Croeso i bawb

Gwybodaeth am All In

Archwiliwch All In

All In ydyn ni.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella profiadau creadigol a diwylliannol i bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol.

Trwy gydol ein datblygiad, mae All In wedi croesawu sgwrs rhwng pobl anabl a’r sector creadigol a diwylliannol. Gyda’n gilydd rydyn ni eisiau cael gwell dealltwriaeth o broblemau mynediad, dileu rhwystrau, a chroesawu mwy o bobl anabl i theatrau, amgueddfeydd, orielau, gwyliau, llyfrgelloedd a mwy.

Fel tîm dan arweiniad pobl anabl, down â’n profiad byw i All In, yn ogystal â gwybodaeth am fynediad a chynhwysiant mewn diwydiant. Cawn arweiniad hefyd gan Grŵp Cynghori All In, sy’n cynnwys pobl anabl ag ystod o brofiad bywyd go iawn, a Grŵp Cynghori’r Sector, sydd wedi’i ffurfio o sefydliadau o bob lliw a llun ar draws y sector creadigol a diwylliannol.

Mae All In yn cael ei hyrwyddo gan Andrew Miller MBE, ymgynghorydd a sylwebydd diwylliannol sy’n cael ei gydnabod fel un o’r eiriolwyr mwyaf dylanwadol ar ran pobl anabl yn y Deyrnas Unedig.

Partneriaeth yw All In rhwng Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Creative Scotland. I gael gwybod mwy am ymrwymiad y cynghorau celfyddydau cenedlaethol a’r cyrff cyhoeddus dros y celfyddydau, creadigrwydd a diwylliant, ewch i dudalen Partneriaid All In.

Ein Partneriaid

Poster image for the video About All In - BSL Introduction to All In's development process

Hygyrchedd

Mae croeso i bawb ar ein gwefan. Rydyn ni am wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad at ein cynnwys.

Dysgwch fwy am hygyrchedd yn All In.
Back to Top