All In ar gyfer Pobl Anabl
Mae All In am i bawb deimlo bod croeso iddyn nhw. Dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda’r sector creadigol a diwylliannol i wella mynediad i bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol.
Dylech gael profiad gwych o’r eiliad y penderfynwch chi fynd allan i’r eiliad y cyrhaeddwch chi adref. Ddylai gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau ddim bod yn llafurus nac yn drafferthus, boed hynny’n noson allan yn y sinema, mynd i gyngerdd, ymweld ag amgueddfa, neu wylio ffrwd fyw o’r theatr.

A visually impaired person in a grand theatre uses a monocular to see the stage.
Photos by Karol Wyszynski
Felly, sut rydyn ni am wneud hyn? Yn gyntaf, rydyn ni’n cyflwyno safonau hygyrchedd i helpu sefydliadau i ddeall sut beth yw gwell mynediad. Fe wnawn ni gefnogi sefydliadau i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyrraedd y safonau hynny.
Rydyn ni eisiau gwella’r broses archebu hefyd, i’w gwneud hi’n haws i chi rannu eich gofynion mynediad. Hynny yw, dim mwy o aros yn hir ar y ffôn, rhannu’ch manylion personol yn ddiddiwedd neu boeni fod rhywun efallai heb ddeall eich anghenion fel unigolyn.
Ac yn well na dim, bydd All In yn hollol rhad ac am ddim i bobl anabl.
Fel tîm sy’n cael ei arwain gan bobl anabl, rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bwysig gwneud hyn yn iawn. Rydyn ni’n cymryd ein hamser i brofi ein syniadau a siarad â phobl anabl eraill i gael gwybod beth yn union sydd ei angen ar ein cymuned i sicrhau llwyddiant All In.
Os oes gennych chi gerdyn Hynt yng Nghymru, fe wnawn ni rannu mwy o wybodaeth cyn bo hir am sut y bydd Hynt ac All In yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd Ar hyn o bryd, fydd dim byd yn newid i leoliadau a defnyddwyr Hynt.
Treialu All In ydyn ni ar hyn o bryd er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i bawb. Mae’n bwysig inni allu rhoi profiad gwych i chi pan agorwn ni ein drysau yn ail hanner 2025.
Fe fydden ni wrth ein bodd yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi wrth inni fwrw ymlaen. I gael clywed ein newyddion wrth iddo ddigwydd, llenwch y ffurflen isod ac fe wnawn ni gadw mewn cysylltiad.
Mynegwch eich diddordeb
Cyfle i gael yr wybodaeth, y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gan dîm All In.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn anfon yr wybodaeth gywir at y bobl iawn. Dewiswch pa fath o negeseuon e-bost yr hoffech eu derbyn gennym: