All In yn datgelu nodweddion newydd gyda chyfrifon blasu am ddim

    4 September 2025

    List of categories for this post

  • Newyddion

Gall sefydliadau yn Lloegr nawr gael rhagolwg unigryw o nodweddion arloesol All In drwy gofrestru ar gyfer Cyfrif Blasu All In . Mae’r cipolwg cyntaf hwn ar All In, y cynllun mynediad newydd ar gyfer creadigrwydd a diwylliant, yn cynnig cyfle i sefydliadau archwilio rhai o’r offer pwerus a fydd ar gael cyn eu cyflwyno.

Bydd Cyfrif Blasu yn rhoi golwg ymarferol i sefydliadau ar ddwy nodwedd allweddol:

  • Proffiliau Mynediad
    Gall sefydliadau greu proffil mynediad trwy broses gam wrth gam i adolygu’r darpariaethau mynediad sydd eisoes ar waith. Mae hwn yn gyfle i ddeall yn well y darpariaethau mynediad presennol a nodi ble i wneud gwelliannau.
  • Safonau Hygyrchedd
    Gall sefydliadau edrych ar enghraifft o safonau hygyrchedd cyntaf y DU ac Iwerddon ar gyfer creadigrwydd a diwylliant. Nod y canllawiau hyn yw sicrhau eglurder a chysondeb mewn meysydd gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig, cyfathrebu digidol, profiadau creadigol a diwylliannol, a gwasanaeth cwsmeriaid.

Daw’r rhagolwg am ddim hwn cyn tanysgrifiadau llawn; All In Essentials ac All In Plus, a fydd ar gael yn ddiweddarach eleni. Cyhoeddwyd y cyfraddau tanysgrifio ar gyfer y DU ym mis Chwefror 2025 .

Mae All In ar fin trawsnewid hygyrchedd a chynhwysiant yn y sector pan fydd yn dechrau cyflwyno’r cynllun ar ddiwedd 2025. Mae’r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn natblygiad All In, gyda miloedd o sefydliadau eisoes wedi mynegi eu diddordeb.

Gall sefydliadau sydd wedi’u lleoli mewn mannau eraill yn y DU ac Iwerddon barhau i fynegi eu diddordeb a nhw fydd y cyntaf i wybod pryd y bydd Cyfrifon Blasu All In ar gael yn eu gwlad.

Am ragor o wybodaeth am y rhagolwg am ddim hwn, ewch i’r dudalen Cyfrifon Blasu All In .

Back to Top