Telerau ac Amodau
Mae All In yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr fel y partner arweiniol, sy’n elusen gofrestredig (rhif 1036733). Mae unrhyw sôn am All In yn y termau hyn hefyd yn cyfeirio at Gyngor Celfyddydau Lloegr, sef un o enwau masnachu Cyngor Celfyddydau Lloegr.
1. Defnyddio Gwefan All In
1.1
Drwy ddefnyddio a/neu ymweld â gwefan All In rydych chi’n nodi eich bod yn cytuno â’r telerau ac amodau hyn.
1.2
Gall All In ar ei ddisgresiwn llwyr, addasu neu ddiwygio’r telerau ac amodau hyn ac unrhyw bolisïau cysylltiedig ar unrhyw adeg, ac rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y cyfryw addasiadau neu ddiwygiadau. Ni ystyrir bod unrhyw beth yn y cytundeb hwn yn rhoi unrhyw hawliau neu fuddion trydydd parti.
2. Dolenni
2.1
Gall gwefan All In gynnwys dolenni at wefannau eraill.
Nid yw All In yn gyfrifol am gynnwys, ac nid yw ychwaith yn gwarantu cywirdeb na dibynadwyedd unrhyw wefan gysylltiedig.
Nid yw All In, i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, yn derbyn dim atebolrwydd a allai ddeillio o’ch defnydd neu’ch dibyniaeth ar y wybodaeth neu’r cynnwys sydd yn y gwefannau cysylltiedig.
3. Hawlfraint
Mae hawlfraint cynnwys y wefan hon yn eiddo i All In neu ei drwyddedwyr. Mae’r data a’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan yn eiddo i All In ac oni nodir yn wahanol, mae hyn yn cael ei weithredu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.
Cysylltwch â ni os hoffech ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau sydd ar y wefan hon.
4. Diogelu Data
4.1 Cyffredinol
Mae All In wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd.
Mae’r testun isod yn disgrifio’r ffyrdd rydyn ni’n casglu gwybodaeth gennych chi pan fyddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth, ac ar gyfer beth y gallwn ni ei ddefnyddio. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r telerau ac amodau defnyddio eraill a’r polisi diogelu data.
Mae All In yn rhan o Gyngor Celfyddydau Lloegr, sy’n elusen gofrestredig (rhif 1036733). Mae prif swyddfa Cyngor Celfyddydau Lloegr wedi’i lleoli yn 49 Lever St Manceinion, M1 1FN. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y polisi hwn, gallwch ysgrifennu atom yn ein prif swyddfa neu ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.
4.2 Pa ddata ydyn ni’n ei gasglu gennych?
Rydyn ni’n casglu data gennych chi (‘data defnyddwyr’) pan fyddwch yn cofrestru i gael diweddariadau gennym ni. Weithiau gall y data hwn gynnwys data personol am unigolion, data sy’n ddarostyngedig i gyfreithiau diogelu data’r DU.
Mae’r telerau ac amodau hyn a’n polisi diogelu data yn disgrifio dull gweithredu All In o gyflawni ei rwymedigaethau o dan y cyfreithiau diogelu data hynny.
4.3 Sut rydym yn defnyddio data defnyddwyr
Byddwn yn defnyddio data defnyddwyr a gasglwn gennych yn unol â’r canllawiau canlynol yn unig:
- i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
- i ddarparu a gwella ein gwasanaeth i chi, i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’n telerau ac amodau defnyddio.
- i anfon gwybodaeth atoch am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau eraill os ydych yn dymuno. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd All In, Cyngor Celfyddydau Lloegr, neu drydydd partïon sy’n gweithredu ar ran Cyngor Celfyddydau Lloegr, yn dymuno anfon gwybodaeth atoch am wasanaethau eraill rydym yn eu cynnig ac y credwn y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt. Efallai y byddwn yn defnyddio data defnyddwyr at y diben hwn. Os ydych chi’n penderfynu nawr, neu ar unrhyw adeg arall, nad ydych chi’n dymuno cael y wybodaeth hon, rhowch wybod i ni drwy ein ffurflen gysylltu.
4.4 Dadansoddeg
Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr wedi rhoi Google Analytics ar waith, gan gynnwys Adrodd am ddiddordebau a demograffeg. Bydd unrhyw adroddiadau demograffig a gynhyrchir gan ddefnyddio’r data hwn yn cael eu defnyddio i gael gwell dealltwriaeth o draffig ein gwefan ac i wella profiad defnyddwyr.
4.5 Yn fewnol o fewn Cyngor Celfyddydau Lloegr
Gall Cyngor Celfyddydau Lloegr ryddhau data defnyddwyr i rannau eraill o’r sefydliad, naill ai ar gyfer cyflawni gwasanaethau Cyngor Celfyddydau Lloegr, neu i’w galluogi i roi gwybodaeth i chi am gynhyrchion neu wasanaethau y maent yn credu y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt.
5. Ymwadiad
5.1
Mae All In wedi ceisio sicrhau bod y cynnwys a’r wybodaeth y mae’n eu darparu ar y wefan hon yn gywir adeg eu postio. Yn anffodus, ni all warantu cywirdeb y cynnwys na’r wybodaeth ar ei dudalennau ac mae unrhyw un sy’n defnyddio’r wybodaeth sydd ynddynt yn gwneud hynny’n gyfan gwbl ar ei risg ei hun. Yn y wefan hon, mae gennym adran o’r enw Cyfeiriadur Sefydliadau Cymorth sy’n cynnwys dolenni at gyngor trydydd parti a allai fod yn ddefnyddiol i’n defnyddwyr. Nid ydym yn gyfrifol am y cyngor a roddir gan y sefydliadau trydydd parti.
5.2
Nid barn a safbwyntiau All In yw’r farn a’r safbwyntiau a fynegir yn y cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ar y wefan hon ac nid yw All In yn cadarnhau bod y cynnwys yn gywir nac yn gyflawn. Ni ddylech ddibynnu ar y cynnwys.
5.3
Wrth ddefnyddio’r wefan, fe allech gael mynediad at wefannau eraill drwy ddefnyddio dolenni neu hyperdestun. Rydych chi’n cytuno nad yw All In yn gyfrifol am gynnwys na gweithrediad y cyfryw wefannau trydydd parti ac na fydd All In yn atebol i chi nac unrhyw unigolyn neu endid arall am ddefnyddio’r cyfryw wefannau trydydd parti.
5.4
Mae All In yn ymwrthod â phob atebolrwydd i chi sy’n codi oherwydd ichi ddefnyddio’r gwasanaeth.
6. Gwarchod rhag firysau
6.1
Er y cymerir gofal i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu, ni all All In dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw achosion o golli, difrodi neu o amharu ar eich data neu ar eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd pan fyddwch yn defnyddio deunydd a gafwyd oddi ar y wefan hon.
7. Postings
Rydych chi’n cytuno na fyddwch chi’n postio deunydd sy’n cynnwys deunydd sy’n niweidiol, yn fygythiol, yn ddifrïol, yn anweddus, yn aflednais, yn aflonyddu, yn ddifrïol, yn dramgwyddus (o ran hil, rhyw neu ethnigrwydd), deunydd sy’n hyrwyddo safbwynt gwleidyddol neu sy’n gwrthwynebu fel arall.
7.2
Ni chaniateir ichi bostio na throsglwyddo llythyrau cadwyn, cynlluniau pyramid na chynlluniau arian.
7.3
Ni chaniateir ichi ddefnyddio eich cyfrif e-bost i wneud y canlynol:
- dynwared rhywun arall; a/neu
- anfon ‘sbam’ drwy bostio negeseuon mynych a/neu niwsans.
7.4
Ni ddylai deunydd y byddwch yn ei bostio gynnwys dolenni i wefannau sy’n agor mwy nag un ffenestr nac i wefannau sy’n cynnwys deunydd a fyddai’n dod dan gymal 6.1 uchod.
7.5
Rydych yn cytuno na fyddwch yn postio cynnwys, y byddai ei arddangos yn torri hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti. Yn benodol, rydych yn honni ac yn gwarantu bod cynnwys eich post yn wreiddiol ac nad yw wedi cael ei gopïo oddi ar unrhyw drydydd parti.
7.6
Rydych yn cytuno na fyddwch yn postio i gynnig eitemau neu wasanaethau i’w gwerthu nac yn rhoi hysbysebion ar gyfer nwyddau, cynhyrchion neu wasanaethau trydydd partïon.
7.7
Os byddwch yn torri unrhyw un o’r darpariaethau a nodir yn y cymal hwn, gall All In eich atal rhag defnyddio’r gwasanaeth ar unwaith.
7.8
Ceidw All In yr hawl i beidio â chyhoeddi unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei bostio ar ei ddisgresiwn llwyr.
7.9
Rydych yn cydsynio i All In fonitro eich postiad cyn ei ddosbarthu.
7.10
Rydych chi’n cydsynio i All In olygu unrhyw bostiad mae’n ei dderbyn gennych chi dim ond er mwyn ei fformatio i’w wneud yn ddarllenadwy.
8. Cyfraith Lywodraethol
8.1
Bydd y telerau ac amodau defnyddio hyn a’ch defnydd chi o’r gwasanaethau yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr a bydd gan Lysoedd Lloegr awdurdodaeth lwyr mewn cysylltiad â’r holl faterion sy’n ymwneud â’r telerau ac amodau defnyddio hyn.