All In ac Arts Council England wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Disability Smart 2025
20 March 2025
Rydyn ni’n falch iawn o rannu bod All In and Arts Council England wedi cyrraedd rownd derfynol y Wobr Gaffael yng Ngwobrau Disability Smart 2025!
Mae Gwobrau Disability Smart, sy’n cael eu cynnal gan y Fforwm Anabledd Busnes, yn cydnabod unigolion, timau a busnesau sydd wedi gwella profiadau pobl anabl yn y gweithle neu fel defnyddwyr. Mae gan 1 o bob 4 person yn y DU anabledd ac amcangyfrifir bod pŵer gwario blynyddol pobl anabl yn y DU yn £274 biliwn.
Mae’r Wobr Gaffael yn cydnabod sefydliadau a thimau sydd wedi gwella cyfleoedd a phrofiadau bywyd i bobl anabl drwy gaffael cynhyrchion hygyrch a defnyddio cyflenwyr cynhwysol.

Graffeg sy’n datgan: ‘Fforwm Anabledd Busnes. Gwobrau Disability Smart 2025. Yn y rownd derfynol.’ Ar ben seren las a phorffor.
“Mae’n anrhydedd cyrraedd rownd derfynol y Wobr Gaffael yng Ngwobrau Disability Smart 2025. Drwy wella hygyrchedd a phrofiadau bywyd ym mhrosesau caffael Arts Council England, bydd All In yn fwy cynhwysol a hygyrch.”
Dywedodd Diane Lightfoot, Prif Swyddog Gweithredol y Fforwm Anabledd Busnes, “dim ond cynigion arloesol sydd wedi cael eu datblygu gan neu gyda phobl anabl, ac sy’n gallu dangos effaith go iawn sy’n cyrraedd y rownd derfynol.”
Llongyfarchiadau i bawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi enillwyr Gwobrau Disability Smart 2025 ar 29 Ebrill 2025.