Croeso i bawb

Cwestiynau Cyffredin

Oes gennych chi gwestiwn? Efallai ein bod eisoes wedi ei ateb. Porwch drwy ein cwestiynau cyffredin isod.

Person â nam ar ei olwg mewn theatr fawr yn defnyddio ysbienddrych un-llygad i weld y llwyfan.

I bwy mae I Bawb/All In?

Mae I Bawb/All In wedi’i anelu at bobl fyddar, anabl a niwro-amrywiol, ac unrhyw un sydd ag anghenion hygyrchedd. Gallai hyn gynnwys unrhyw un sy’n chwilio am wybodaeth – cyn ymweld – am bethau fel mynediad heb risiau, toiledau hygyrch, isdeitlau, disgrifio sain, mannau tawel neu fathau eraill o gymorth.

Faint mae aelodaeth I Bawb/All In yn ei gostio?

Dim byd. Mae aelodaeth yn hollol rhad ac am ddim, ac nid oes cost i ddefnyddio eich aelodaeth mewn lleoliadau eraill sy’n cymryd rhan.

Sut ydw i’n dod yn aelod I Bawb/All In?

Ewch i ‘creu cyfrif’ i ddechrau. Ni ddylai gymryd mwy nag ychydig funudau i greu eich cyfrif I Bawb/All In a sefydlu eich proffil hygyrchedd. Unwaith y bydd gennych broffil hygyrchedd, gallwch rannu eich gofynion hygyrchedd gyda sefydliadau sy’n cymryd rhan drwy glicio botwm.

Beth yw proffil hygyrchedd?

Mae proffil hygyrchedd yn nodwedd o’ch aelodaeth I Bawb/All In. Gallwch ychwanegu gwybodaeth am eich gofynion hygyrchedd, megis anghenion sy’n ymwneud â symudedd, synhwyrau, cyfathrebu neu anghenion eraill. Mae’r wybodaeth hon yn helpu sefydliadau i ddeall pa gymorth ac addasiadau fydd yn gwella eich profiad.

Pwy sy’n gallu gweld fy mhroffil hygyrchedd?

Dim ond os byddwch yn dewis rhannu eich proffil hygyrchedd â sefydliadau y gallant weld eich gofynion hygyrchedd. Gallwch roi’r gorau i rannu ar unrhyw adeg. Os byddwch yn darparu gwybodaeth ategol, ni fydd sefydliadau yn gallu gweld y ddogfen, ond cânt wybod bod eich dogfennau wedi’u dilysu ar gyfer darpariaethau hygyrchedd penodol.

I’m a Hynt cardholder in Wales. How do I move over to All In?

Visit create an account to sign up for your free All In membership. You’ll need your Hynt membership number and the postcode associated with your card. It should only take a few minutes to set up your account.

If I’m already a member of Hynt, do I need to resubmit my supporting documents for companion tickets?

No, if you are already a member of Hynt, you don’t need to resubmit your supporting documents when moving over to All In.

Do I have to move over from Hynt to All In?

Yes, eventually, Hynt members will need to move across as Hynt evolves into All In. If you’ve already booked tickets with your Hynt membership, there is no change to your booking. As Hynt will gradually phase out in Wales, we recommend joining so you can continue enjoying the benefits of your membership, create a more detailed access profile, and explore new features All In has to offer.

Sut y gallaf rannu fy ngofynion hygyrchedd gyda lleoliad sy’n cymryd rhan?

Ewch i’ch dangosfwrdd aelod a chwiliwch am y lleoliad yr hoffech ymweld ag ef. Cliciwch ar ‘rhannu eich proffil’, a bydd eich proffil hygyrchedd yn cael ei rannu â’r lleoliad ar unwaith. Gallwch nawr brynu tocynnau drwy ddulliau archebu arferol y lleoliad – boed hynny drwy wefan y lleoliad, y swyddfa docynnau, neu dros y ffôn. Gallwch roi’r gorau i rannu eich proffil hygyrchedd â lleoliad ar unrhyw adeg.

A yw I Bawb/All In yn darparu cerdyn aelodaeth?

Na, mae I Bawb/All In yn gynllun hygyrchedd sy’n canolbwyntio ar y byd digidol, gyda phob aelod yn cael rhif adnabod unigryw. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod yn well gan rai pobl gael cerdyn wrth ymweld â lleoliadau; felly, rydyn ni’n edrych ar opsiynau i aelodau allu gofyn am un fel rhan o’u gofynion hygyrchedd.

Pam ddylwn i ymuno ag I Bawb/All In os ydw i eisoes yn defnyddio cynllun hygyrchedd arall?

Rydyn ni’n deall y gall ymuno â chynllun arall deimlo’n rhwystredig, yn enwedig os ydych eisoes wedi darparu gwybodaeth mewn man arall. Fodd bynnag, mae I Bawb/All In yn hollol rhad ac am ddim ac yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth hygyrchedd a chwilio am brofiadau newydd yn seiliedig ar eich gofynion hygyrchedd. Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru ac yna gallwch ddefnyddio’ch aelodaeth mewn lleoliadau eraill sy’n cymryd rhan am ddim.

A allaf i barhau i archebu tocynnau mewn lleoliad I Bawb/All In os nad ydw i’n dod yn aelod?

Gallwch. Mae ymuno ag I Bawb/All In yn ddewisol. Gallwch barhau i gysylltu â lleoliad, nodi eich gofynion hygyrchedd, ac archebu tocynnau yn uniongyrchol, p’un ai ydych yn aelod o I Bawb/All In ai peidio.

Fodd bynnag, byddwch yn colli allan ar nodweddion sydd wedi’u cynllunio i leihau gwaith gweinyddol ac ailadrodd pethau; er enghraifft, dim ond unwaith y bydd angen i chi ddarparu manylion am eich gofynion hygyrchedd, ac yna gallwch rannu’r wybodaeth honno gyda nifer o leoliadau sy’n cymryd rhan.

A oes rhaid i mi ddarparu tystiolaeth o’m hanabledd i ymuno ag I Bawb/All In?

Na. Nid yw I Bawb/All In yn asesu a yw rhywun yn ddigon anabl i ddod yn aelod. Gall unrhyw un gofrestru ar gyfer aelodaeth I Bawb/All In am ddim heb orfod darparu prawf o anabledd.

A oes angen i mi ddarparu tystiolaeth o’m hanabledd er mwyn archebu tocynnau?

Weithiau. Mae hyn oherwydd y gall rhai lleoliadau ofyn am wybodaeth ategol ar gyfer trefniadau penodol, megis tocynnau ar gyfer cydymaith neu gŵn cymorth. Y sefydliad sy’n penderfynu ar hyn, nid I Bawb/All In.

Os oes angen gwybodaeth ategol ar leoliad rydych am archebu tocynnau ganddo, gallwch uwchlwytho dogfennau yn ddiogel drwy eich proffil hygyrchedd.

Rydyn ni’n deall y gall fod yn rhwystredig cael eich gofyn i brofi eich anabledd. Dyna pam mae I Bawb/All In yn annog lleoliadau i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth o ran anabledd, pryd bynnag y bo modd. Rydym yn gweithio i ddarparu data i gefnogi dull sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth yn y dyfodol.

Pa fath o dystiolaeth sy’n cael ei derbyn gan I Bawb/All In?

Gallwch uwchlwytho un o’r canlynol:

– Cerdyn mynediad cyfredol (e.e. Nimbus, CEA, Hynt, ac ati)
– Llythyr yn dangos eich bod yn derbyn y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
– Bathodyn Glas dilys (delweddau o’r ddwy ochr)
– ‘Freedom Pass’ neu ‘Railcard’ (cerdyn gostyngiadau trên) i Bobl Anabl
– Llythyr gan feddyg teulu neu ymgynghorydd meddygol yn cadarnhau eich gofynion hygyrchedd
– Tystysgrif Nam ar y Golwg (CVI) neu brawf cyfatebol o nam synhwyraidd
– Dogfen yswiriant ddilys ar gyfer Anifail Gwasanaeth
– Llyfryn neu gerdyn adnabod ar gyfer Ci Cymorth

Pwy all weld y dogfennau rwy’n eu huwchlwytho?

Dim ond tîm Gwasanaethau Aelodau I Bawb/All In sy’n gallu gweld y wybodaeth hon. Ni fyddwn yn rhannu eich dogfennau â lleoliadau. Unwaith y bydd eich gwybodaeth wedi’i dilysu, byddwn yn dileu eich dogfennau o’r system yn ddiogel.

Ble gallaf ddefnyddio fy aelodaeth I Bawb/All In?

Gallwch ddefnyddio eich aelodaeth I Bawb/All In mewn unrhyw leoliad sy’n cymryd rhan yn Lloegr a Chymru. Mae I Bawb/All In/All In yn ehangu i’r Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn 2027, felly byddwch yn gallu defnyddio eich aelodaeth mewn hyd yn oed mwy o leoedd. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr lawn o leoliadau sy’n cymryd rhan, ynghyd â’u sioeau, arddangosfeydd a phrofiadau sydd ar ddod, yn ein rhestrau Lleoliadau a Digwyddiadau.

A allaf helpu rhywun arall i gofrestru?

Gallwch. Gall aelod o’r teulu, ffrind, gofalwr neu weithiwr cymorth helpu rhywun i greu a rheoli eu haelodaeth I Bawb/All In. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os yw’n well gan rywun gael cymorth i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, neu os ydyn nhw’n trefnu ymweliadau gyda’i gilydd yn rheolaidd.

Bydd mwy o nodweddion ar gael yn fuan i reoli cyfrif rhywun ar eu rhan.