedi ein cyffroi gan eu hangerdd i gymryd rhan ac i wneud newidiadau o fewn eu sefydliadau. Rydyn ni un cam yn nes at newid profiadau diwylliannol ar gyfer ymwelwyr anabl yn y DU ac Iwerddon, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno’r cynllun yn 2025.”

Dywedodd Vicky Cheetham, Prif Swyddog Gweithredol, Leeds Heritage Theatres: “Mae Leeds Heritage Theatres yn ymdrechu’n barhaus i gynnig amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bawb fwynhau perfformiadau a ffilmiau yn ein lleoliadau. Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn cymryd rhan yn All In gan ein bod am ddileu cymaint o rwystrau ag y gallwn i fynychu digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol. Mae gennym ddiddordeb mewn dysgu wrth ein cyfoedion ac rydyn ni’n gyffrous o fod yn gweithio gydag ACE a chydweithwyr mewn sefydliadau ar draws y ddinas.”

Dywedodd Lizzy Wilson, Pennaeth Datblygu Cynulleidfaoedd Leeds Museums & Galleries: “Mae Leeds Museums & Galleries yn falch iawn o fod yn cymryd rhan yn y prosiect cenedlaethol arwyddocaol hwn. Mae cynulleidfaoedd wrth wraidd yr hyn a wnawn ar draws ein wyth lleoliad, ac mae’n hynod o bwysig ein bod yn eu gwneud yn hygyrch ac yn agored i bawb. Rydyn ni’n edrych ymlaen at roi newid go iawn ar waith o ran siwrnai ein cwsmeriaid ar-lein a phrofiadau personol. Mae cael gwybodaeth ac arbenigedd grŵp y prosiect hwn yn gyffrous iawn ac edrychwn ymlaen at ddechrau arni.”

Dywedodd Shawab Iqbal, Cyd-Brif Weithredwr, Leeds Playhouse: “Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn gweithio gydag Arts Council England i ddatblygu cynllun mynediad All In ar gyfer y celfyddydau fel lleoliad peilot. Rydyn ni’n croesawu ffyrdd y gallwn fel diwydiant gydweithio i wella’r profiad ar gyfer pobl Fyddar, anabl a niwrowahanol wrth fynychu digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn y DU. Mae’n hanfodol i ni, fel sefydliad celfyddydol, busnes ac elusen, ein bod yn ymdrechu i ddatblygu ffyrdd o wella profiadau ein cynulleidfaoedd yma yn y Playhouse drwy’r amser, gan sicrhau bod y theatr yn hygyrch i bawb.”

Dywedodd Emily Simpson, Cyfarwyddwr Cynulleidfaoedd, Opera North: “Mae Opera North yn falch iawn o fod yn rhan o raglen beilot All In wrth i ni geisio sicrhau bod pawb sy’n mynychu ein perfformiadau yn cael y profiad gorau posib – o’r archebu hyd at yr ymweliad ei hun.

“Rydyn ni’n credu’n gryf fod y celfyddydau i bawb, a dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno mwy o berfformiadau yn ystod y dydd (matinees), isdeitlau Saesneg ym mhob opera, perfformiadau ymlacio gyda phobl y mae’n well ganddyn nhw amgylchedd theatr llai ffurfiol, a dehongli arwyddion, sain ddisgrifio a theithiau cyffwrdd ar ddyddiadau penodol. Drwy gymryd rhan yn y rhaglen beilot hon, edrychwn ymlaen at gydweithio â sefydliadau eraill, gan rannu data a gwybodaeth i wella’r arlwy hwn ymhellach ac i sicrhau bod diwylliant yn wirioneddol agored a chroesawgar i bawb.”

Dywedodd Andrew Miller MBE, Hyrwyddwr Mynediad i’r Celfyddydau y DU ar gyfer All In: “Mae’r rhaglen beilot yn nodi carreg filltir hollbwysig yn natblygiad All In. Erbyn hyn, rydyn ni’n cael rhoi canfyddiadau ein holl waith ymchwil helaeth ar waith, mewnbwn ein grwpiau cynghori, a gwaith parhaus ein cyflenwyr. Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad Leeds Heritage Theatres, Leeds Museums and Galleries, Leeds Playhouse ac Opera North i ddileu rhwystrau i gynulleidfaoedd anabl drwy dreialu a phrofi All In gyda ni. Bydd y sefydliadau hyn yn dod â chyfoeth o wybodaeth ac adborth gwerthfawr, ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw yn ystod y misoedd nesaf.”

Dywedodd Gweinidog Celfyddydau’r DU, Syr Chris Bryant: “Ein cenhadaeth yw gwneud yn siŵr bod y celfyddydau a diwylliant i bawb a bydd cynlluniau fel All In, yn rhan annatod o gyflawni hyn.

“Rwy’n cymeradwyo gwaith cynghorau celfyddydau’r DU ac Iwerddon, a’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn Leeds a Gorllewin Swydd Efrog i gael gwared ar rwystrau i bobl anabl. Rwy’n edrych ymlaen at weld canfyddiadau’r rhaglen beilot yn cael eu defnyddio i helpu pobl i gael mynediad at gelfyddydau a diwylliant o ansawdd uchel.”

Back to Top