Croeso i bawb

Partneriaid All In

Archwiliwch All In

Partneriaeth yw All In rhwng Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Creative Scotland.

Rydyn ni’n adeiladu ar waith pwysig Hynt, y cynllun mynediad i’r celfyddydau a theatr yng Nghymru, sydd wedi bod yn ganolog i ddatblygiad All In. Bydd Hynt yn parhau i weithredu yng Nghymru, fel rhan o’r cynllun All In ehangach.

Cyngor Celfyddydau Lloegr

Cyngor Celfyddydau Lloegr yw’r asiantaeth datblygu cenedlaethol dros greadigrwydd a diwylliant yn Lloegr. Rydym wedi amlinellu ein gweledigaeth strategol yn ‘Let’s Create’ ein bod eisiau i Loegr erbyn 2030 fod yn wlad lle mae creadigrwydd pob un ohonom yn cael ei werthfawrogi ac yn cael cyfle i ffynnu a lle mae gan bawb ohonom fynediad at amrediad hynod o brofiadau diwylliannol o ansawdd uchel. Rhwng 2023 a 2026 byddwn yn buddsoddi dros £467 miliwn o arian cyhoeddus gan y Llywodraeth a rhyw £250 miliwn gan y Loteri Genedlaethol bob blwyddyn i helpu cefnogi’r sector a chyflawni’r weledigaeth hon.
 
Mae ein buddsoddiad yn All In yn ein helpu i gyflawni’r weledigaeth honno drwy gefnogi’r sector creadigol a diwylliannol i ddod yn fan lle mae croeso i bawb.

Ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Lloegr

Cyngor Celfyddydau Iwerddon

Cyngor Celfyddydau Iwerddon yw asiantaeth genedlaethol y llywodraeth ar gyfer ariannu, datblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yn Iwerddon. Ei rôl yw eirioli, cynghori, buddsoddi a gweithio mewn partneriaeth ag eraill, i feithrin amgylchedd celfyddydol bywiog wedi’i wreiddio yn y gymdeithas. Wedi’i sefydlu trwy Statud ym 1951, caiff yr Arts Council ei arwain gan yr Arts Act 2003 ac mae’n gorff arbenigol, annibynnol.
 
Cyngor Celfyddydau Iwerddon yn cydnabod bod gan y celfyddydau gyfraniad canolog ac arbennig i’w wneud i’n cymdeithas wrth iddi esblygu. Ar hyn o bryd rydyn ni’n canolbwyntio’n strategol ar gefnogi artistiaid, ymgysylltu â’r cyhoedd, buddsoddi strategol, cynllunio gofodol a demograffig, a datblygu capasiti. 

Ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Iwerddon
Arts Council of Northern Ireland

Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon

Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon yw’r sefydliad cyllido a datblygu swyddogol ar gyfer y celfyddydau yng Ngogledd Iwerddon, yn dosbarthu incwm gan ein prif noddwr, y Department for Communities, a gan y Loteri Genedlaethol.  Rydym wedi ymrwymo i gynyddu mynediad a chyfranogiad y cyhoedd i’r celfyddydau ac mae gennym ddyletswydd statudol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol allweddol a dangos effaith gadarnhaol fesuradwy ar fywydau trigolion Gogledd Iwerddon.

Ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff cyhoeddus swyddogol ar gyfer ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Rydyn ni’n rheoli ac yn buddsoddi arian cyhoeddus a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru, ac rydyn ni’n gyfrifol hefyd am ddosbarthu arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Fel sefydliad, mae gennym ymrwymiad parhaus i ehangu ymgysylltiad ac i ddileu rhwystrau rhag cael mynediad neu gymryd rhan yn y celfyddydau, a chred gadarn yng ngallu’r celfyddydau i wella ansawdd bywyd pobl a chyfrannu at les diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru
Arts Council of Wales

Creative Scotland

Creative Scotland yw’r corff cyhoeddus sy’n cefnogi diwylliant a chreadigrwydd ar draws pob rhan o’r Alban, gan ddosbarthu cyllid a ddarperir gan Lywodraeth yr Alban a’r Loteri Genedlaethol.
 
Un o’n blaenoriaethau strategol yw Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac rydym eisiau i ragor o bobl o bob rhan o gymdeithas allu cael mynediad at a chymryd rhan yn yr ystod ehangaf o weithgareddau artistig a chreadigol. Mae All In yn eithriadol o bwysig o ran hwyluso mynediad i gynulleidfaoedd a sbarduno gwelliannau ar draws y sectorau creadigol a diwylliannol.

Ewch i wefan Creative Scotland
Back to Top