All In yn penodi elusen anableddau Attitude is Everything i greu safonau hygyrchedd cyntaf y DU ym maes creadigrwydd a diwylliant

    9 September 2024

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Attitude is Everything yn llunio safonau hygyrchedd cyntaf y DU ym maes creadigrwydd a diwylliant. Mae’n garreg filltir bwysig arall ar gyfer ein cynllun mynediad sydd ar y gweill ledled y DU. Cynllun yw hwn sydd wedi ymrwymo i wella profiad pobl B/byddar, pobl anabl a phobl niwroamrywiol mewn theatrau, orielau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a mwy.

Nod y safonau yw cysoni’r enghreifftiau niferus o arferion da o ran mynediad ledled y DU, er mwyn creu profiad cyson o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd anabl.

Dim ond un elfen yw’r safonau o gynnig tanysgrifio ehangach All In. Maent hefyd yn addysgu sefydliadau sut i asesu’n hyderus eu darpariaethau mynediad eu hunain a chanolbwyntio ar eu datblygiadau yn y dyfodol.

Mae Attitude is Everything yn adnabyddus am ei arbenigedd mewn hyrwyddo safonau mynediad mewn mannau cerddoriaeth a digwyddiadau byw. Ers 2000, mae wedi gweithio mewn partneriaeth â dros 200 o wyliau a lleoliadau i’w cefnogi i fod yn fwy hygyrch. Mae hyn yn cynnwys cyflawni Siarter Mynediad Digwyddiadau Byw yr elusen sy’n cael ei harwain gan bobl anabl ac sydd wedi’i chymeradwyo gan lywodraeth y DU.

Bydd eu gwaith gydag All In yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol, gan gynnwys:

  • Gwella’r amgylchedd adeiledig o fewn lleoliadau ac yn y cyffiniau, gan gynnwys cael gwared ar rwystrau ffisegol a darparu gwell mynediad
  • Sicrhau bod y cyfathrebu digidol â chynulleidfaoedd anabl yn fwy hygyrch, defnyddiol a chynhwysol
  • Gweithio gydag adrannau gwasanaethau cwsmeriaid fel bod lleoliadau a digwyddiadau yn cynnig croeso cynnes i bawb
  • Cyflwyno elfennau mynediad mewn comisiynau, digwyddiadau a rhaglenni adeg y cyfnod creu syniadau, cyllidebu a datblygu

Bydd Accessible by Design yn gweithio gydag Attitude is Everything i gefnogi’r gwaith o greu safonau cyfathrebu digidol i sicrhau bod profiadau digidol yn fwy hygyrch i bawb.

Cawsant eu datblygu mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Creative Scotland a bydd All In yn eu treialu yn nhymor yr hydref 2024 cyn eu cyflwyno’n genedlaethol yn 2025.

Dywedodd Andrew Miller MBE, Pencampwr Hygyrchedd y Celfyddydau yn y DU: “Drwy ein safonau, rydyn ni’n anelu at sicrhau cysondeb o ran ansawdd mynediad a gwasanaeth i gwsmeriaid a fydd, yn fy marn i, yn newid byd i gynulleidfaoedd anabl a’r sector diwylliannol.”

Fe wnaeth Celia Makin-Bell, Rheolwr Gyfarwyddwr Attitude is Everything, ddisgrifio All In fel “prosiect hollol arloesol i gefnogi’r sector creadigol a diwylliannol i ddarparu profiadau hygyrch y gall cwsmeriaid anabl ymddiried ynddynt a’u mwynhau heb fod eu hanabledd yn rhwystr”.

Back to Top