Croeso i bawb

Partneriaethau Strategol

Explore All In

Rydym yn falch iawn o weithio gyda chyrff masnach a chyrff aelodaeth sy’n rhannu ein hymrwymiad i wella hygyrchedd ar draws y sector creadigol a diwylliannol.
 
Mae ein Partneriaid Strategol yn helpu i gysylltu cynllun I Bawb/All In â chyrff ar draws y DU ac Iwerddon. Maen nhw’n cefnogi’r broses o fabwysiadu’r Safonau Hygyrchedd, ac yn cyfrannu at eu datblygiad parhaus nawr ac yn y dyfodol.

Cwrdd â’n Partneriaid Strategol

Association of Independent Museums

Sefydlwyd Association of Independent Museums (AIM) yn 1977, ac mae’n darparu rhwydwaith i amgueddfeydd helpu a chefnogi ei gilydd. Mae’n rhannu arferion da, ac yn galluogi amgueddfeydd annibynnol – y grŵp mwyaf o amgueddfeydd yn y DU – i siarad ag un llais. Mae’r amgueddfeydd hyn yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at lesiant a budd cymunedol, ac maen nhw’n rhan bwysig o economi twristiaeth y DU. Heddiw, mae AIM yn parhau i gefnogi a hyrwyddo gwaith bron i 1100 o aelodau ar hyd a lled y DU. Gan fod AIM yn cynnwys mudiadau treftadaeth bach ar lawr gwlad, mae ganddo statws unigryw yn y sector. Mae dwy ran o dair o’i aelodau yn y categori “amgueddfa fach”, sy’n denu llai nag 20,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Ymweld Association of Independent Museums

Future Arts Centres

Mae Future Arts Centres yn rhwydwaith cenedlaethol sy’n cynnwys dros 200 o ganolfannau celfyddydol, ac mae’n hyrwyddo’r rôl hanfodol y mae’r lleoedd creadigol hyn yn ei chwarae mewn cymunedau ar hyd a lled y DU. Rydym yn meithrin cysylltiadau rhwng arweinwyr canolfannau celfyddydol ac yn eu cefnogi drwy brosesau dysgu gan gymheiriaid, cydweithio, ymchwil ac eirioli, rhannu gwybodaeth, a dylanwadu ar bolisi i gryfhau’r sector. Rydym ni o’r farn bod canolfannau celfyddydol yn lleoedd diwylliannol a dinesig hanfodol, sy’n dod â phobl at ei gilydd drwy greadigrwydd, cefnogi cymunedau a sbarduno newid cymdeithasol cadarnhaol. Mae ein gwaith yn helpu i sicrhau bod canolfannau celfyddydau’n parhau’n gadarn, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy, heddiw ac i’r dyfodol.

Ymweld Future Arts Centres

OutdoorArtsUK

Mae OutdoorArtsUK yn gorff aelodaeth a strategol cenedlaethol sy’n ceisio dod â holl rannau amrywiol y sector celfyddydau awyr agored at ei gilydd. Mae OutdoorArtsUK yn dathlu gwaith, talent a llwyddiannau anhygoel yr unigolion, y cwmnïau a’r cyrff sy’n gweithio o fewn y gelfyddyd hon sy’n hynod hygyrch.

Ymweld OutdoorArtsUK

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Bartner Strategol?

Drwy weithio gyda’n gilydd, gall ein sector wella hygyrchedd ar draws y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth.

Fel Partner Strategol, gallwch wneud y canlynol:<br/>

  • Defnyddio’r Safonau Hygyrchedd i wella eich gwybodaeth a’ch arweinyddiaeth
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r Safonau’n barhaus
  • Eirioli dros arferion da o ran hygyrchedd a’u cefnogi
  • Cynnig gostyngiad o 10% i’ch aelodau ar danysgrifiadau I Bawb/All In