All In yn croesawu Cyngor Celfyddydau Iwerddon fel partner sefydlu
22 October 2024
Byddwn ni yn All In, y cynllun mynediad sydd ar y gweill ar gyfer creadigrwydd a diwylliant, yn agor ein drysau i 1.1 miliwn* yn rhagor o bobl anabl yn Iwerddon. Mae Cyngor Celfyddydau Iwerddon yn ymuno fel un o bartneriaid sefydlu All In, sef cynllun sydd wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau a gwella hygyrchedd ar gyfer pobl anabl, niwroamrywiol a B/byddar.
Drwy ddileu rhwystrau a ffiniau, mae All In yn gobeithio rhoi cyfleoedd i bobl anabl brofi creadigrwydd a diwylliant yn y DU ac Iwerddon ac mae’n nodi’r cam cyntaf tuag at ehangu’r cynllun sydd ar y gweill yn rhyngwladol.
Bydd Cyngor Celfyddydau Iwerddon yn cyfrannu €225,000 mewn cyfalaf tuag at ddatblygu’r cynllun yn 2025, gan adeiladu ar y buddsoddiad presennol gan gynghorau celfyddydau’r DU ac asiantaethau datblygu’r celfyddydau.
Bydd All In yn cyflwyno safonau hygyrchedd cyntaf y DU ac Iwerddon ar gyfer creadigrwydd a diwylliant, law yn llaw â darparu cymorth a datblygu sgiliau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl anabl rannu gofynion mynediad â lleoliadau a threfnwyr digwyddiadau drwy system ddigidol ddiogel. Bydd y nodweddion hyn yn cael eu rhoi ar brawf wrth i All In baratoi i ddechrau ar ei gyfnod peilot, a gynhelir yn nes ymlaen eleni, cyn iddo gael ei gyflwyno’n ehangach yn ystod 2025/2026.
Dywedodd Andrew Miller, Hyrwyddwr Hygyrchedd y Celfyddydau yn y DU: “Mae All In yn falch iawn o groesawu Cyngor Celfyddydau Iwerddon fel un o’r partneriaid sefydlu, ochr yn ochr â’r asiantaethau datblygu a’r pedwar cyngor celfyddydau yn y DU. Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ar gyfer pobl anabl, niwroamrywiol a B/byddar, ble bynnag y bônt, a’r cyhoeddiad hwn yw’r cam cyntaf yn ein taith ryngwladol gyffrous. Drwy ein partneriaeth ag Iwerddon, byddwn yn elwa o brofiadau bywyd a phrofiadau diwylliannol ychwanegol yn ein grwpiau cynghori, gan wneud yn siŵr bod pobl anabl o Iwerddon yn siapio twf cynllun a fydd yn croesawu pawb.”
Dywedodd Maureen Kennelly, Cyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau Iwerddon: “Mae All In yn fenter unigryw sy’n cael ei harwain gan bobl anabl, a fydd yn chwyldroi hygyrchedd yn y celfyddydau. Rydyn ni’n falch iawn bod y Cyngor Celfyddydau bellach yn bartner sefydlu, a gyda’n gilydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pawb, beth bynnag fo’u hanghenion mynediad, yn gallu llwyr fwynhau’r profiadau diwylliannol cyfoethog sydd gan y DU ac Iwerddon i’w cynnig.”
Dywedodd Pádraig Naughton, Cyfarwyddwr Gweithredol Arts & Disability Ireland: “Byddai’n wirioneddol drawsnewidiol i gynulleidfaoedd Gwyddelig ag anableddau pe bai modd gwireddu uchelgais y cynllun mynediad All In i efelychu yn Iwerddon yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni yng Nghymru. Bydd yn arwain at leihau rhwystrau, gan hyrwyddo profiadau cynhwysol, yn ogystal â galluogi cynulleidfaoedd Gwyddelig sydd ag anableddau i fanteisio ar ymgysylltiad di-dor a hygyrch mewn lleoliadau ar draws yr ynysoedd hyn, boed hynny ar ynys Iwerddon neu yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban”.
*Pobl sydd ag o leiaf un cyflwr neu anhawster hirdymor i unrhyw raddau. Iechyd, Anabledd, Gofalu a Gwirfoddoli, Cyfrifiad 2022, Y Swyddfa Ystadegau Ganolog, Llywodraeth Iwerddon.