{"id":10187,"date":"2025-11-12T16:31:40","date_gmt":"2025-11-12T16:31:40","guid":{"rendered":"https:\/\/allin.online\/standard\/dulliau-adborth-cynhwysol\/"},"modified":"2026-10-19T22:17:54","modified_gmt":"2026-10-19T22:17:54","slug":"dulliau-adborth-cynhwysol","status":"publish","type":"standard","link":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/","title":{"rendered":"Dulliau Adborth Cynhwysol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-ace-standard-fixed-content flex content-content bg_white padding indent two-column\"><div class=\"content_wrapper\"><h3 id=\"page_sub_nav\" class=\"mobile_only\">5.02 Dulliau Adborth Cynhwysol<\/h3><select aria-labelledby=\"page_sub_nav\" class=\"mobile_only\" id=\"nav_select\"><option value=\"#overview\">Trosolwg<\/option><option value=\"#examples\">Enghraifft ymarferol<\/option><option value=\"#key_considerations\">Ystyriaethau allweddol<\/option><option value=\"#definitions_list\">Diffiniadau ac acronymau<\/option><option value=\"#learning_resources\">Adnoddau dysgu<\/option><option value=\"#linked_standards\">Safonau cysylltiedig<\/option><option value=\"#references\">Cyfeiriadau allanol<\/option><\/select><div class=\"action_links mobile_only\"><a href=\"https:\/\/form.jotform.com\/252393341563356?standard=Profiadau Creadigol a Diwylliannol 5.02 Dulliau Adborth Cynhwysol\" class=\"feedback_link button bg_secondary white\">Rhowch adborth i ni ar y Safon hon<\/a><a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/\" class=\"return_link\">Yn \u00f4l i Profiadau Creadigol a Diwylliannol<\/a><\/div>\n<div id=\"overview\" class=\"wp-block-ace-standard-overview standard-content\"><h3>Trosolwg<\/h3>\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n bwysig defnyddio proses adborth gynhwysol. Mae hyn yn eich helpu i asesu pa mor dda mae&#8217;ch sefydliad yn gweithio ac a yw eich prosiectau&#8217;n bodloni&#8217;ch nodau. Trwy gasglu adborth mewn gwahanol ffyrdd, gallwch glywed gan amrywiaeth ehangach o leisiau. Yna, gallwch ddefnyddio&#8217;r wybodaeth hon i lywio eich gwaith yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dylech gynnwys cyfleoedd i gael adborth ac adolygu ar gyfer eich lleoliad neu sefydliad yn rheolaidd. Gwnewch hyn ym mhob cam o&#8217;ch prosiectau creadigol. Mae&#8217;n eich helpu i aros yn ymatebol ac addasu yn \u00f4l yr angen. Mae&#8217;r arfer hwn hefyd yn eich annog i newid eich dull yn seiliedig ar yr hyn rydych chi&#8217;n ei ddysgu o brosiectau unigol. Mesurwch farn mynychwyr, cyfranogwyr, pobl greadigol, <span data-definition=\"gweithwyr-llawrydd\" data-definition-id=\"9857\" title=\"Gweithwyr llawrydd\" data-definition-name=\"Freelancers\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span>, gwirfoddolwyr, a&#8217;ch staff. Mae hefyd yn ddefnyddiol casglu persbectifau allanol ar gyfer safbwynt ehangach. Mae defnyddio dulliau adborth cynhwysol yn sicrhau nad ydych chi&#8217;n colli mewnwelediadau unrhyw un oherwydd diffyg mynediad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn seiliedig ar arfer gorau a phrofiad bywyd, mae&#8217;r Safon Dulliau Adborth Cynhwysol yn gwneud yn si\u0175r:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>bod cyfleoedd rheolaidd ar gael i gynnig adborth yn ystod cyflawni&#8217;r prosiect<\/li>\n\n\n\n<li>bod adborth yn cael ei gasglu gan amrywiaeth o leisiau<\/li>\n\n\n\n<li>bod y broses adborth yn hygyrch<\/li>\n\n\n\n<li>eich bod yn defnyddio amrywiaeth o fformatau adborth fel y gall pobl ddefnyddio&#8217;r hyn sy&#8217;n hygyrch iddyn nhw <\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div id=\"examples\" class=\"wp-block-ace-standard-examples bg_grey inner-padding standard-examples\"><h3>Enghraifft ymarferol<\/h3>\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading wp-block-ace-intro content-intro\"><\/h4>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-ace-standard-example standard-example\">\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-8f761849 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<div class=\"wp-block-ace-image content-image alt-block\"><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<div class=\"wp-block-ace-content-blocks border-top\">\n<div class=\"wp-block-ace-intro content-intro\"><p>Mae <a href=\"https:\/\/attitudeiseverything.org.uk\/support-us\/volunteer\/mystery-shopping\/\">Cynllun Siopa Dirgel<\/a> Attitude is Everything yn asesu hygyrchedd lleoliadau, digwyddiadau a phrofiadau creadigol a diwylliannol trwy eu rhwydwaith o siopwyr dirgel.<\/p><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div id=\"key_considerations\" class=\"wp-block-ace-standard-key-considerations standard-key-considerations standard-content\"><h3>Ystyriaethau allweddol<\/h3>\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\">Pwy sydd wedi&#8217;i gynnwys<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Anelwch at ddatblygu dulliau adborth sy&#8217;n mynd ati i geisio mewnbwn gan bawb sy&#8217;n ymwneud \u00e2 phrosiect. Gallai hyn gynnwys cynulleidfaoedd a mynychwyr, cyfranogwyr, artistiaid a phobl greadigol, <span data-definition=\"gweithwyr-llawrydd\" data-definition-id=\"9857\" title=\"Gweithwyr llawrydd\" data-definition-name=\"Freelancers\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span>, gwirfoddolwyr, a&#8217;ch t\u00eem cyflawni staff.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\">Ffyrdd o gasglu adborth<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ystyriwch ddefnyddio dulliau amrywiol i gasglu adborth, megis arolygon, pleidleisiau, sgyrsiau anffurfiol, neu fyfyrdodau gr\u0175p wedi&#8217;u hwyluso. Sicrhewch fod pob dull yn hygyrch, yn addas ac yn ystyriol o anghenion pob gr\u0175p. Er enghraifft, ar gyfer rhai grwpiau, efallai y byddai&#8217;n well gennych gadw&#8217;r <span data-definition=\"gwerthuso\" data-definition-id=\"9605\" title=\"Gwerthuso\" data-definition-name=\"Evaluation\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span>yn syml iawn trwy ofyn un prif gwestiwn neu ganolbwyntio ar un thema er mwyn osgoi llethu&#8217;r cyfranogwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Meddyliwch am wahanol ffyrdd o gasglu adborth nad ydynt yn dibynnu ar ddarllen neu ysgrifennu. Gallai hyn gynnwys pleidleisio gyda chownter neu ddewis ymateb sy&#8217;n seiliedig ar ddelwedd. Mae&#8217;r Sensory Trust yn cynghori dulliau fel:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>defnyddio symbolau i gofnodi ymatebion pobl<\/li>\n\n\n\n<li>gwahodd pobl i arlunio neu ychwanegu at ddarlun i ddangos sut maen nhw&#8217;n teimlo <\/li>\n\n\n\n<li>creu elfen debyg i g\u00eam, fel gofyn i bobl osod sticer yn uwch neu&#8217;n is, yn dibynnu ar sut maen nhw&#8217;n teimlo<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnewch yn si\u0175r bod anghenion mynediad pobl yn cael eu diwallu trwy gydol y broses, er enghraifft, trwy ddarparu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch fel <span data-definition=\"print-bras\" data-definition-id=\"9654\" title=\"Print bras\" data-definition-name=\"Large print\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span>neu ffont sy&#8217;n addas ar gyfer pobl \u00e2 dyslecsia lle y bo&#8217;n bosib.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddwch yn hyblyg ac yn agored i newid sut rydych chi&#8217;n casglu adborth i weddu i anghenion mynediad rhywun. Gallai hyn gynnwys anfon cwestiynau cyfweliad neu \u00f4l-drafodaeth ymlaen llaw, neu dderbyn adborth mewn gwahanol fformatau, fel myfyrdodau ysgrifenedig, fformatau clywedol, fideo, neu sgwrs anffurfiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cofiwch efallai y bydd pobl yn dymuno myfyrio ar eu profiad ar wahanol gyflymderau. Efallai y byddai&#8217;n well gan rai fynd ag arolwg i ffwrdd gyda nhw a meddwl amdano yn nes ymlaen, tra bod yn well gan eraill roi ymateb ar unwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am ragor o wybodaeth am fformatau hygyrch, gweler <a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/gwasanaeth-cwsmeriaid\/cynllunio-ymweliad\/fformatau-gwybodaeth\/\">Gwasanaeth Cwsmeriaid 1.02 Fformatau gwybodaeth<\/a>, <a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/cyfathrebu-digidol\/dolenni-botymau-ffurflenni-ac-arolygon\/ffurflenni\/\">Cyfathrebu Digidol&nbsp;3.05 Ffurflenni<\/a>,&nbsp;a <a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/cyfathrebu-digidol\/dolenni-botymau-ffurflenni-ac-arolygon\/arolygon\/\">Cyfathrebu Digidol&nbsp;3.06 Arolygon&nbsp;<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\">Mathau o ddata<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ystyriwch gasglu <span data-definition=\"data-ansoddol\" data-definition-id=\"9703\" title=\"Data ansoddol\" data-definition-name=\"Qualitative data\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span> a <span data-definition=\"data-meintiol\" data-definition-id=\"9704\" title=\"Data meintiol\" data-definition-name=\"Quantitative data\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span>. Mae data ansoddol yn cynnwys meddyliau a theimladau pobl. Mae data meintiol yn cynnwys rhifau y gallwch eu cyfrif neu eu mesur. Mae&#8217;r dull hwn yn eich helpu i ddeall allbynnau\u2019r prosiect a phrofiadau&#8217;r rheini sy&#8217;n cymryd rhan.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r dull hwn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cofnodi profiadau manwl cynulleidfaoedd o ran mynediad. Mae hefyd yn eich helpu i ddeall cyd-destun ehangach ymweliad rhywun. Gall trafod mynediad, yn enwedig profiadau negyddol, fod yn heriol neu&#8217;n gymhleth i lawer o bobl anabl. Ystyriwch ddefnyddio sgyrsiau hamddenol neu ddulliau creadigol i gasglu teimladau a hwyliau. Mae paru&#8217;r rhain \u00e2 dulliau meintiol, fel arolygon neu gownteri, yn cynnig golwg gliriach ar brofiad rhywun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch ddefnyddio gwybodaeth ansoddol i ychwanegu dyfnder at eich <span data-definition=\"gwerthuso\" data-definition-id=\"9605\" title=\"Gwerthuso\" data-definition-name=\"Evaluation\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span>. Mae&#8217;n helpu i esbonio neu ddarparu cyd-destun i&#8217;r adborth meintiol rydych chi&#8217;n ei gasglu.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\">Dulliau adborth allanol<\/h4>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-ace-image content-image alt-block\"><figure class=\"fill block-image alt-block\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-15-scaled.jpg\" alt=\"Ymwelydd h\u0177n wrth bwynt gwasanaeth cwsmeriaid yn rhoi bawd i fyny i aelod o staff.\"\/><button class=\"toggle_modal\" aria-controls=\"lightbox_5691\" aria-expanded=\"false\" data-modal_id=\"lightbox_5691\"><span class=\"screen-reader-text\">Zoom into the image<\/span><svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"31.999\" height=\"31.994\"><g fill=\"#fff\"><path d=\"M13.648 27.287a13.579 13.579 0 0 0 8.168-2.718l7.425 7.425 2.758-2.758-7.425-7.425a13.644 13.644 0 1 0-10.925 5.477Zm0-23.389a9.748 9.748 0 1 1-6.89 2.855 9.737 9.737 0 0 1 6.89-2.853Z\" class=\"zoom_svg__has_white\" data-name=\"Path 1776\"><\/path><path d=\"M11.701 19.49h3.9v-3.894h3.9v-3.9h-3.9v-3.9h-3.9v3.9h-3.9v3.9h3.9Z\" class=\"zoom_svg__has_white\" data-name=\"Path 1777\"><\/path><\/g><\/svg><\/button><div class=\"alt_block\"><button class=\"alt_trigger\" aria-label=\"Amgen\">Amgen<\/button><div class=\"alt_modal\" id=\"image_block_5691\" role=\"dialog\" aria-label=\"Alt text\" aria-describedby=\"desc_image_block_5691\"><p id=\"desc_image_block_5691\">Ymwelydd h\u0177n wrth bwynt gwasanaeth cwsmeriaid yn rhoi bawd i fyny i aelod o staff.<\/p><button class=\"close\">Cau <span class=\"screen-reader-text\">Amgen<\/span><\/button><\/div><\/div><div id=\"lightbox_5691\" class=\"lightbox modal\" aria-hidden=\"true\" tabindex=\"-1\"><div class=\"lightbox-content\"><button class=\"close\" aria-controls=\"lightbox_5691\"><span class=\"screen-reader-text\">Close zoomed image<\/span>\u00d7<\/button><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-15-scaled.jpg\" alt=\"Ymwelydd h\u0177n wrth bwynt gwasanaeth cwsmeriaid yn rhoi bawd i fyny i aelod o staff.\"\/><\/div><\/div><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Disgrifiad o\u2019r llun<\/strong>: Siopwr dirgel yn rhyngweithio ag aelod o staff wrth bwynt gwasanaeth cwsmeriaid.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ystyriwch ychwanegu adborth allanol at eich proses <span data-definition=\"gwerthuso\" data-definition-id=\"9605\" title=\"Gwerthuso\" data-definition-name=\"Evaluation\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span>. Gall hyn eich helpu i gasglu barn gan bobl y tu allan i&#8217;ch sefydliad nad ydynt yn rhan o&#8217;ch cynulleidfa graidd. Gallech redeg grwpiau ffocws gydag aelodau o&#8217;r gymuned neu ddefnyddio cynllun siopwr dirgel i wirio hygyrchedd. Rhannwch y mewnwelediadau hyn \u00e2&#8217;ch t\u00eem. Mae hyn yn sicrhau bod eich sefydliad yn dysgu oddi wrthynt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er enghraifft, mae cynllun siopa dirgel Attitude Is Everything <a href=\"https:\/\/attitudeiseverything.org.uk\/support-us\/volunteer\/mystery-shopping\/\"><\/a> yn asesu profiad pobl anabl sy&#8217;n ymweld \u00e2 mannau creadigol a diwylliannol trwy system adrodd strwythuredig. Mae system strwythuredig fel hon yn darparu ffordd ddiogel i bobl rannu adborth cadarnhaol a negyddol yn onest, wedi&#8217;i hidlo trwy hwylusydd neu broses annibynnol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y byddwch chi&#8217;n defnyddio dulliau fel hyn ar gyfer gwerthuso hygyrchedd yn barhaus yn eich lleoliad neu o fewn eich sefydliad, neu i fyfyrio ar ddigwyddiad mwy, fel g\u0175yl, arddangosfa hirhoedlog, neu dymor penodol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\">Adolygiad parhaus<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Meddyliwch am sefydlu pwyntiau gwirio dynodedig i asesu cynnydd yn ystod camau cynllunio a chyflawni&#8217;r prosiect. Gallai hyn gynnwys adolygiadau canol prosiect, cyfarfodydd gyda thimau cyflawni, a myfyrdodau anffurfiol gyda phobl greadigol neu gyfranogwyr. Gallai hefyd gynnwys ymateb i adborth y gynulleidfa wrth i&#8217;r prosiect fynd rhagddo.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynlluniwch eich pwyntiau adolygu ymlaen llaw a rhowch wybod i&#8217;r t\u00eem prosiect cyfan o&#8217;r hyn a fydd yn cael ei gynnwys. Eglurwch fod hyn er mwyn i chi allu addasu eich proses os oes angen.<br>Gall casglu adborth wrth i chi fynd ymlaen arwain at ganlyniadau gwell i&#8217;ch prosiect a&#8217;ch helpu i wneud eich ffyrdd o weithio yn fwy cynhwysol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\">Cynllunio ar gyfer y dyfodol<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth werthuso prosiect, penderfynwch sut y byddwch chi&#8217;n cymhwyso&#8217;r hyn rydych chi wedi&#8217;i ddysgu i lywio prosiectau neu ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Nodwch unrhyw newidiadau ehangach i bolis\u00efau, prosesau a gweithdrefnau sydd angen eu rhoi ar waith. Penderfynwch pwy fydd yn gyfrifol am wneud y newidiadau hynny a chyfathrebu amdanynt. Gelwir hyn weithiau yn <span data-definition=\"strwythur-atebolrwydd\" data-definition-id=\"9532\" title=\"Strwythur atebolrwydd\" data-definition-name=\"Accountability structure\" class=\"ace-definition-inserter\"><\/span>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am ragor o wybodaeth am strwythurau atebolrwydd, cyfeiriwch at <a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/gwasanaeth-cwsmeriaid\/gwelliant-parhaus\/strwythurau-atebolrwydd\/\">Gwasanaeth Cwsmeriaid 4.03 Strwythurau Atebolrwydd<\/a>.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div id=\"specification_table\" class=\"wp-block-ace-specification-table bg_white specification_table hide\"><h3>Safon &#8211; manylebau<\/h3><div class=\"bg_grey inner-padding\"><table class=\"specification-table\"><tbody><\/tbody><\/table><\/div><\/div>\n\n\n\n<div id=\"influencing_accessible_practice\" class=\"wp-block-ace-standard-influencing-accessible-practice standard-influencing-accessible-practice standard-content hide\"><h3>Dylanwadu ar arfer hygyrch<\/h3>\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\"><\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div id=\"definitions_list\" class=\"wp-block-ace-definitions-list bg_white\"><h3>Diffiniadau ac acronymau<\/h3><div class=\"ace-definitions-list bg_grey inner-padding\"><div class=\"ace-definition-item\"><h4>Data ansoddol<\/h4><div><p>Gwybodaeth am feddyliau, teimladau a phrofiadau pobl. Mae&#8217;n aml yn defnyddio geiriau neu luniau yn hytrach na rhifau.<\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"ace-definition-item\"><h4>Data meintiol<\/h4><div><p>Gwybodaeth y gallwch ei chyfrif neu ei mesur gyda rhifau. Gall hon ddweud wrthych faint neu ba mor aml y mae rhywbeth yn digwydd.<\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"ace-definition-item\"><h4>Gweithwyr llawrydd<\/h4><div><p>Mae hyn yn golygu unigolyn sy&#8217;n gweithio i&#8217;w hun ac sy&#8217;n cael ei dalu i wneud gwaith byrdymor i wahanol sefydliadau. Er enghraifft, gallai rhywun sy&#8217;n gwneud swydd fel rheolwr llwyfan, golygydd fideo neu ddehonglwr iaith arwyddion fod yn weithiwr llawrydd.<\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"ace-definition-item\"><h4>Gwerthuso<\/h4><div><p>Pan fyddwch yn edrych ar ba mor dda yr aeth prosiect. Gallech wneud hyn i ddeall barn pobl arno a sut y gallech wneud pethau yn well yn y dyfodol. Mae gwerthuso yn eich helpu i ddeall a wnaethoch gyflawni eich nodau a&#8217;r hyn a ddysgwyd gennych.<\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"ace-definition-item\"><h4>Print bras<\/h4><div><p>Diffinnir print bras gan yr RNIB fel Arial 16pt neu fwy. Ni ddylech gyfeirio at ddogfen fel dogfen print bras oni bai ei bod yn cydymffurfio \u00e2&#8217;r safon hon. Dylai dogfennau print bras hefyd gydymffurfio \u00e2 chanllawiau print eglur eraill yn ymwneud \u00e2 chynllun, defnydd o ffontiau a lluniau.<\/p>\n<\/div><\/div><div class=\"ace-definition-item\"><h4>Strwythur atebolrwydd<\/h4><div><p>Cynllun ar gyfer sut y byddwch yn gwneud newidiadau os byddwch yn darganfod bod eich gweithredoedd yn creu rhwystrau i fynediad i bobl. Mae&#8217;r cynllun yn cynnwys gwybod pa bobl sy&#8217;n gyfrifol am wneud yn si\u0175r bod y newidiadau wir yn cael eu gwneud.<\/p>\n<\/div><\/div><\/div><\/div>\n\n\n\n<div id=\"learning_resources\" class=\"wp-block-ace-standard-learning-resources standard-content\"><h3>Adnoddau dysgu<\/h3><div class=\"links-on-newtab-text\"><\/div>\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\"><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/sendinmuseums.org\/how-to-work-with-send\/getting-started\/interpretation-and-resources\/evaluation\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">SEND in Museums:\u00a0Evaluation (Dolen allanol yn Saesneg)<\/a>\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.sensorytrust.org.uk\/blog\/how-to-ensure-your-evaluation-is-creative-and-inclusive\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Sensory Trust: Our Top Tips for Creative&nbsp;Evaluation (Dolen allanol yn Saesneg)<\/a> <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.sensorytrust.org.uk\/resources\/guidance\/using-widgit-and-symbol-languages\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Sensory Trust: Using Widgit and Symbol Languages (Dolen allanol yn Saesneg)<\/a> <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/imagination.lancaster.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Little-Book-of-CE-Digital-PDF-2023.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Imagination Lancaster: Little Book of Creative&nbsp;Evaluation (Dolen allanol yn Saesneg)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/inclusion.sciencecentres.org.uk\/evaluating-inclusion\/practical-creative-tools\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Association for Science and Discovery Centres: Practical and Creative Tools (Dolen allanol yn Saesneg)<\/a> <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.publicengagement.ac.uk\/resources\/tools-and-frameworks\/inspiring-learning-all-generic-learning-outcomes\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">National Co-ordinating Centre for Public Engagement: Inspiring Learning for All: Generic Learning Outcomes (Dolen allanol yn Saesneg)<\/a> <\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div id=\"skills_development\" class=\"wp-block-ace-standard-skills-development standard-skills-development standard-content hide\"><h3>Cymorth a datblygu sgiliau<\/h3>\n<h4 class=\"wp-block-ace-heading\"><\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div>\n\n\n\t<div id=\"linked_standards\" class=\"wp-block page-links wp-block-ace-linked-standards \">\n\t\t\t<h3 class=\"block-title\">\n\t\t\t\tSafonau cysylltiedig\t\t\t<\/h3>\n\t\t\t\t\t\t<div class='flex flex_50 link_blocks'>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"flex_item post_item bg_grey--dark\">\n\t\t\t\t\t\t\t<picture class=\"featured-img alt-block\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-6316-1024x683.jpg\" class=\"attachment-large size-large wp-post-image\" alt=\"Person yn dal canllaw print bras o&#039;r enw &quot;Oriel Leeds 3ydd chwarter&quot; mewn lleoliad amgueddfa.\" srcset=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-6316-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-6316-300x200.jpg 300w, https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-6316-768x512.jpg 768w, https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-6316-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-6316-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t<div class = \"alt_block\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<button class=\"alt_trigger\" aria-label=\"Open the Image Description\">Amgen<\/button>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"alt_modal\" id=\"5848\" role=\"dialog\" aria-label=\"Image Description\" aria-describedby=\"desc_9943\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p id=\"desc_9943\">Person yn dal canllaw print bras o&#8217;r enw &#8220;Oriel Leeds 3ydd chwarter&#8221; mewn lleoliad amgueddfa.<\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<button class=\"close\">Cau <span class=\"screen-reader-text\">Disgrifiad Delwedd\n<\/span><\/button>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t<\/picture>\n\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"linked_standard--content inner-padding card\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<h4>1.02 Fformatau Gwybodaeth<\/h4>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Mae deunyddiau gwybodaeth yn hygyrch fel mater o drefn.<a href=\"\/login\" class=\"locked card_target\"><span aria-hidden=\"true\"><svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"14.999\" height=\"18\" viewBox=\"0 0 14.999 18\">\n  <path id=\"unlock\" d=\"M13.507,7.5H3.75V5.249A3.741,3.741,0,0,1,11.022,4l1.133-1.133a5.234,5.234,0,0,0-9.9,2.378V7.5H1.493A1.5,1.5,0,0,0,0,9V16.5A1.5,1.5,0,0,0,1.493,18H13.507A1.5,1.5,0,0,0,15,16.5V9a1.5,1.5,0,0,0-1.492-1.5\" transform=\"translate(0)\" fill=\"#472961\" fill-rule=\"evenodd\"\/>\n<\/svg><br \/>\n<\/span>This content is only available to logged in users.<\/a><\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"31.832\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 31.832 24\">\n  <path id=\"arrow\" d=\"M33.728,24.848l-10.2-10.2a1.773,1.773,0,1,0-2.508,2.508l7.189,7.189H4.272a1.772,1.772,0,0,0,0,3.545H28.178L21.022,35.08a1.755,1.755,0,0,0,0,2.508,1.827,1.827,0,0,0,1.271.536,1.747,1.747,0,0,0,1.271-.536L33.8,27.355a1.827,1.827,0,0,0,.536-1.271,2.283,2.283,0,0,0-.6-1.237Z\" transform=\"translate(-2.499 -14.123)\" fill=\"#472961\"\/>\n<\/svg>\n\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"flex_item post_item bg_grey--dark\">\n\t\t\t\t\t\t\t<picture class=\"featured-img alt-block\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-175-1024x683.jpg\" class=\"attachment-large size-large wp-post-image\" alt=\"Mae nifer o bobl yn eistedd mewn theatr gyda seddi lliw glaswyrdd, yn gwylio rhywbeth ar y llwyfan neu&#039;r sgrin. Mae un person yn gwisgo derbynnydd disgrifiad sain ar ddolen gwddf. Yn y cefndir, mae rhywun yn gwisgo amddiffynwyr clustiau oren llachar.\" srcset=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-175-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-175-300x200.jpg 300w, https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-175-768x512.jpg 768w, https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-175-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-175-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t<div class = \"alt_block\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<button class=\"alt_trigger\" aria-label=\"Open the Image Description\">Amgen<\/button>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"alt_modal\" id=\"6318\" role=\"dialog\" aria-label=\"Image Description\" aria-describedby=\"desc_9923\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p id=\"desc_9923\">Mae nifer o bobl yn eistedd mewn theatr gyda seddi lliw glaswyrdd, yn gwylio rhywbeth ar y llwyfan neu&#8217;r sgrin. Mae un person yn gwisgo derbynnydd disgrifiad sain ar ddolen gwddf. Yn y cefndir, mae rhywun yn gwisgo amddiffynwyr clustiau oren llachar.<\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<button class=\"close\">Cau <span class=\"screen-reader-text\">Disgrifiad Delwedd\n<\/span><\/button>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t<\/picture>\n\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"linked_standard--content inner-padding card\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<h4>4.03 Strwythurau Atebolrwydd<\/h4>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Creu strwythur atebolrwydd i sicrhau bod ymrwymiadau i hygyrchedd (a gwrthableddiaeth) yn cael eu cynnal.<a href=\"\/login\" class=\"locked card_target\"><span aria-hidden=\"true\"><svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"14.999\" height=\"18\" viewBox=\"0 0 14.999 18\">\n  <path id=\"unlock\" d=\"M13.507,7.5H3.75V5.249A3.741,3.741,0,0,1,11.022,4l1.133-1.133a5.234,5.234,0,0,0-9.9,2.378V7.5H1.493A1.5,1.5,0,0,0,0,9V16.5A1.5,1.5,0,0,0,1.493,18H13.507A1.5,1.5,0,0,0,15,16.5V9a1.5,1.5,0,0,0-1.492-1.5\" transform=\"translate(0)\" fill=\"#472961\" fill-rule=\"evenodd\"\/>\n<\/svg><br \/>\n<\/span>This content is only available to logged in users.<\/a><\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"31.832\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 31.832 24\">\n  <path id=\"arrow\" d=\"M33.728,24.848l-10.2-10.2a1.773,1.773,0,1,0-2.508,2.508l7.189,7.189H4.272a1.772,1.772,0,0,0,0,3.545H28.178L21.022,35.08a1.755,1.755,0,0,0,0,2.508,1.827,1.827,0,0,0,1.271.536,1.747,1.747,0,0,0,1.271-.536L33.8,27.355a1.827,1.827,0,0,0,.536-1.271,2.283,2.283,0,0,0-.6-1.237Z\" transform=\"translate(-2.499 -14.123)\" fill=\"#472961\"\/>\n<\/svg>\n\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"flex_item post_item bg_grey--dark\">\n\t\t\t\t\t\t\t<picture class=\"featured-img alt-block\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/themes\/ace\/assets\/fallback.jpeg\" alt=\"Llun dalfan\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t<div class = \"alt_block\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<button class=\"alt_trigger\" aria-label=\"Open the Image Description\">Amgen<\/button>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"alt_modal\" id=\"0\" role=\"dialog\" aria-label=\"Image Description\" aria-describedby=\"desc_10081\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p id=\"desc_10081\">Llun dalfan<\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<button class=\"close\">Cau <span class=\"screen-reader-text\">Disgrifiad Delwedd\n<\/span><\/button>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t<\/picture>\n\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"linked_standard--content inner-padding card\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<h4>3.05 Ffurflenni<\/h4>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Creu ffurflenni sy\u2019n hawdd eu deall, eu cwblhau a\u2019u cyflwyno.<a href=\"\/login\" class=\"locked card_target\"><span aria-hidden=\"true\"><svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"14.999\" height=\"18\" viewBox=\"0 0 14.999 18\">\n  <path id=\"unlock\" d=\"M13.507,7.5H3.75V5.249A3.741,3.741,0,0,1,11.022,4l1.133-1.133a5.234,5.234,0,0,0-9.9,2.378V7.5H1.493A1.5,1.5,0,0,0,0,9V16.5A1.5,1.5,0,0,0,1.493,18H13.507A1.5,1.5,0,0,0,15,16.5V9a1.5,1.5,0,0,0-1.492-1.5\" transform=\"translate(0)\" fill=\"#472961\" fill-rule=\"evenodd\"\/>\n<\/svg><br \/>\n<\/span>This content is only available to logged in users.<\/a><\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"31.832\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 31.832 24\">\n  <path id=\"arrow\" d=\"M33.728,24.848l-10.2-10.2a1.773,1.773,0,1,0-2.508,2.508l7.189,7.189H4.272a1.772,1.772,0,0,0,0,3.545H28.178L21.022,35.08a1.755,1.755,0,0,0,0,2.508,1.827,1.827,0,0,0,1.271.536,1.747,1.747,0,0,0,1.271-.536L33.8,27.355a1.827,1.827,0,0,0,.536-1.271,2.283,2.283,0,0,0-.6-1.237Z\" transform=\"translate(-2.499 -14.123)\" fill=\"#472961\"\/>\n<\/svg>\n\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"flex_item post_item bg_grey--dark\">\n\t\t\t\t\t\t\t<picture class=\"featured-img alt-block\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/themes\/ace\/assets\/fallback.jpeg\" alt=\"Llun dalfan\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t<div class = \"alt_block\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<button class=\"alt_trigger\" aria-label=\"Open the Image Description\">Amgen<\/button>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"alt_modal\" id=\"0\" role=\"dialog\" aria-label=\"Image Description\" aria-describedby=\"desc_10044\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p id=\"desc_10044\">Llun dalfan<\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<button class=\"close\">Cau <span class=\"screen-reader-text\">Disgrifiad Delwedd\n<\/span><\/button>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t<\/picture>\n\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"linked_standard--content inner-padding card\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<h4>3.06 Arolygon<\/h4>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Cr\u00ebwch arolygon mewn ffyrdd sy\u2019n hawdd eu deall a\u2019u llenwi.<a href=\"\/login\" class=\"locked card_target\"><span aria-hidden=\"true\"><svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"14.999\" height=\"18\" viewBox=\"0 0 14.999 18\">\n  <path id=\"unlock\" d=\"M13.507,7.5H3.75V5.249A3.741,3.741,0,0,1,11.022,4l1.133-1.133a5.234,5.234,0,0,0-9.9,2.378V7.5H1.493A1.5,1.5,0,0,0,0,9V16.5A1.5,1.5,0,0,0,1.493,18H13.507A1.5,1.5,0,0,0,15,16.5V9a1.5,1.5,0,0,0-1.492-1.5\" transform=\"translate(0)\" fill=\"#472961\" fill-rule=\"evenodd\"\/>\n<\/svg><br \/>\n<\/span>This content is only available to logged in users.<\/a><\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<svg xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" width=\"31.832\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 31.832 24\">\n  <path id=\"arrow\" d=\"M33.728,24.848l-10.2-10.2a1.773,1.773,0,1,0-2.508,2.508l7.189,7.189H4.272a1.772,1.772,0,0,0,0,3.545H28.178L21.022,35.08a1.755,1.755,0,0,0,0,2.508,1.827,1.827,0,0,0,1.271.536,1.747,1.747,0,0,0,1.271-.536L33.8,27.355a1.827,1.827,0,0,0,.536-1.271,2.283,2.283,0,0,0-.6-1.237Z\" transform=\"translate(-2.499 -14.123)\" fill=\"#472961\"\/>\n<\/svg>\n\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\n\n\t<div id=\"references\" class=\"wp_block references wp-block-ace-standard-references \">\n\t\t<h3 class=\"block-title\">\n\t\t\tCyfeiriadau allanol\t\t<\/h3>\n\n\t\t<div class=\"links-on-newtab-text\"><\/div>\n\t\t<ol class=\"references-list\">\n\t\t\t\t\t\t\t<li class = \"references-list-item\"><p>Association for Science and Discovery Centres. (n.d.) Practical and Creative Tools [online] Available at: <a href=\"https:\/\/inclusion.sciencecentres.org.uk\/evaluating-inclusion\/practical-creative-tools\/\">Practical and creative tools evaluation<\/a> [Accessed 29 July 2025]<\/p>\n<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t<li class = \"references-list-item\"><p>Imagination Lancaster. (n.d.) Little Book of Creative Evaluation [online] Available at: <a href=\"https:\/\/imagination.lancaster.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Little-Book-of-CE-Digital-PDF-2023.pdf\">Little book of creative evaluation<\/a> [Accessed 29 July 2025]<\/p>\n<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t<li class = \"references-list-item\"><p>National Co-ordinating Centre for Public Engagement. (n.d.) Inspiring Learning for All: Generic Learning Outcomes [online] Available at: <a href=\"https:\/\/www.publicengagement.ac.uk\/resources\/tools-and-frameworks\/inspiring-learning-all-generic-learning-outcomes\">Inspiring learning: generic learning outcomes<\/a> [Accessed 29 July 2025]<\/p>\n<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t<li class = \"references-list-item\"><p>SEND in Museums. (n.d.) Evaluation [online] Available at: <a href=\"https:\/\/sendinmuseums.org\/how-to-work-with-send\/getting-started\/interpretation-and-resources\/evaluation\/\">SEND in museums evaluation<\/a> [Accessed 29 July 2025]<\/p>\n<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t<li class = \"references-list-item\"><p>Sensory Trust. (n.d.) Our Top Tips for Creative Evaluation [online] Available at: <a href=\"https:\/\/www.sensorytrust.org.uk\/blog\/how-to-ensure-your-evaluation-is-creative-and-inclusive\">Top tips for creative evaluation<\/a> [Accessed 29 July 2025]<\/p>\n<\/li>\n\t\t\t\t\t\t\t<li class = \"references-list-item\"><p>Sensory Trust. (n.d.) Using Widgit and Symbol Languages [online] Available at: <a href=\"https:\/\/www.sensorytrust.org.uk\/resources\/guidance\/using-widgit-and-symbol-languages\">Using Widgit and symbol languages<\/a> [Accessed 29 July 2025]<\/p>\n<\/li>\n\t\t\t\t\t<\/ol>\n\t<\/div> \n<\/div><aside class=\"sidebar flex-item\"><h3>5.02 Dulliau Adborth Cynhwysol<\/h3><nav class=\"sub-nav\"><ul><li><a href=\"#overview\">Trosolwg<\/a><\/li><li><a href=\"#examples\">Enghraifft ymarferol<\/a><\/li><li><a href=\"#key_considerations\">Ystyriaethau allweddol<\/a><\/li><li><a href=\"#definitions_list\">Diffiniadau ac acronymau<\/a><\/li><li><a href=\"#learning_resources\">Adnoddau dysgu<\/a><\/li><li><a href=\"#linked_standards\">Safonau cysylltiedig<\/a><\/li><li><a href=\"#references\">Cyfeiriadau allanol<\/a><\/li><\/ul><\/nav><div class=\"hide fixed scroll_menu\" aria-live=\"polite\"><h3>5.02 Dulliau Adborth Cynhwysol<\/h3><ul><li><a href=\"#overview\">Trosolwg<\/a><\/li><li><a href=\"#examples\">Enghraifft ymarferol<\/a><\/li><li><a href=\"#key_considerations\">Ystyriaethau allweddol<\/a><\/li><li><a href=\"#definitions_list\">Diffiniadau ac acronymau<\/a><\/li><li><a href=\"#learning_resources\">Adnoddau dysgu<\/a><\/li><li><a href=\"#linked_standards\">Safonau cysylltiedig<\/a><\/li><li><a href=\"#references\">Cyfeiriadau allanol<\/a><\/li><\/ul><a href=\"https:\/\/form.jotform.com\/252393341563356?standard=Profiadau Creadigol a Diwylliannol 5.02 Dulliau Adborth Cynhwysol\" class=\"feedback_link button bg_secondary white\">Rhowch adborth i ni ar y Safon hon<\/a><a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/\" class=\"return_link\">Yn \u00f4l i Profiadau Creadigol a Diwylliannol<\/a><\/div><a href=\"https:\/\/form.jotform.com\/252393341563356?standard=Profiadau Creadigol a Diwylliannol 5.02 Dulliau Adborth Cynhwysol\" class=\"feedback_link button bg_secondary white\">Rhowch adborth i ni ar y Safon hon<\/a><a href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/\" class=\"return_link\">Yn \u00f4l i Profiadau Creadigol a Diwylliannol<\/a><\/aside><\/div>\n","protected":false},"featured_media":5693,"parent":10007,"menu_order":2,"template":"","class_list":["post-10187","standard","type-standard","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":{"short_description":"Mae dulliau gwerthuso yn hygyrch fel bod adborth yn cynnwys ystod o safbwyntiau ac yn arwain at welliant ystyrlon. ","make_visible_to_taster_account":false},"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.9 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dulliau Adborth Cynhwysol - All In<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dulliau Adborth Cynhwysol - All In\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"All In\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-10-19T22:17:54+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-15-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1706\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\\\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\\\/dulliau-adborth-cynhwysol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\\\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\\\/dulliau-adborth-cynhwysol\\\/\",\"name\":\"Dulliau Adborth Cynhwysol - All In\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\\\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\\\/dulliau-adborth-cynhwysol\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\\\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\\\/dulliau-adborth-cynhwysol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/11\\\/ACE-All-In-15-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2025-11-12T16:31:40+00:00\",\"dateModified\":\"2026-10-19T22:17:54+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\\\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\\\/dulliau-adborth-cynhwysol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\\\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\\\/dulliau-adborth-cynhwysol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\\\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\\\/dulliau-adborth-cynhwysol\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/11\\\/ACE-All-In-15-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/11\\\/ACE-All-In-15-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1706,\"caption\":\"Ymwelydd h\u0177n wrth bwynt gwasanaeth cwsmeriaid yn rhoi bawd i fyny i aelod o staff.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\\\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\\\/dulliau-adborth-cynhwysol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Profiadau Creadigol a Diwylliannol\",\"item\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/creative-and-cultural-experiences\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gwerthuso a Gwelliant Parhaus\",\"item\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/standard\\\/creative-and-cultural-experiences\\\/evaluation-and-continuous-improvement\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Dulliau Adborth Cynhwysol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/\",\"name\":\"All in\",\"description\":\"Croeso i bawb\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"All in\",\"url\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/11\\\/696x696.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/11\\\/696x696.png\",\"width\":696,\"height\":696,\"caption\":\"All in\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/allin.online\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dulliau Adborth Cynhwysol - All In","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dulliau Adborth Cynhwysol - All In","og_url":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/","og_site_name":"All In","article_modified_time":"2026-10-19T22:17:54+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1706,"url":"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-15-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/","url":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/","name":"Dulliau Adborth Cynhwysol - All In","isPartOf":{"@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-15-scaled.jpg","datePublished":"2025-11-12T16:31:40+00:00","dateModified":"2026-10-19T22:17:54+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/#primaryimage","url":"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-15-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/ACE-All-In-15-scaled.jpg","width":2560,"height":1706,"caption":"Ymwelydd h\u0177n wrth bwynt gwasanaeth cwsmeriaid yn rhoi bawd i fyny i aelod o staff."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/profiadau-creadigol-a-diwylliannol\/gwerthuso-a-gwelliant-parhaus\/dulliau-adborth-cynhwysol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/allin.online\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Profiadau Creadigol a Diwylliannol","item":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/creative-and-cultural-experiences\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gwerthuso a Gwelliant Parhaus","item":"https:\/\/allin.online\/cy\/standard\/creative-and-cultural-experiences\/evaluation-and-continuous-improvement\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Dulliau Adborth Cynhwysol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/#website","url":"https:\/\/allin.online\/cy\/","name":"All in","description":"Croeso i bawb","publisher":{"@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/allin.online\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/#organization","name":"All in","url":"https:\/\/allin.online\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/696x696.png","contentUrl":"https:\/\/allin.online\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/696x696.png","width":696,"height":696,"caption":"All in"},"image":{"@id":"https:\/\/allin.online\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/allin.online\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/standard\/10187","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/allin.online\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/standard"}],"about":[{"href":"https:\/\/allin.online\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/standard"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/allin.online\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/standard\/10007"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/allin.online\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5693"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/allin.online\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10187"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}