All In yn lansio safonau hygyrchedd cyntaf y DU ac Iwerddon wrth i danysgrifiadau fynd yn fyw
- Newyddion
19 March 2026
List of categories for this post
Mae All In wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth lansio safonau hygyrchedd cyntaf y DU ac Iwerddon ar gyfer y sectorau diwylliannol a chreadigol, ac maen nhw nawr ar gael i sefydliadau ledled Lloegr.
Mae’r gyfres gynhwysfawr hon o ganllawiau yn rhan o All In Essentials, tanysgrifiad sy’n llawn nodweddion arloesol ar gyfer theatrau, amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, gwyliau a mwy. Mae’r gyfres wedi’i dylunio i godi hyder, i wella hygyrchedd, ac i gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl fyddar, pobl anabl a phobl niwrowahanol.
Mae’r Safonau Hygyrchedd, sydd wedi’u datblygu gyda Attitude is Everything, yn darparu canllawiau clir ac ymarferol i gefnogi newidiadau cyflym a gwelliannau tymor hir. Maent yn cynnwys Cyfathrebu Digidol, Profiadau Creadigol a Diwylliannol, Gwasanaeth Cwsmeriaid, yr Amgylchedd Adeiledig, ac yn cwmpasu popeth, gan gynnwys llefydd parcio Bathodyn Glas, llinellau gweld yr awditoriwm, rhybuddion ynglŷn â chynnwys ac amgylcheddau ymgolli.
Mae prif nodweddion All In yn cynnwys:
- Y gyfres lawn o Safonau Hygyrchedd
- Arweiniad un i un gan arbenigwyr mynediad
- Adnoddau unigryw i fagu hyder a meithrin gwybodaeth
- Offer i helpu eich sefydliad i arddangos eu darpariaethau o ran mynediad
- Rhestrau i helpu pobl anabl i ddod o hyd i’ch lleoliadau a’ch digwyddiadau
Dywedodd Andrew Miller MBE, Pencampwr Hygyrchedd y Celfyddydau yn y DU dros All In: “Mae rhyddhau Essentials yn foment hollbwysig i All In, ac yn ein symud o’r cam datblygu i’r cam cyflawni. Mae’n gyffroes iawn, ac rwyf i wedi treulio llawer o’r degawd diweddaf yn eirioli dros y foment hon.
Mae’r Safonau Hygyrchedd yn adnodd newydd trawsnewidiol ar gyfer y sector diwylliannol, ac yn darparu llwybr i ddenu cynulleidfaoedd anabl ac i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd ein Safonau yn cael gwared ar y rhwystrau sydd yn atal pobl anabl rhag cymryd rhan ym myd celfyddydau a diwylliant, yn Lloegr i ddechrau ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn ddiweddarach eleni.
Rwy’n credu’n gryf y bydd hyn yn darparu mynediad ar y lefel nesaf.
Croeso i All In.”
Mae’r garreg filltir hon yn adeiladu ar gynllun peilot llwyddiannus gyda Theatrau Treftadaeth Leeds, Amgueddfeydd ac Orielau Leeds, Leeds Playhouse ac Opera North, ac mae eu sylwadau wedi ein helpu i lunio cynllun sydd yn cadw’r sector, a phobl anabl, mewn cof.
Dywedodd Alice Dowek, Arbenigwr Mynediad Opera North: “Mae’r Safonau Hygyrchedd wedi rhoi canllawiau clir i mi o ran beth ddylai ein sefydliad anelu tuag ato, ac maent wedi gwella fy nealltwriaeth o anghenion ein cynulleidfaoedd amrywiol. Mae bod yn rhan o’r cynllun peilot hwn wedi cadarnhau nod Opera North, sef sicrhau ein bod yn rhoi sylw i faterion mynediad, ac rydym ni’n falch iawn ein bod wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y cynllun hyd yn hyn.”
Mae All In Essentials ar gael nawr, ac mae’r gyfradd tanysgrifio yn amrywio rhwng £200 a £5,500 + TAW. Mae’r prisiau’n seiliedig ar drosiant i sicrhau ei fod yn gyraeddadwy i sefydliadau bach a mawr.
Bydd sefydliadau sydd â system archebu tocynnau yn gallu ychwanegu rhagor o nodweddion pan fydd All In Plus yn mynd yn fyw yn ystod haf 2026.
Gall y rhai sy’n awyddus i gymryd rhan fanteisio ar ein Cynnig Cynnar: tanysgrifio i All In Plus am bris All In Essentials a manteisio ar holl nodweddion ychwanegol Plus pan fyddan nhw ar gael, heb dalu dim yn ychwanegol. Bydd y cynnig hwn ar gael tan 30 Ebrill 2026.
Bydd tanysgrifiadau yn cael eu cyflwyno i sefydliadau yng ngweddill y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod 2026 a dechrau 2027.